Back
Sut i wneud busnes gyda Chynghorau Ardal - lansio canllaw newydd
10/7/25

Mae canllaw newydd wedi'i gynllunio i helpu cyflenwyr a chontractwyr i ddeall sut i wneud busnes gyda Chynghorau Ardal wedi cael ei lansio.

Nod y canllaw hwn yw helpu sefydliadau i ddeall sut mae Cynghorau Ardal - Caerdydd, Torfaen, Sir Fynwy, a Bro Morgannwg, yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae hefyd yn nodi sut gall darpar gyflenwyr gynyddu eu siawns o ddarganfod cyfleoedd a chynnig am waith.

Wedi'i ddatblygu'n gydweithredol, mae'r canllaw yn amlinellu'r prosesau caffael, fframweithiau cyfreithiol, a chyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau sydd eisiau cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith i awdurdodau lleol.

Mae'n rhoi cyfarwyddiadau clir ar gofrestru ar gyfer cyfleoedd drwy lwyfannau fel GwerthwchiGymru a Proactis ac yn esbonio'r pedwar llwybr caffael sydd wedi eu mabwysiadu gan holl Gynghorau Ardal. Mae'r canllaw hefyd yn rhoi manylion y meini prawf dethol, gweithdrefnau tendro, pethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud wrth dendro a'r dulliau gwerthuso a ddefnyddir gan Gynghorau Ardal, gan sicrhau tryloywder a thegwch.

Yn bwysig, mae'r canllaw yn hyrwyddo caffael cymdeithasol-gyfrifol, gan annog cyflenwyr i gyd-fynd â gwerthoedd Ardal ynghylch lles cymunedol, lleihau carbon, cyflogi moesegol, ac ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae'n cefnogi busnesau BBaChau, sefydliadau trydydd sector, a chonsortia i gael mynediad at gontractau cyhoeddus, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar gyflwyno cynigion cystadleuol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae'r canllaw newydd hwn wedi'i ddatblygu i wneud ein prosesau caffael yn fwy hygyrch, tryloyw a chynhwysol. Trwy amlinellu'n glir sut i wneud busnes gyda Chynghorau Ardal, rydym yn agor y drws i fwy o fusnesau lleol, mentrau cymdeithasol, a BBaChau - gan eu helpu i gystadlu'n deg a chyfrannu at ein nodau cyffredin o les cymunedol, cynaliadwyedd a chyflogaeth foesegol. Rwy'n annog pob darpar gyflenwr i fanteisio ar yr adnodd hwn."

I ddarllen y canllaw newydd, ewch i'r adran Cipolygon a Newyddion ar wefan Ardal.

https://ardal-procurement.gov.wales/wp-content/uploads/2025/07/Selling-to-the-Council-Welsh.pdf