27/6/2023
Mae Cyngor Caerdydd wedi addo ei gefnogaeth i'r ymgyrch 'Mae Fy Mhethau i'n Bwysig', menter sy'n helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal yn cael eu trin â pharch ac urddas pan fyddan nhw'n symud cartref.
Dan arweiniad NYAS (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol), mae'r ymgyrch ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig' yn gwthio i roi terfyn ar y defnydd o fagiau bin pan fydd plant mewn gofal yn symud cartref ac yn gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegrddarparu canllawiau ysgrifenedig ffurfiol i staff a gofalwyr i gefnogi plant sy'n cael eu symud.
Trwy gofrestru ar gyfer yr ymgyrch, mae Caerdyddyn addo i blant a phobl ifanc yn eu gofal y byddan nhw'n;
Candice Lloyd from NYAS, Cllr Rhys Taylor, Cllr Christopher Lay, Cllr Ash Lister, Cllr Sarah Merry, Cllr Peter Littlechild
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Blant: "Mae sicrhau bod pob plentyn mewn gofal yn teimlo hunanwerth ac yn cael ei barchu yn flaenoriaeth. Gall symud cartref fod yn gyfnod pryderus a llawn straen i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc a allai fod wedi wynebu trallod a chynnwrf yn ystod eu bywyd. Rydym wedi ymrwymo i wneud hwn yn drosglwyddiad esmwyth ac urddasol lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi eu cefnogi, yn unol ag uchelgais Caerdydd o fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF y DU.
"Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu'r gorau a dyna pam rydyn ni mor falch o lofnodi'r addewid ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig', ac yn gobeithio y bydd mwy o Awdurdodau Lleol yn ymuno â ni."
Dywedodd Rita Waters, Prif Weithredwr Grŵp NYAS: "Rwy mor falch o'r gwahaniaeth mae ein hymgyrch yn ei wneud ac rwy'n falch iawn o weld nifer yr awdurdodau lleol sy'n cofrestru ar gyfer yr addewid Mae Fy Mhethau i'n Bwysig, sy'n cynyddu o fis i fis. Mae rhai awdurdodau lleol nad ydyn nhw wedi cofrestru o hyd, a hoffwn annog pob un ohonyn nhw i ymrwymo i'r addewid Mae Fy Mhethau i'n Bwysig yn ddi-oed a gwneud datganiad cyhoeddus i drin plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u heiddo â pharch ac urddas wrth symud lleoliad. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o awdurdodau lleol yn ymuno â NYAS yn yr addewid pwysig hwn i blant a phobl ifanc."
Mae ymgyrch NYAS Mae Fy Mhethau i'n Bwysig wedi'i chefnogi ganMadlug,brand bagiau nodedig, i ddarparu bagiau cadarn i filoedd o blant mewn gofal i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei orfodi i symud ei eiddo mewn bagiau bin. Gall awdurdodau lleol sy'n cofrestru ar gyfer Mae Fy Mhethau i'n Bwysig dderbyn bagiau Madlug am ddim i blant mewn gofal.
I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ewch i:https://www.nyas.net/news-and-campaigns/campaigns/current-campaigns/my-things-matter/