Back
Dirwy dros £10,000 i siop fêps am werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a throseddau Iechyd a Diogelwch
 08/05/25

 Mae perchennog a chyfarwyddwr Best One Vape ar Stryd Clifton yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 am nifer o droseddau iechyd a diogelwch yn ogystal â gwerthu tybaco ffug a fêps anghyfreithlon.

 

Ymddangosodd Sirwan Nuri Kadri, 37, o Stryd Clifton Caerdydd yn Llys Ynadon Casnewydd ar 29 Ebrill i gael ei ddedfrydu am bum trosedd tybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon a dwy drosedd iechyd a diogelwch yn ymwneud â gwifrau trydanol byw a ddarganfuwyd yn ymwthio allan o waliau yng nghefn ei fusnes.

 

Cyn y gwrandawiad ddydd Mawrth diwethaf (29 Ebrill), plediodd perchennog a chyfarwyddwr y busnes, Mr Kadri, yn euog i droseddau tybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon mewn gwrandawiad blaenorol ar 23 Ionawr 2025. Mae'r troseddau iechyd a diogelwch a ddaeth ger bron y llys Ddydd Mawrth diwethaf yn ymwneud ag oergell ansefydlog yn y busnes, gydag adroddiadau am nifer o wifrau trydanol byw ac agored yng nghefn yr eiddo yn achosi bygythiad uniongyrchol i fywyd.

 

Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwella gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir cyn gynted ag y darganfuwyd y gwifrau trydanol byw a gwnaethpwyd yn glir bod yn rhaid i'r materion gael eu datrys gan berson cymwys, tra'n ei gwneud yn glir y gellid cyflwyno Hysbysiad Gwahardd ar yr eiddo pe na chai’r gwaith ei wneud.

 

Cynhaliwyd sawl ymweliad dilynol gan swyddogion y cyngor ac er nad oedd y gwifrau trydanol yn weladwy mwyach, methodd y busnes â darparu unrhyw ddogfennaeth i brofi bod y gwaith wedi'i wneud gan berson cymwys.

 

Dwedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:   "Nid dyma'r tro cyntaf i ni gael problemau gyda'r busnes hwn.  Mae'r siop prin wedi ailagor ers i ni ei chau am dri mis fis Tachwedd diwethaf oherwydd gorchymyn cau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer gwerthu tybaco a fêps.

 

"Mae'n ymddangos bod y perygl maen nhw'n ei achosi i'w cwsmeriaid yn mynd y tu hwnt i'r cynhyrchion maen nhw'n eu gwerthu. Darganfuwyd gwifrau trydanol byw yn dod allan o’u waliau, gan beri perygl uniongyrchol i fywyd pe byddent yn cael eu cyffwrdd.

 

"Mae deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn bodoli am reswm.  Mae angen i fusnesau gydymffurfio â'r gyfraith i sicrhau diogelwch eu staff a'u cwsmeriaid.  Bydd unrhyw dramgwydd fel hyn yn wynebu grym llawn y gyfraith i gadw pobl yn ddiogel."

 

Cafodd y cwmni Best One Vape Ltd gyfanswm dirwy o £4000 am y troseddau iechyd a diogelwch, a £5000 arall ar gyfer y tybaco a'r fêps anghyfreithlon, gyda gordal dioddefwr o £2000, a chostau o £570 ar gyfer y Troseddau Iechyd a Diogelwch a £1048 ar gyfer y troseddau Tybaco ac e-sigaréts.

 

Cafodd Mr Kadri ddirwy o £1,400 am y troseddau tybaco a'r fêps anghyfreithlon, a gorchmynnwyd iddo dalu £1048 at gostau’r erlyniad a Gordal Dioddefwr o £560.

 

Rhoddwyd gorchymyn fforffedu ar gyfer yr holl dybaco a'r fêps anghyfreithlon fel y gellir eu dinistrio.