Back
Coed afalau ‘Gabalva' prin wedi'u plannu yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 100 mlynedd

31/01/25

Mae rhywogaeth brin o goeden afalau a dyfai ar dir ystâd deuluol Bute yng Nghaerdydd ar un adeg wedi cael ei hailgyflwyno i'r ddinas am yr hyn y credir yw'r tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.

Y gred oedd bod coed afalau Gabalfa, a gofnodwyd yn hanesyddol fel afalau ‘Gabalva', wedi diflannu nes iddynt gael eu hailddarganfod yn Sir Gaerfyrddin yn 2004.

Mae tair o'r coed wedi cael eu plannu fel rhan o berllan newydd sy'n cael ei datblygu ym Mharc Gabalfa. Mae'r berllan yn rhan o brosiect coedwig drefol ‘Coed Caerdydd' Cyngor Caerdydd, sydd â'r nod o gynyddu gorchudd canopi coed fel rhan o ymgyrch Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i ymateb i newid hinsawdd.

A person and person holding shovels in a fieldDescription automatically generated

Aelod Cabinet dros Barciau, y Cynghorydd Jennifer Burke a'r Cynghorydd ward leol Dilwar Ali yn plannu coeden afalau Gabalva.

Gyda chymorth byddin o wirfoddolwyr cymunedol, bydd 47 o goed afalau Gabalva arall yn cael eu plannu ym Mharc Maitland, Perllan Gymunedol Parc Bute, ac ar dir ysgol yn ystod y tymor plannu hwn.

Bydd 450 o goed ffrwythau eraill, yn cynnwys mathau eraill o afal yn ogystal â gellyg, eirin a cheirios, hefyd yn cael eu plannu fel rhan o'r rhaglen blannu eleni.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Pwrpas hyn yn bennaf yw cefnogi natur, helpu i lanhau'r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu, a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Dyna pam rydyn ni eisoes wedi plannu digon o goed newydd yng Nghaerdydd i orchuddio ardal maint 25 o gaeau Stadiwm Principality ers i Goed Caerdydd ddechrau ddwy flynedd yn ôl, a dyna pam ein bod yn bwriadu plannu 30,000 o goed newydd y tymor hwn - ond mae gallu ailgyflwyno blas bach ar hanes i fannau gwyrdd Caerdydd ar yr un pryd yn eithaf arbennig."

Mae'r cofnod olaf o goed afalau Gabalva ym mannau gwyrdd Caerdydd yn dyddio'n ôl i gyfnod y garddwr enwog Andrew Pettigrew, a oedd yn Brif Arddwr i'r 3yddArdalydd Bute o 1873 i 1901, a ddisgrifiodd dair coeden o'r amrywiaeth hon yn tyfu ar y tiroedd "yma yn Gabalva" fel rhai "tua 35 troedfedd o daldra, gyda boncyffion mwy trwchus na chorff dyn."

Yn ôl rhifyn o'r Gardener's Chronicle a gyhoeddwyd yn oes Pettigrew, roedd yr amrywiaeth hwn o afal yn "ddigon da i fod yn afal pwdin hwyr" ac yn "un gwerthfawr iawn at ddibenion coginio ym misoedd cynnar y flwyddyn" ond hyd yn oed yn oes Fictoria, ymddengys eu bod yn brin, gyda Pettigrew yn sôn am sut yr oedd wedi "dangos sbesimenau o'r ffrwyth i feirniaid da ar wahanol adegau, ond doedd neb yn gwybod hynny."

Mae perllannau'n ffynhonnell fwyd bwysig i fywyd gwyllt gyda blodau'r gwanwyn yn ffynhonnell neithdar ardderchog i lawer o bryfed fel gwenyn, pryfed hofran a gwyfynod. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae ffrwythau sy'n cwympo yn y gwynt yn bwydo anifeiliaid di-asgwrn cefn, adar a mamaliaid. Mae coed ffrwythau yn rhoi cyfleoedd nythu pwysig hefyd ac yn cyfrannu at gynefinoedd 'coed marw' hanfodol.

Mae sesiynau plannu coed cymunedol rheolaidd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar hyd a lled Caerdydd rhwng nawr a mis Ebrill 2025. I helpu i blannu coed yn eich ardal chi, ewch i: https://www.eventbrite.com/o/coed-caerdydd-46791623513