Bydd y digwyddiad rhad ac
am ddim hwn sy’n addas i deuluoedd yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 6 Awst o
1–4pm, ac mae’n addo bod yn brynhawn llawn chwarae creadigol ac actif i blant a
phobl ifanc o bob oedran. Mae thema eleni, Lleoedd i Chwarae, yn dathlu
pwysigrwydd lleoedd hygyrch a chynhwysol lle gall plant chwarae'n rhydd,
cysylltu â ffrindiau, a theimlo'n rhan o'u cymuned.
Wedi'i drefnu gan dîm
Gwasanaethau Chwarae'r Cyngor o fewn y Gwasanaethau Plant, mewn partneriaeth ag
adrannau eraill y cyngor a sefydliadau cymunedol, mae'r digwyddiad yn un o
uchafbwyntiau calendr yr haf.
Bydd y gweithgareddau yn y
digwyddiad yn cynnwys chwarae mwd, gwneud bathodynnau, argraffu crysau-t,
swigod, gemau gardd, chwaraeon, drymio samba, sgiliau syrcas a chelf a chrefft
amrywiol.
Bydd partneriaid gan
gynnwys Heddlu De Cymru, Menter Caerdydd, Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd,
Maethu Cymru Caerdydd a llawer mwy yno i gynnig gweithgareddau a rhannu
gwybodaeth am eu gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Peter
Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: “Rydyn ni
nawr yn cyfri’r dyddiau tan Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol – un o’r
uchafbwyntiau ymhlith ein digwyddiadau dros yr haf. Ei nod yw rhoi rhyddid i
blant archwilio, creu, ac i fod yn blant. Mae'n ddathliad o ddychymyg,
cyfeillgarwch a hwyl – felly gwisgwch eich hetiau haul a dewch â'ch ymdeimlad o
antur.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen
at groesawu teuluoedd o bob cwr o'r ddinas i gaeau chwarae Canolfan Hamdden y
Dwyrain yr wythnos nesaf.”
Anogir teuluoedd i
ddefnyddio teithio llesol – cerdded, beicio, neu drafnidiaeth gyhoeddus – i
gyrraedd y digwyddiad er mwyn helpu i gefnogi Caerdydd lanach a gwyrddach.
Mae'r lleoliad yn hawdd ei gyrraedd ar lwybrau cerdded a beicio lleol, a bydd
lle i barcio beiciau ar gael ar y safle. Am opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus,
ewch i Traveline Cymru
- Cynllunio Taith.
I gael mwy o wybodaeth am y
Gwasanaethau Chwarae Plant, ewch i: https://gwasanaethauchwaraeplantcaerdydd.co.uk/