Back
Gofyn i'r cyhoedd helpu i lunio dyfodol sy'n Deall Niwrowahaniaeth i Gaerdydd

 

18/7/2025

Mae Cyngor Caerdydd yn galw ar drigolion, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus dinas-gyfan ar Strategaeth ddrafft Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth 2025-2030.

 

Wedi'i lansio heddiw (18 Gorffennaf 2025)yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, mae'r ymgynghoriad wyth wythnos yn gam allweddol wrth lunio strategaeth sy'n anelu at wneud Caerdydd yn ddinas fwy cynhwysol a chefnogol i unigolion niwrowahanol a'u teuluoedd.

 

Mae tua 1 o bob 7 o bobl yn y DU yn niwroamrywiol, sy'n golygu eu bod yn profi'r byd yn fwy unigryw nag eraill. Gall pobl â nodweddion niwrowahanol wynebu amrywiaeth o heriau mewn cymdeithas, gan gynnwys dod o hyd i waith, mwy o debygolrwydd o ddiagnosisau o broblemau iechyd meddwl, a thrafferthion cael mynediad i wasanaethau cyhoeddus. 

 

Fodd bynnag, mae niwrowahaniaeth yn dod â llawer o gryfderau a phatrymau meddwl unigryw sydd o fudd i'n cymunedau a'n gweithleoedd.  

 

Mae'r strategaeth ddrafft wedi'i datblygu gan Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth a sefydlwyd yn dilyn cynnig a basiwyd gan y Cyngor Llawn ym mis Medi 2023 i weithio tuag at ddod yn ddinas well i bobl niwrowahanol.

 

 

 

Mae'r rhwydwaith Caerdydd sy'n Deall Nwirowahaniaeth yn cael ei gydlynu gan Gyngor Caerdydd ac mae'n cynnwys partneriaid gwasanaeth cyhoeddus fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCaF), Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, ac aelodau'r trydydd sector yn ogystal â sefydliadau eraill gan gynnwys busnesau, siopau, lleoliadau adloniant, grwpiau cymunedol a phobl niwrowahanol eu hunain gyda'r nod o greu dinas fwy cynhwysol a niwro-gadarnhaol.

 

Mae'r Cyngor yn ceisio adborth ar chwe nod allweddol y strategaeth ddrafft:

  1. Cael eich cynnwys a bod yn rhan o'ch cymuned
  2. Cyflawni eich nodau mewn addysg a chyflogaeth
  3. Cael gwybodaeth y gallwch ymddiried ynddi
  4. Cefnogi iechyd a lles pobl niwrowahanol a'u teuluoedd
  5. Cael eich deall a dathlu gwahaniaethau
  6. Gwella amgylcheddau ar gyfer pobl niwrowahanol

Dywedodd y Cynghorydd Thomson: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl Caerdydd helpu i lunio strategaeth sy'n adlewyrchu gwir anghenion a dyheadau ein cymuned niwrowahanol. Rydyn ni eisiau clywed gan gymaint o leisiau â phosibl - p'un a ydych chi'n niwrowahanol eich hun, yn rhiant, gofalwr, addysgwr, cyflogwr, neu'n syml rhywun sydd eisiau gweld Caerdydd yn dod yn ddinas fwy cynhwysol."

 

Bydd yr ymgynghoriad, a fydd yn rhedeg tan 30 Medi, yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid a sefydliadau, yn ogystal â grwpiau ffocws digidol ac wyneb yn wyneb ar wahân ar gyfer oedolion a phlant. Bydd dyddiadau'n cael eu hysbysebu cyn bo hir.

 

Mae'r arolwg ar-lein yma:https://www.caerdydd.gov.uk/ymgynghoriadcaerdyddniwrowahanol

gyda fersiwn wedi'i theilwra ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng wyth a 15 oed. Bydd hyn hefyd yn cael ei rannu gydag ysgolion i'w ddosbarthu i deuluoedd.

 

Bydd fersiwn hawdd ei darllen o'r arolwg ar gael, yn ogystal â fersiwn hawdd ei darllen o'r strategaeth ddrafft. 

 

Bydd copïau papur o'r arolwg ymgynghori ar gael mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.

 

Bydd adborth o'r ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i fireinio'r strategaeth ddrafft cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cabinet i'w chymeradwyo'n derfynol yn ddiweddarach eleni.

 

 

 

(diwedd)             

Andrea Currie, Ymgynghorydd y Cyfryngau a Rheolwr Ymgyrchoedd

acurrie@caerdydd.gov.uk

029 2087 3107

www.newyddioncaerdydd.co.uk