Back
Diweddarwyd: Cyngor teithio ar gyfer Catfish & the Bottlemen yn Stadiwm Principality a Faithless yng Nghastell Caerdydd
 28/07/25

Bydd y ffyrdd o amgylch Stadiwm Principality yn cau am resymau diogelwch am 4pm ar 1 Awst ar gyfer Catfish and the Bottlemen a Faithless yng Nghastell Caerdydd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau i'r stadiwm a Chastell Caerdydd yn agor am 5pm. Cynghorir pawb sy'n teithio i Gaerdydd i gynllunio ymlaen llaw ac i gyrraedd Caerdydd a'r stadiwm yn gynnar. Ar gyfer y digwyddiad yn y stadiwm, darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 4pm tan ganol nos.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

·       Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r cyngherddau orffen ac am hyd at awr ar ôl iddyn nhw orffen er diogelwch teithwyr trên sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Er mwyn helpu i reoli'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y teithwyr, bydd Trafnidiaeth Cymru (TC) a Great Western Railway (GWR) yn gweithredu gwasanaethau ychwanegol ac estynedig (trenau gyda mwy o gerbydau nag arfer) i fynd â chwsmeriaid i ac o’r digwyddiadau yn esmwyth. 

Fodd bynnag, gallai peth gwaith peirianneg effeithio ar wasanaethau TC a GWR ac anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith - https://www.journeycheck.com/tfwrail/

Ar gyfer pob digwyddiad, mae rhybudd i bawb sy’n bwriadu teithio ar drên i wirio amser eu trên olaf adref, ac i ganiatáu digon o amser - Bydd system giwio yn dechrau o 10pm a bydd y ciwio ar gyfer gwasanaethau rheilffordd y brif linell ar y Sgwâr Canolog, a chiwiau'r Cymoedd yng nghefn yr orsaf.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i - https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau 

Sylwer hefyd ar newidiadau pwysig i weithrediadau gorsafoedd ar ddiwrnodau digwyddiadau:

·       Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau am 4pm.

·       Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 10pm, oni bai bod gan gwsmeriaid ofynion hygyrchedd neu eu bod yn teithio i Fae Caerdydd.

Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn cynnal gwiriadau tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiadau.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Nid oes parcio a mynd i'r digwyddiad hwn.

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr. 

Amseroedd parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.  

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amseroedd parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.  Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:    Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   

Bydd FlixCity yn parhau i ddefnyddio eu man cyrraedd a gadael arferol ger Gerddi’r Brodordy ar Heol y Gogledd (gyferbyn â Chastell Caerdydd).

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r cyngherddau hyn, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.  Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Ar gyfer y cyngherddau sy’n weddill, bydd y safle tacsis (y tu allan i House of Fraser gynt) yn cau am 4pm ac yn ailagor am hanner nos.