Gosod pont ddi-draffig i gerddwyr a beicwyr
Bydd pont newydd i gerddwyr a beicwyr yn cael ei gosod uwchben Afon Elái y penwythnos hwn.

Mae'r bont yn rhan o broject gan Gyngor Dinas Caerdydd i wella'r cyfleusterau cerdded a beicio ar hyd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Heol Orllewinol y Bont-faen a Chymdogaethau Cerddedadwy yn Nhrelái a Chaerau.
Bydd y llwybr cerdded a beicio di-draffig yn ei gwneud yn haws i bobl sy'n byw yn Nhrelái a Chaerau gerdded a beicio i leoliadau i'r dwyrain o Bont Trelái a chyrchu Llwybr Trelái a gaiff ei ymestyn i redeg trwy Safle Tai'r Felin drwy bromenâd ar lan yr afon.
Mae'r bont yn rhan o ail gam Project Teithio Llesol y Coridor Gorllewinol a bydd yn gwbl ar wahân i bont droed Afon Elái. Mae'r ail gam yn cynnwys y bont newydd a llwybr a rennir a fydd yn ei gysylltu â llwybrau ar Safle Tai'r Felin a Llwybr Elái.
Roedd y cam cyntaf yn cynnwys Croesfan Twcan i gerddwyr a beicwyr a chyfleusterau llwybr a rennir gwell ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen wrth ymyl Cylchfan Pont Trelái.
Ariannwyd y project £290,000 drwy gyllideb cyfalaf y Cyngor yn ogystal â chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Drafnidiaeth Leol.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid grant pellach o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 i ymchwilio i'r gwaith o ddylunio cyfleusterau beicio ar wahân ar hyd Heol Orllewinol y Bont-faen, rhwng Riverside Terrace a Grand Avenue. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y cynigion hyn yn ddiweddarach eleni.
Mae cyllid hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer mesurau Cymdogaethau Cerddedadwy yng Nghaerau a fydd yn cynnwys gosod Croesfan Sebra newydd ar Caerau Lane a chyrbau is mewn gwahanol leoliadau.
Dywedodd Paul Carter, Pennaeth Trafnidiaeth Cyngor Dinas Caerdydd: "Mae'r bont newydd hon yn enghraifft wych arall o'r gwelliannau rydym yn eu gwneud i gerddwyr a beicwyr yng Nghaerdydd a bydd yn sicrhau llwybr diogel i gerddwyr a beicwyr i ffwrdd o bont gerbydau Afon Trelái.
Ychwanegodd:
"Rydym hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno cyfleusterau beicio ar wahân yn yr ardal a byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynlluniau hynny yn ddiweddarach eleni".
Bydd Heol Orllewinol y Bont-faen ar gau dros dro i alluogi'r gwaith o godi'r bont a'i gosod yn ei phriod le y penwythnos hwn. Dyluniwyd ac adeiladwyd gan Raymond Brown Construction Ltd.
Rhwng 10pm nos Sadwrn 6 Mai a 7am dydd Sul 7 Mai, bydd Heol Orllewinol y Bont-faen ar gau o'r gyffordd â Vincent Street hyd at y gyffordd â Western Avenue.
Caiff y bont newydd ei chludo i'r safle ar gerbyd llwyth eithriadol gyda gosgordd heddlu o gylchfan Coryton. Sicrheir mynediad i gerbydau brys a thrigolion i Riverside Terrace, Dyfrig Road, Station Terrace a Wroughton Place tra bydd y ffordd ar gau.
Bydd llwybrau ac arwyddion dargyfeirio ar waith. Bydd rhaid i bob cerbyd nwyddau trwm fynd ar hyd Western Avenue i Manor Way, ymlaen i'r M4 a chymryd yr A4232. Caiff pob cerbyd arall ddefnyddio Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Lansdowne Road, Leckwith Road, A4232 ac ymlaen i Heol Orllewinol y Bont-faen.