19/12/2024
Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch, ysgol gynradd Gymraeg yn Lecwydd, wedi cael ei chanmol am ei harweinyddiaeth gref, ei hethos gynhwysol, ac am ganolbwyntio ar godi safonau disgyblion yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd cadarnhaol ac ymroddiad yr ysgol i gefnogi pob dysgwr gan ganmol gweledigaeth glir yr ysgol, sy'n blaenoriaethu llesiant, datblygiad sgiliau a chynnydd academaidd y disgyblion.
Cydnabu'r arolygwyr bod yr ymdeimlad cryf o waith tîm ymhlith staff ac arweinwyr, yn cyfrannu at gydweithio pwrpasol a gwelliant parhaus ar draws yr ysgol gan dynnu sylw at lwyddiant yr ysgol o ran hyrwyddo cynwysoldeb, yn enwedig drwy ei Chanolfan Adnoddau Arbennig (CAB), lle mae disgyblion wedi'u hintegreiddio'n llawn i gymuned yr ysgol.
Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi'i chydlynu'n dda, gan sicrhau bod y dysgwyr hyn yn gwneud cynnydd da law yn llaw â'u cyfoedion.
Mae cryfderau allweddol yn cynnwys:
Dwedodd Dewi Rees, Pennaeth yr ysgol: "Mae ein hadroddiad diweddar ESTYN yn dyst i waith diflino, ymroddiad ac ymrwymiad parhaus pob aelod o gymuned yr ysgol. Rydym wrth ein bodd bod Ysgol Gymraeg Pwll Coch wedi cael ei chydnabod fel amgylchedd ysgol gynhwysol a hapus lle mae pob disgybl yn cael ei werthfawrogi. Rydym yn hynod falch bod ein disgyblion wedi cael eu canmol am eu cariad at y Gymraeg yn ogystal â'u gwerthfawrogiad o'r amrywiaeth ryfeddol o ddiwylliannau yn ein hysgol a'n cymuned leol. Rydym wrth ein bodd gyda'r gydnabyddiaeth i'n cyflawniadau ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella'r profiad addysgol i'n holl ddisgyblion."
Mae'r adroddiad yn cydnabod, er bod addysgu'n effeithiol, bod meysydd i'w gwella i sicrhau cysondeb wrth herio pob disgybl a meithrin annibyniaeth yn eu dysgu. Bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â'r ddau argymhelliad gan Estyn yn ei chynllun gweithredu ac yn adeiladu ar ei chryfderau presennol;
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Dylai Ysgol Gymraeg Pwll Coch deimlo'n falch bod Estyn wedi cydnabod ethos cynhwysol yr ysgol, y gwaith tîm cryf, a'r cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud. Dangoswyd bod staff yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu mewn amgylchedd meithringar, ac mae'r ysgol wedi ymrwymo i wella'r profiadau dysgu ymhellach ar gyfer pob disgybl."
Adeg yr arolwg, roedd 324 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Mae 17.3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae gan 7.6% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae 24.6% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.
(ends)
Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens
Email:danni.janssens@cardiff.gov.ukTel: 029 20872965