Back
Perfformiad cryf gwasanaethau llyfrgell y Brifddinas mewn asesiad blynyddol
6/12/24

Mae gwasanaethau llyfrgell yng Nghaerdydd yn parhau i gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid, yn ôl adroddiad newydd.

Yn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru blynyddol, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru, mae Caerdydd unwaith eto wedi perfformio'n dda yn erbyn ystod o ddangosyddion a mesurau ansawdd sy'n asesu'r gwasanaethau a ddarparwyd.

Mae Caerdydd wedi bodloni holl 13 elfen graidd y safonau’n llawn ac, o'r 7 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, mae'n cyflawni chwech yn llawn ac un yn rhannol.

Mae cymorth defnyddwyr a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn parhau i fod yn gryfderau allweddol i'r gwasanaeth ac mae'r staff yn amlwg yn gwneud ymdrechion i sicrhau bod y rhain yn gynhwysol i gwsmeriaid ag ystod eang o anghenion a diddordebau.

Canfu'r asesiad blynyddol fod Caerdydd yn chwartel uchaf awdurdodau llyfrgelloedd Cymru ar gyfer mynychu digwyddiadau fesul pen o'r boblogaeth ac mae cyfanswm y mynychwyr wedi codi 80% o'i gymharu â 2022-23. Mae'r gwasanaeth hefyd yn y chwartel uchaf ar gyfer cyhoeddiadau i oedolion a phlant, gyda chyhoeddiadau llyfrau oedolion yn cynyddu 16% a chyhoeddiadau plant 5% o'i gymharu â 2022-23.

Mae Caerdydd yn parhau i fod yn y chwartel uchaf ar gyfer cyhoeddiadau Cymraeg fesul pen o'r boblogaeth.

Ymatebodd mwy na 90% o'r cwsmeriaid a holwyd yn 2023 yn gadarnhaol i bob un o'r mesurau boddhad cwsmeriaid tra bod canran yr oedolion sy'n credu bod y llyfrgell wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau wedi cynyddu ers 2022-23.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman: "Rwy'n falch iawn o berfformiad Caerdydd ac yn falch bod y pwyslais y mae Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn ei roi ar iechyd ein cymunedau yn cael ei gydnabod yn glir yn yr adroddiad. Mae clywed bod cynnydd wedi bod yng nghyfran y bobl sy'n teimlo bod ein gwasanaeth llyfrgell wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau yn wych.

"Mae hefyd yn wych gweld bod casgliadau llyfrau yr un mor boblogaidd ag erioed a bod ein digwyddiadau mor boblogaidd. Cynyddodd nifer aelodau'r llyfrgell yn y ddinas â 5% yn ystod 2023/24 ac rydym yn parhau i weld yr aelodaeth yn tyfu eleni sy'n dyst i'r gwasanaeth gwerthfawr y mae ein timau yn ei ddarparu mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.

"Rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth sydd wedi cyfrannu at gyflawni perfformiad rhagorol arall."