Back
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynllun Caerdydd i Wella Llwybrau Bysus Allweddol
 09/12/24

 Gwahoddir preswylwyr a chymudwyr yng Nghaerdydd i rannu eu barn ar fenter newydd i wella chwe phrif lwybr bws i ganol y ddinas.

 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar 9 Rhagfyr ac yn rhedeg am saith wythnos tan 27 Ionawr, ac mae pawb sy'n byw yng Nghaerdydd neu’n teithio iddi yn cael eu hannog i ddarllen am y strategaeth a chwblhau'r arolwg byr yma - https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau-byw/Strategaeth-blaenoriaeth-bysus/Pages/default.aspx

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth: "Nod y 'Cynllun Seilwaith Blaenoriaeth Bysus' yw sefydlu 'Rhwydwaith Bysus Craidd' o chwe choridor allweddol i'r ddinas. Bydd hyn yn gwella teithio ar fysus i 80% o deithwyr, gan integreiddio teithio ar fysus gyda rheilffyrdd, rheilffyrdd ysgafn, beicio a cherdded, a chreu sylfaen gryfach ar gyfer ceisiadau am gyllid trafnidiaeth yn y dyfodol. Mae'r Cyngor wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cysyniad y coridorau bysus, ond byddai angen cyllid pellach ar gyfer y gwaith adeiladu.

 

"Ers pandemig COVID-19, mae teithio ar fysus yng Nghaerdydd wedi lleihau ac nid yw wedi gwella'n llwyr, gydag amcangyfrifon cyfredol yn dangos bod defnydd bysus 10-20% yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Nod y cynllun yw gwrthdroi'r duedd hon trwy wneud teithio ar fws yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy trwy amrywiol ymyriadau. "Mae'n bwysig datgan yn glir nad ydym yn cynnig lonydd bysus pwrpasol ar hyd y chwe llwybr hyn, ond yn hytrach ymyriadau wedi'u targedu gan ddefnyddio ystod o ddulliau gwahanol i wneud teithio ar fysus yn fwy deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr.”

 

Y Chwe Choridor Bysus Arfaethedig:

 

  1. Trelái i Ganol y Ddinas: Yn cysylltu Trelai, Treganna a Glan-yr-afon â chanol y ddinas. Oherwydd priffyrdd cul, nid yw lonydd bysus pwrpasol yn ymarferol, ond bydd lonydd blaenoriaeth a chyfyngiadau traffig yn cael eu hasesu. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys:

o   Mesurau rheoli ymyl y ffordd i atal parcio ar balmentydd a rhwystrau ar safleoedd bysus.

o   Aildrefnu safleoedd bysus ar gyfer croesfannau mwy diogel i gerddwyr.

o   Gosod technoleg wrth gyffyrdd er mwyn rhoi blaenoriaeth i fysus.

 

  1. Ysbyty Athrofaol Cymru i'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol: Sicrhau cysylltiadau hanfodol ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Grangetown, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, a Bro Morgannwg. Gall ymyriadau gynnwys:

o   Mesurau rheoli ymyl y ffordd i atal rhwystrau.

o   Gwelliannau i gyffyrdd allweddol (Heol Albany/Heol y Plwca/Heol Richmond/Heol y Crwys a Heol Casnewydd/Heol y Plwca).

o   Technoleg i flaenoriaethu bysus a gwella safleoedd bysus.

o   Lonydd bysus posibl tuag at y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

 

  1. Canol y Ddinas i Heol Casnewydd, Parc Caerdydd, a Chasnewydd: Yn gwasanaethu Pentwyn, Pontprennau, Tredelerch, a Llaneirwg. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys:

o   Lonydd bysus mewn adrannau penodol.

o   Technoleg i flaenoriaethu bysus.

o   Gwelliannau i gyffyrdd (Heol Casnewydd/Heol Gwynllŵg, Heol Casnewydd/Heol y Plwca, Heol Casnewydd/Westgrove).

o   Mesurau rheoli ymyl y ffordd i atal rhwystrau.

o   Adleoli safleoedd bysus er mwyn darparu croesfannau mwy diogel i gerddwyr. 

  1. Canol y Ddinas i Fae Caerdydd: Diogelu llwybrau at y dyfodol i gefnogi datblygiadau newydd a llwybrau rheilffordd presennol. Gall ymyriadau gynnwys mesurau amrywiol i flaenoriaethu teithio ar fysus.
  2. Canol y Ddinas i Ogledd Caerdydd, RhCT a Chaerffili: Yn cysylltu Gogledd Caerdydd trwy Gylchfan Gabalfa â chanol y ddinas, gyda llwybrau i RhCT a Chaerffili. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys:

o   Asesu Cylchfan Gabalfa er mwyn cael blaenoriaeth bysus.

o   Gosod technoleg wrth gyffyrdd i roi blaenoriaeth i fysus.

o   Aildrefnu safleoedd bysus.

o   Gwelliannau i gyffordd Heol Merthyr/Heol Caerffili.

 

  1. Canol y Ddinas i Blasnewydd a Gogledd-ddwyrain Caerdydd: Yn cysylltu Plasnewydd a Phen-y-lan, gan ddarparu mynediad i gyfleusterau addysgol allweddol. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys:

o   Mesurau rheoli ymyl y ffordd i atal rhwystrau.

o   Adleoli safleoedd bysus er mwyn darparu croesfannau mwy diogel i gerddwyr.

o   Gosod technoleg wrth gyffyrdd i roi blaenoriaeth i fysus.

o   Gwelliannau i gyffyrdd (Heol Albany/Heol y Plwca/Heol Richmond/Heol y Crwys a Heol Casnewydd/Westgrove).

 

Mae'r cynllun hwn, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru, a gweithredwyr eraill, yn nodi cyfres o welliannau a allai wneud teithio ar fysus yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, "Mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn cynnig dewis arall credadwy yn lle defnyddio ceir preifat, gan ddwyn buddion sylweddol. Mae hyn yn cynnwys lleihau tagfeydd, gwella ansawdd aer, a gwneud Caerdydd yn lle gwell i fyw ynddo ac ymweld ag ef. "Mae'r cynllun hwn yn cynnig chwe llwybr bysus allweddol a fydd yn cysylltu â chyfnewidfeydd allweddol, gan gynnwys y Gyfnewidfa Fysus newydd, Gorsaf Waungron, Ysbyty Athrofaol Cymru a safleoedd parcio a theithio presennol a’r dyfodol.”