Cafodd William Hanson, 49,
o Lawnt Trowbridge, Caerdydd ei ddedfrydu i bum mlynedd a mis yn y carchar am
dri ar ddeg o gyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd ar 17 Rhagfyr ar ôl pledio'n
euog i'r holl droseddau cyn dyddiad yr achos.
Cododd Hanson, sy’n cael ei
adnabod hefyd fel Willam Connors neu Bill Austin, yn sylweddol fwy na gwerth y
gwaith a wnaed ganddo ar eiddo ei ddioddefwyr, gan orliwio difrifoldeb y gwaith
oedd ei angen neu wneud gwaith nad oedd ei angen. Roedd yr holl waith a wnaed o
safon wael iawn, a olygodd y bu’n rhaid i’r holl ddioddefwyr wario hyd yn oed
mwy o arian i unioni'r gwaith gwael a wnaed ganddo.
Achos yr erlyniad oedd bod Hanson
wedi pwyso a pherswadio ei ddioddefwyr i gael gwaith wedi ei wneud ar eu
heiddo, gan ennill eu hymddiriedaeth ei fod yn adeiladwr cymwys. Roedd
dioddefwr 93 oed, a fu farw cyn y ddedfryd yn anffodus, wedi annog ei mab i
beidio â chanslo ei chytundeb gyda Mr Hanson, nac i gynnwys yr heddlu am ei fod
yn ymddangos fel 'dyn neis iawn' a fyddai'n 'gwneud gwaith da ac yn rhoi pris
teg iddi'.
Dwedodd y Cynghorydd Norma
Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a
Rennir: "Mae'n fy mlino i y gallai
dyn fel Hanson droi aelodau mor fregus o'n cymdeithas yn ysglyfaeth iddo, tra'n
parhau i'w swyno i feddwl ei fod yn fasnachwr credadwy.
"Yn anffodus, mae hyn
yn gyffredin, lle rhoddir pris y cytunwyd arno i wneud gwaith, ond wrth i'r
gwaith gael ei wneud, nodir diffygion neu broblemau newydd nad ydynt yn bodoli
mewn gwirionedd, gan gynyddu'r gost yn sylweddol. Mae'n dwyllwr, ac erbyn hyn
mae ganddo amser i ystyried ei droseddau o’r tu hwnt i fariau carchar."
Wrth amddiffyn Hanson, fe'i
gwnaed yn glir i'r llys, er na blediodd yn
euog ar y cyfle cyntaf, ei fod wedi gwneud hynny cyn y dyddiad a osodwyd
ar gyfer yr achos, gan arbed amser ac arian i'r llys. Er bod gan Mr Hanson
euogfarnau blaenorol sylweddol, amlygodd yr amddiffyniad fod y diweddaraf yn
2012, sy'n dangos ei fod wedi ceisio cilio o'i orffennol troseddol.
Fel rhan o'r ddedfryd,
gwnaed cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol i atal Mr Hanson rhag cynnig neu
gynnal gwasanaethau adeiladu neu wella cartrefi fyth eto. Er na roddwyd
gorchymyn oes, cafodd orchymyn 10 mlynedd, a fydd yn cyfyngu ar gyfleoedd
busnes Hanson pan fydd yn gadael y carchar.
Gwnaethpwyd Cais am
Enillion Troseddau i'r llys, fel y gall y cyngor geisio adennill cymaint o
arian â phosibl fel iawndal i'w ddioddefwyr.