Back
Mannau diogel i barcio beiciau i gael eu cyflwyno ledled y ddinas
 09/07/25

Bydd y cam cyntaf o ddarparu mannau newydd i barcio beiciau’n ddiogel yng nghanol dinas Caerdydd yn dechrau ar 1 Awst, gyda'r chwe uned feicio ddiogel gyntaf wedi'u gosod gan Gastell Caerdydd i'r cyhoedd ac ymwelwyr eu defnyddio.

Wedi'u hariannu gan y Gronfa Teithio Llesol, Caerdydd Un Blaned a'r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, bydd cyfanswm o 30 o unedau yn cael eu darparu ym mis cyntaf y cynllun. Dilynir hyn gan raglen 5 mlynedd i osod rhagor o unedau ar draws canol y ddinas ac mewn ardaloedd siopa lleol.

Bydd gan yr holl unedau cychwynnol doeau byw, a fydd yn darparu manteision amgylcheddol sylweddol trwy wella bioamrywiaeth mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas. 

Bydd y contract cychwynnol, a ddyfarnwyd i Spoke Safe, yn canolbwyntio ar ganol y ddinas yn unig. Bydd beicwyr yn gallu archebu a thalu am eu locer trwy ap ar-lein ymlaen llaw, am gyn lleied â rhwng £1 a £1.50 y dydd.

Bydd yr unedau newydd cychwynnol yn cael eu pweru gan fatri, gan ddileu'r angen i'w cysylltu â'r grid trydan a lleihau costau gosod.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella'r cyfleusterau ar gyfer beicwyr gan ein bod yn gwbl ymwybodol bod problemau gyda dwyn beiciau a difrod i feiciau yng Nghaerdydd. Dyma pam rydym yn datblygu rhaglen 5 mlynedd a allai gynnwys darparu amrywiaeth o wahanol atebion beicio diogel mewn lleoliadau allweddol ledled y ddinas.

"Er ein bod yn gobeithio darparu'r gwasanaethau hyn am ddim i ddechrau, ar ôl ymgysylltu â grwpiau beicio lleol a'r cyhoedd - roedd bron 80% ohonynt yn hapus i dalu ffi fach yn gyfnewid am gynllun mwy effeithlon, a gwelsom fod tâl cymedrol yn gwneud y cynllun yn gynaliadwy yn ariannol, fel y gall barhau i ehangu i ganolfannau siopa ardal mewn ardaloedd fel Bae Caerdydd, Cathays, Y Rhath, Llanisien a'r Mynydd Bychan. 

"Drwy gydol y prosiect, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ac arbenigwyr diogelwch i sicrhau bod y loceri newydd yn ddiogel ac na ellir eu camddefnyddio.  Trwy gynnig atebion diogel a dibynadwy i feicwyr, rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn sychu’r llwch oddi ar eu beiciau yn eu garej ac yn dechrau beicio eto, yn hyderus y bydd eu beic yn ddiogel pan gaiff ei barcio.

Bydd y cam cyntaf yn defnyddio cynwysyddion beicio unigol a fydd yn cael eu gosod yng nghanol dinas Caerdydd, gyda 30 wedi'u gosod yn y mis cyntaf, 30 arall wedi'u gosod erbyn y Nadolig a chyfanswm o 100 o unedau wedi'u gosod yn y flwyddyn gyntaf.

Disgwylir i'r contract ar gyfer y rhaglen 5 mlynedd gael ei benodi yn ddiweddarach yr haf hwn. Gallai gynnwys amrywiaeth o wahanol atebion codi tâl fel llochesi, stondinau neu loceri pellach, wrth gadw'r stondinau dur am ddim presennol ar gyfer parcio beiciau am ddim.  

Fel rhan o gynllun ar wahân, bydd y Cyngor hefyd yn treialu llochesi beiciau diogel mewn ardaloedd preswyl. Bydd ymgynghoriad lleol yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf ynghylch ble y gellid lleoli'r llochesi.