Mae'r Polisi Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol yn ceisio ymgorffori cynaliadwyedd, tegwch ac effaith gymunedol ymhellach yn arferion caffael y Cyngor, ac adeiladu ar y cynnydd da a wnaed eisoes wrth sicrhau gwerth am arian a sicrhau buddion lles cymunedol.
Roedd tua 50% o wariant y Cyngor gyda sefydliadau yng Nghaerdydd yn 2024/25, a 64% gyda sefydliadau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, tra bod mwy na £12m wedi'i ymrwymo i ddarparu buddion lles cymunedol gan gynnwys y canlynol:
· Darparwyd 3,481 wythnos o
brentisiaethau gan bobl ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
· Cynigiwyd 6,177 awr tuag at
Gymorth Gyrfa i bobl economaidd anweithgar lleol yng Nghaerdydd
· Darparwyd 43 o rolau
cyflogaeth newydd i bobl leol
· Cynigiwyd 474 o wythnosau
profiad gwaith i ysgolion neu bobl economaidd anweithgar lleol
· Cynigiwyd 6,416 awr tuag at
sesiynau addysg i ysgolion sy'n cwmpasu gyrfaoedd, diogelwch safleoedd,
gweithgareddau STEM
Mae'r polisi newydd, a
ddatblygwyd gan Ardal – y gwasanaeth a gynhelir gan y Cyngor, sy'n darparu'r
bartneriaeth gaffael ar y cyd ar draws Cynghorau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a
Bro Morgannwg, yn nodi wyth amcan sy'n gymdeithasol-gyfrifol sy'n cyd-fynd â
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Mae'r amcanion hyn yn cynnwys lleihau allyriadau
carbon, gwella bioamrywiaeth, hyrwyddo gwaith teg, cefnogi economïau lleol, ac
amddiffyn grwpiau sy’n agored i niwed. Nod y polisi yw sicrhau bod gwariant
caffael blynyddol gwerth £783m y Cyngor ar ystod amrywiol o nwyddau,
gwasanaethau a gwaith gan dros 8,000 o gyflenwyr a chontractwyr, yn darparu
gwerth am arian a hefyd manteision cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a
diwylliannol diriaethol i Gaerdydd a'r rhanbarth ehangach.
Mae'r polisi, a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 10 Gorffennaf, wedi ei lunio trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, contractwyr, ac arweinwyr polisi ar draws y Cynghorau Ardal. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad Caerdydd i'w gweledigaeth "Cryfach, Tecach, Gwyrddach" ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth genedlaethol fel Deddf Caffael 2023 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Trwy ymgorffori egwyddorion
cymdeithasol-gyfrifol ym mhob cam o'n proses gaffael, rydym yn sicrhau bod
gwariant cyhoeddus yn gweithio'n galetach i'n cymunedau, ein hamgylchedd, a'n
dyfodol. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pob punt yn cyfrif - nid yn unig yn
economaidd, ond yn gymdeithasol ac yn foesegol.
"Mae gan gaffael rôl allweddol i'w chwarae wrth gyflymu'r symudiad i sero net, gan sicrhau gwaith teg a chyflogaeth foesegol ledled ein cadwyni cyflenwi. Mae'r polisi hefyd yn nodi disgwyliadau clir o'r hyn y byddwn yn ei ofyn gan gyflenwyr a chontractwyr sydd eisiau gwneud busnes gyda ni."
Bydd y polisi yn cael ei weithredu trwy Strategaeth Caffael a Chynllun Cyflawni Cymdeithasol-Gyfrifol y Cyngor. Bydd y cyflawniad yn cael ei fonitro a'i adrodd yn Adroddiad Caffael blynyddol y Cyngor o 2026.
Bydd adroddiad y Cabinet ar gael yma: Agenda'r Cabinet- Dydd Iau, 10 Gorffennaf, 2025, 2.00pm : Cyngor Caerdydd