The essential journalist news source
Back
8.
June
2018.
Canlyn, Atal, Diogelu, Cefnogi: Mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol


Mae cynlluniau ar gyfer dull aml-asiantaeth o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg dros y pum mlynedd nesaf wedi cael eu hamlinellu.

 

Mae gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod pobl sy'n byw, yn gweithio, yn astudio ac yn ymweld â Chaerdydd a'r Fro yn cael y cyfle i fyw bywydau cadarnhaol ac annibynnol heb gael eu heffeithio gan drais a cham-drin yn sail i Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol newydd Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023, a fydd yn cael ei hystyried gan y Cabinet ddydd Iau 14 Mehefin.

 

Datblygwyd y strategaeth gyda mewnbwn gan Gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Heddlu De Cymru a Chomisiynydd Troseddwyr Heddlu De Cymru ac, yn bwysicaf oll, mewnwelediadau gan oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Er y gall trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar unrhyw un, mae'r strategaeth yn cydnabod bod menywod a merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur.O fewn y flwyddyn ddiwethaf ar draws Caerdydd a'r Fro, mae cofnodion yn dangos bod 11,302 o achosion heddlu, o ran cam-drin domestig wedi cael eu cofnodi a chofnodwyd 1,011 o droseddau pellach o ran trais rhywiol.  Dengys y data fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu tan-adrodd, er gwaethaf eu heffeithiau dinistriol.

 

Mae'r strategaeth yn ceisio gwella cynllunio a chomisiynu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn, a hyrwyddo atal trwy ganolbwyntio ar agweddau ac ymddygiadau negyddol sydd â'r potensial o arwain at drais neu gamdriniaeth.Mae hefyd yn ymrwymo i ddiogelu dioddefwyr a'u plant trwy wella ymatebion a chefnogaeth aml-asiantaeth, a sicrhau bod gwasanaethau arloesol ar gael i ddiwallu anghenion dioddefwyr.

 

Mae'r strategaeth hefyd yn cyfeirio at y gwaith i gefnogi Dioddefwyr Gwrywaidd o gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys datblygu gwasanaeth arbenigol rhanbarthol.

 

Rhan bwysig o'r cynllun hefyd yw ei fod â'r nod o ddelio â throseddwyr cam-drin a thrais drwy wella'r ffordd cudd-wybodaeth ei rhannu ar draws gwasanaethau a defnyddio pwerau cyfreithiol i amharu ar, ac erlyn troseddwyr.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn groes sylfaenol i hawliau dynol. Mae mynd i'r afael â'r mater hwn â chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer dynion, menywod, plant, teuluoedd, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.

 

"Mae gan Gaerdydd hanes llwyddiannus ers tro o ymateb i'r materion hyn, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hwy a chodi ymwybyddiaeth ohonynt.Rydym yn cefnogi'r ymgyrch Rhuban Gwyn genedlaethol ac rydym wedi comisiynu gwasanaeth arbenigol cynhwysfawr yn ddiweddar i ddioddefwyr benywaidd a'u plant, gan gynnwys 'Siop Un Stop' ar gyfer cymorth. Rydym hefyd yn gweithio'n rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig.""

 

 

"Mae'r strategaeth hon yn cymryd dull rhanbarthol o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gydnabod na fyddai unrhyw ddioddefwyr heb fod yna droseddwyr, ac y mae mynd i'r afael ag achos y mater yr un mor bwysig â diogelu a chefnogi dioddefwyr, fel y gall pawb fyw'n ddi-ofn mewn cymunedau diogel, cyfartal a di-drais."