Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Gwaith yn dechrau'n swyddogol ar godi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Court
Mae seremoni arbennig wedi nodi dechrau'r gwaith o adeiladu dau adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Court.
Bydd y prosiect gwerth dros £23m o fuddsoddiad, yn cael ei gyflawni dan Gymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru a bydd yn cynyddu lleoedd yr ysgol drwy ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle. Bydd un wedi'i leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a bydd y llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni.
Torrwyd y tir ar safle Llanrhymni gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.
Ymunodd Pennaeth Ysgol y Court, Jamyn Beesley, disgyblion a phenaethiaid o Ysgolion Cynradd y Tyllgoed a Phen-y-Bryn, â'r ddau.
Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Kier, y contractwr a ddewiswyd i ymgymryd â'r gwaith o ddylunio ac adeiladu'r cynllun yn fanwl, ac aelodau o'r ward lleol o'r Tyllgoed, Llanrhymni a Llanisien, lle mae lleoliad yr ysgol bresennol.
Nodwyd y cynigydd a ffefrir ar gyfer Partneriaeth Adeiladu Tai Caerdydd a'r Fro
Mae Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn eu partneriaeth gyffrous i adeiladu cartrefi fforddiadwy cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyflymder ar draws y rhanbarth.
Yn dilyn proses gaffael deialog gystadleuol sydd wedi nodi'r cynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried argymhellion i gymeradwyo penodi'r cynigydd a ffefrir yn bartner datblygu yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 12 Rhagfyr.
Y bartneriaeth yw ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei chynllun penigamp Cartrefi Caerdydd, ac mae'n rhan o'i chynlluniau datblygu ehangach - y rhaglen ddatblygu fwyaf dan arweiniad cyngor yng Nghymru, allai godi mwy na 4,000 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys o leiaf 2,800 o dai cyngor newydd.
Mae'r cydweithio â Bro Morgannwg yn ganlyniad ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol ledled y rhanbarth i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau tai presennol drwy godi o leiaf 2,260 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.
Bydd tua hanner yr holl gartrefi newydd yn eiddo fforddiadwy i'w cadw gan y Cynghorau ar gyfer cynlluniau rhent cymdeithasol neu ranberchenogaeth, tra bydd y gweddill yn cael ei werthu ar y farchnad agored.
Goroesi Storm Darragh ar Ynys Echni
Ar ddiwrnod heulog, nid oes llawer o leoedd gwell i ddianc bywyd y ddinas ac ailgysylltu â natur, nag ar ynys anghysbell fel Ynys Echni. Ond yn ystod storm, mae bywyd ar ynys fechan ym Môr Hafren ymhell o baradwys, fel y darganfu Simon Parker warden preswyl yr ynys yn ystod Storm Darragh.
"Roedd hi'n wyllt. Rwyf wedi cael sawl storm allan yma, ond hwn oedd y gwaethaf o bell ffordd. Mae'r ffermdy yn adeilad eithaf cadarn, ond roedd yn ysgwyd. Allech chi ddim cysgu oherwydd y sŵn, gwydr yn torri, teils to yn torri. Y tonnau enfawr hyn yn curo'r ynys."
Arweiniodd Storm Darragh at y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd tywydd coch prin am wynt. Yng nghanol yr ardal rhybuddio roedd Ynys Echni, ychydig filltiroedd oddi ar arfordir Caerdydd, ym Môr Hafren.
"Roedden ni'n gwybod ei fod yn dod," meddai Simon, "felly fe wnaethon ni gymryd llawer o gamau rhagofal, clymu popeth i lawr a gwneud yn siŵr nad oedd dim yn gorwedd o gwmpas, ond roedd llawer o falurion yn hedfan o gwmpas, darnau o haearn rhychog o gysgodfannau. Collais ychydig o ddrysau."
Yn ystod y storm ei hun, roedd hi'n rhy beryglus i fentro allan, felly unig opsiwn Simon oedd swatio yn y ffermdy, dal i fyny ar rywfaint o waith gweinyddol a gwylio "ffilmiau Nadolig gwael" nes i'r tywydd wella, a gallai fynd allan i archwilio'r difrod.