Mae adroddiad sy'n tynnu sylw at waith ymgysylltu â'r gymuned, mentrau allweddol a chamau nesaf y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, 20 mis ar ôl ei sefydlu i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol yng Nghaerdydd, wedi'i gyhoeddi heddiw.
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu creu Parth Ieuenctid cyntaf Cymru yn Nhrelái fel rhan o gynlluniau newydd cyffrous ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn y ddinas.
Mae disgyblion o ysgolion uwchradd ledled Caerdydd yn cael eu hannog i efelychu doniau dadlau pobl fel Barack Obama a dod yn anerchwyr y dyfodol.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi bod ISG wedi'i ddewis fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer dylunio ac adeiladu campws addysg ar y cyd newydd, i'w leoli yn ardal y Tyllgoed yn y ddinas.
Mae dros 3000 o'r cyhoedd wedi cael dweud eu dweud ar strategaeth 10 mlynedd Caerdydd i hybu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae creu rhwydwaith cydraddoldeb i weithwyr ledled y ddinas, sy'n edrych ar gyfleoedd i ddatblygu Paneli Aelodau mwy cynrychioliadol a chynyddu amrywiaeth mewn cyrff llywodraethu ysgolion i gyd wedi cael eu trafod fel rhan o gynlluniau i helpu i fynd i'r
Mae’r Dreamachine yn fath newydd pwerus o brofiad trochi sy'n archwilio potensial di-derfyn y meddwl dynol.
Ddydd Gwener agorodd Plant Ysgol Gynradd Llandaf yr Eglwys yng Nghymru Ardal Chwarae Caeau Llandaf yn swyddogol, lle mae croeso i blant archwilio a chwarae yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol.
Mae cartref newydd sbon Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi cyrraedd carreg filltir arall, wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf yn adeilad newydd yr ysgol yn Lecwydd.
Dewiswyd dau ddisgybl Blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Willows i gynrychioli'r DU yn Expo'r Byd yn Dubai fis nesaf.
Bydd cam nesaf Gaeaf Llawn Lles Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau'n fuan mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.
Mae tîm o Geidwaid Parciau Cyngor Caerdydd wedi aduno bachgen 2 oed gyda'i dedi coll annwyl – 10 diwrnod ar ôl iddo ddisgyn i Lyn Parc y Rhath.
Roedd ysbryd y Nadolig yn wirioneddol fyw fis diwethaf wrth i gannoedd o anrhegion gael eu cyfrannu ar gyfer plant, cafodd prydau bwyd eu paratoi i'r digartref a chafodd profiadau a pherfformiadau'r Nadolig eu mwynhau gan bobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion meithrin bellach ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n dair rhwng 1 Medi, 2021 a 31 Awst, 2022 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2022.
Gyda dros 1,000,000 o fylbiau golau, 120,000 o ymwelwyr a 5 cynnig priodas, goleuodd y Nadolig trydanol ym Mharc Bute ganol y ddinas yn ei flwyddyn gyntaf fel profiad goleuadau Nadoligaidd yng Nghaerdydd.
Yn dilyn arolwg gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn Nhremorfa wedi cael ei thynnu o'r rhestr o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol.