Back
Storm Darragh: Criwiau Caerdydd yn brwydro yn erbyn gwynt a glaw i helpu i gadw'r ddinas yn ddiogel

7/12/24
 
Bu criwiau Cyngor Caerdydd yn brwydro yn erbyn yr elfennau i ymateb i fwy na 130 o adroddiadau o goed wedi cwympo a malurion wrth i Storm Darragh ysgubo i’r brifddinas heddiw.

Gan flaenoriaethu achosion yn seiliedig ar risg i fywyd neu ddiogelwch y cyhoedd, dyma'r nifer uchaf o ddigwyddiadau yr ymdriniwyd â hwy gan y cyngor yn ystod un storm ers dros 20 mlynedd.

Wrth i wyntoedd eithriadol o uchel daro’r ddinas yn yr oriau mân, roedd criwiau ar y safle o fewn 20 munud i adroddiad cyntaf y dydd am 2.30am ac yn parhau i weithio’n ddiflino ar draws y ddinas i glirio priffyrdd a glanhau’r llanast a adawyd yn sgil y storm.

Mewn amodau ofnadwy, rhoddodd timau flaenoriaeth i glirio ffyrdd yr effeithiwyd arnynt gan goed wedi cwympo cymaint â phosibl yn ystod oriau golau’r dydd. Bydd Heol Goch ym Mhentyrch, sydd ar gau yn gynnar y bore yma, yn parhau ar gau dros nos tra bod y ffordd ymuno oddi ar gylchfan Lecwydd i ymuno â’r A4232 tuag at Groes Cwrlwys wedi bod ar gau heno oherwydd coeden wedi disgyn.

Bydd criwiau’n dychwelyd yfory i barhau â’r gwaith clirio ar draws y ddinas. Byddwch yn amyneddgar gyda ni wrth i ni reoli ein ffordd drwy'r difrod a achoswyd gan Storm Darragh.

Deliodd canolfan gyswllt y Cyngor, Cyswllt â Chaerdydd, â mwy na 300 o adroddiadau am goed wedi cwympo a difrod a achoswyd gan y storm, a throsglwyddwyd pob un ohonynt i’n timau yn y maes.

Mae ein llinellau cyswllt brys bellach mewn sefyllfa well i gymryd drosodd gyda galwadau gan fod adroddiadau wedi gostwng i lefel y gellir eu rheoli.

Er mwyn sicrhau bod eich adroddiad yn cael ei ddelio’n brydlon, rhowch wybod am unrhyw goed sydd wedi cwympo neu broblemau ar y priffyrdd sy'n debygol o achosi damwain neu anaf difrifol i'r timau brys ar 029 2087 2087.

Ni fydd y sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro dros nos.

Gyda rhybuddion tywydd yn parhau ar gyfer y ddinas am weddill heddiw ac yfory, mae'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar wasanaethau hanfodol yn enwedig ym meysydd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai (gan gynnwys darpariaeth digartrefedd), Pryd ar Glud, Teleofal, Priffyrdd ac Awdurdod yr Harbwr.

Mae’r trefniadau ar gyfer dydd Sul fel a ganlyn:

• Canolfannau Ailgylchu – ar gau.

• Ysgol Farchogaeth Caerdydd - mae nifer o wersi dydd Sul wedi eu canslo a bydd yr ysgol ar agor i nifer cyfyngedig o farchogion yn unig. Cysylltwyd yn uniongyrchol â phawb yr effeithir arnynt gan y canslo.

• Bydd Rhaffau Uchel Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn parhau ar gau ddydd Sul, ond mae gweddill y cyfleuster ar agor.

• Cartref Cŵn Caerdydd – ar agor ar ddydd Sul.

• Llwybr Golau Parc Bute, atyniadau Nadolig Working Street a Chastell Caerdydd – ar agor ddydd Sul.

• Bydd mynwentydd yn agor fel arfer am 10am ddydd Sul.

• Bydd Gŵyl y Gaeaf (safleoedd y Castell a Neuadd y Ddinas) yn agor o 1pm.

Rydym yn parhau i fonitro'r tywydd yn ofalus a'i effaith ar y ddinas heno ac yfory. Bydd cyngor a diweddariadau yn cael eu cyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.