Back
Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025

8.5.25

Bydd cerddoriaeth a pherfformiadau sy'n gwthio ffiniau yn llenwi safleoedd, clybiau a lleoliadau dros dro yng Nghaerdydd am bythefnos yr hydref hwn wrth i Ŵyl Ddinas Gerdd Caerdydd lunio trac sain i'r ddinas am yr ail flwyddyn.

Bydd yr ŵyl arloesol yn cael ei chynnal o Ddydd Gwener 3 Hydref tan Ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025, gan ddod â cherddorion, hyrwyddwyr ac arbenigwyr technoleg ymgolli oll ynghyd o bell ac agos i greu cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro na ddylid eu colli.

Bydd artistiaid sefydledig, arwyr tanddaearol a sêr o Gymru yn llenwi rhaglen chwalu ffiniau rhwng genres cerddoriaeth, rhaglen sydd wedi'i chynllunio i gyffroi cynulleidfaoedd law yn llaw â seinweddau dinesig fydd wedi eu comisiynu yn arbennig, sgyrsiau ysbrydoledig, a sesiynau diwydiant.

Gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o berfformiadau unigryw, gigs a digwyddiadau annisgwyl yng nghanol prifddinas Cymru a hynny dros bymtheg diwrnod fydd yn llawn cerddoriaeth.

Bydd yn cwmpasu'r arddangosfa gerddoriaeth newydd sef gŵyl Sŵn, penwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, gŵyl Llais, a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fawreddog sy'n dathlu'r gerddoriaeth orau a wnaed yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd. Mae rhaglen yr ŵyl yn 2025 yn addo adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl gyntaf y llynedd gan barhau i wthio ffiniau arloesi mewn cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg.

Ym mlwyddyn gyntaf yr ŵyl gwelwyd miloedd o ffans cerddoriaeth yn mwynhau perfformiadau gan yr artistiaid electronig arloesol Leftfield ac Orbital ynghyd â'r chwalwyr ffiniau Ms. Lauryn Hill a'r Fugees, sioe arbennig yn croesawu'r chwaraewr gitar fas chwedlonol, Pino Palladino yn ôl adref a sioeau llawn anhrefn gan enillwyr gwobr gerddoriaeth Mercury, English Teacher, y grŵp ôl-pync arbrofol Squid a thalent ffrwydrol Cymreig fel Mace the Great,  LEMFRECK a Sage Todz.

Yn ogystal â'r gerddoriaeth, gallwch ddisgwyl cynhadledd i'r diwydiant a chyfres o sesiynau ysbrydoledig a gyflwynir mewn cydweithrediad ag arweinwyr y sector cerddoriaeth i ychwanegu haenau ychwanegol o ryfeddod a doethineb.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Caerdydd yn ddinas mor fywiog, yn llawn cerddoriaeth, mynegiant ac arloesi artistig. Mae'r ŵyl yn gyfle anhygoel i ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu'r creadigrwydd hwnnw ac i arddangos diwylliant amrywiol a chyffrous y ddinas i gynulleidfa ehangach."

Mae'r ŵyl hon yn fenter allweddol yn Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd sy'n anelu at ddiogelu, hyrwyddo a datblygu sector cerddoriaeth y ddinas. 

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru i dderbyn diweddariadau'r ŵyl, ewch i: gwyldinasgerddcaerdydd.cymru