Bydd menywod a merched o bob cwr o Gymru yn cerdded strydoedd Caerdydd ddydd Sul (10 Mehefin) i gymryd rhan mewn gwaith celf torfol unigryw yn dathlu can mlynedd o'r bleidlais i fenywod ym Mhrydain.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain. Ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd, bydd yr orymdaith yn dechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 2.00pm ac yn teithio o'r stadiwm i ganol y ddinas ar hyd Sloper Road, Leckwith Road, Wellington Street, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Stryd y Castell, Heol y Dug, Ffordd y Brenin, Heol y Gogledd gan orffen ym Mharc Bute - www.processions.co.uk
Argymhellwn i bawb sy'n cymryd rhan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd ni fydd parcio ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Bydd man gollwng hefyd ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Coetsis
- Bydd parcio i goetsis yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Bysus
- Bydd bws gwennol am ddim o Stryd y Gamlas, y tu cefn i Westy'r Marriott, i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd rhwng 11.30am a 2.30pm.
- Os bydd cyfranogwyr yn teithio ar y rhwydwaith bwsdylent gynllunio eu taith ymlaen llawddefnyddio gwefannau'r gweithredwyr bws, oherwydd bydd ffyrdd ar gau.
Gwasanaethau trên
- Mae trenau ar gael o orsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd a gorsaf Caerdydd Canolog i Grangetown ar wasanaeth Penarth. Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd 15 munud ar droed o Orsaf Drenau Grangetown.
Cau ffyrdd
Gan fod llawer o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau am yn ail i sicrhau diogelwch pawb sy'n cymryd rhan.
Ar ôl i'r orymdaith basio, bydd ffyrdd yn ailagor i draffig a chynhelir mynediad drwy gydol y digwyddiad i Heol y Porth, Heol y Brodyr Llwydion, Tudor Street, Ninian Park Road a Heol y Gadeirlan.
Mae'r amseroedd canlynol yn rhai bras, ac yn seiliedig ar ba mor gyflym y disgwylir i'r orymdaith symud ar hyd y llwybr.
O 1.30pm i 3.30pm
- Sloper Road, o'r gyffordd â Leckwith Road i'r gyffordd â Bessemer Road.
- Leckwith Road o'r gyffordd â Sloper Road i'r gyffordd ag Atlas Road.
O 2pm i 4pm
- Wellington Street o'r gyffordd â Leckwith Road i'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
O 1.30pm i 4pm
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i Heol y Porth.
- Stryd y Castell, Heol y Dug, Ffordd y Brenin a Heol y Gogledd hyd at Column Road