Back
Cyngor Caerdydd yn cefnogi theatr ymylol newydd yn Porter's

31.1.25

Bydd y bar poblogaidd Porter's yng nghanol y ddinas yn agor theatr dafarn newydd sbon â 60 sedd yn islawr ei safle ar Lôn y Barics. Nod y fenter yw bod yn gartref i ddramodwyr ymylol ym mhrifddinas Cymru, gan flaenoriaethu egin artistiaid a'u gwaith, yn ogystal â darparu llwyfan i bobl greadigol deithiol.

Yn ddiweddar, cefnogodd Cyngor Caerdydd y bar poblogaidd wrth iddi symud i adeilad newydd ar Lôn y Barics, a nawr gyda chefnogaeth bellach gan Gyngor Caerdydd, a chefnogaeth gan Stage Sound Services, mae Porter's yn gallu agor theatr islawr, ochr yn ochr â'i arlwy cerddoriaeth fyw sydd eisoes yn ffynnu.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Rydyn ni am i Gaerdydd fod yn ddinas lle mae creadigrwydd yn ffynnu. Mae'r cyfleoedd y mae Porter's yn eu cynnig i dalent leol yn rheswm allweddol pam y rhoddodd y Cyngor gymorth wrth iddo symud i Lôn y Barics. Nawr, rwy'n falch iawn ein bod hefyd wedi gallu ei gefnogi i agor ei theatr ymylol newydd, gan sicrhau bod hyd yn oed rhagor o artistiaid newydd ac eginol yn y ddinas yn cael mynediad at gyfleoedd i dyfu a datblygu eu crefft."

Dywedodd Dan Porter, Cyfarwyddwr Porter's Caerdydd, "Fe wnaeth yr angen i adleoli ein gorfodi i asesu pwy oeddem ni, pwy a beth oeddem ar ei gyfer, a sut y gallem wasanaethu talent a chynulleidfaoedd Caerdydd orau. Rydyn ni'n bendant mai'r hyn rydyn ni'n ei gynnig yw'r hyn sydd ei eisiau a'i angen, yn enwedig nawr. Rydyn ni am barhau i fod yn ymrwymedig i artistiaid newydd, eginol sydd heb gefnogaeth. Rydyn ni llawn cyffro am yr hyn rydyn ni'n credu y gallwn ei gyflawni yma ac, yn bwysicaf oll, am yr hyn y gallwn helpu eraill i'w gyflawni yma."

A group of people sitting in chairsDescription automatically generated

Dan Porter, Alice Rush, Frankie-Rose (Ffotograph: Moreton Brothers)

Yn rhedeg y theatr ochr yn ochr â Porter bydd y cynhyrchwyr theatr lleol Alice Rush (yn gynt o Theatr Genedlaethol Cymru a Chanolfan Gelfyddydau'r Chapter) a Frankie-Rose Taylor (yn gynt o Ganolfan Mileniwm Cymru). Dywedon nhw, "Rydyn ni wedi bod yn yfed yn Porter's ers iddo agor yn 2012, felly mae'n braf cael rhywfaint o gydnabyddiaeth o'r diwedd am ein holl waith caled. O ddifrif, mae wedi bod yn freuddwyd i'r ddwy ohonon ni i redeg lleoliad theatr, ac ni allwn ddychmygu unrhyw le gwell na'n cartref oddi cartref. Rydyn ni wedi gweld cyfleoedd i wneuthurwyr theatr yng Nghaerdydd, ac ar draws Cymru, yn prinhau, gan arwain at bobl wych, ryfeddol a thalentog yn gadael am Lundain a thu hwnt. Rydyn ni am i Porter's fod yn fan lle mae gwneuthurwyr Caerdydd a Chymru a'u syniadau yn cael eu croesawu, eu meithrin a'u rhoi ar lwyfan, a lle gall cynulleidfaoedd weld gwaith na fyddent yn ei weld mewn mannau eraill yng Nghaerdydd. Gwaith sy'n diddanu, yn ennyn emosiwn ac yn ysbrydoli."

Bydd y theatr yn agor 1 Mawrth 2025, gyda rhaglen waith gan grewyr lleol, yn ogystal â sioeau teithiol o bob cwr o'r DU.

I ddarganfod mwy am y perfformiadau yn Porter's, ewch i  https://www.porterscardiff.org/ a dilynwch ni ar Instagram (@porterscardiff) a Facebook (Porter's Cardiff).