Back
Ysgol Gynradd Rhiwbeina wedi'i henwi ymhlith y 49 o leoliadau i dderbyn glasbrennau 'Coed Gobaith' y Sycamore Gap.

 

3/12/2024

 

Mae Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Ngogledd Caerdydd ymhlith 49 o leoliadau ledled y DU fydd yn derbyn un o lasbrennau coeden y Sycamore Gap a fu'n sefyll wrth Fur Hadrian nes iddi gael ei chwympo'n annisgwyl ym mis Medi 2023.

A tree on a hillDescription automatically generated

Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y cyhoeddiad yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed ar ôl gwahodd unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y DU i wneud cais am lasbren, gan nodi blwyddyn ers i'r goeden boblogaidd gael ei chwympo'r llynedd.

 

Cafodd bron i 500 o geisiadau eu derbyn ar gyfer y 49 o lasbrennau - un i gynrychioli pob troedfedd o uchder y goeden ar adeg ei chwympo.

A group of plants in potsDescription automatically generated

 

Roedd cais llwyddiannus Ysgol Gynradd Rhiwbeina yn disgrifio bod gan ei disgyblion angerdd gwirioneddol am ddysgu am natur, a'u bod nhw wrth eu bodd yn yr awyr agored ar bob cyfle.

Mae'r ysgol wedi defnyddio stori coeden y Sycamore Gap fel ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu am y rhan bwysig y mae coed yn ei chwarae yn ein byd, ac fel symbol o obaith yn wyneb ffolineb dyn.

Dywedodd y Pennaeth Carol Harry: "Bydd ein Coeden Gobaith yn cael ei phlannu ar faes yr ysgol gyda'r mynydd a'r coedwigoedd yn gefndir iddi a bydd yn darparu lloches ym mhob tymor i blant yr ysgol, eu rhieni a'r gymuned ehangach. Mae'n atgoffa'r plant o'r rhan y mae coed yn ei chwarae wrth ddod â gobaith a chefnogi lles, a bydd yn tyfu ochr yn ochr â'r plant."

Roedd y beirniaid yn ffafrio'r cais a oedd yn dangos sut y safai coeden y Sycamore Gap ar ffin ogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain, a sut y bydd y lasbren yn atgoffa'r gymuned o'r hanes a rennir, fel allbost gorllewinol o'r Ymerodraeth honno.  "Mae ein pentref, Rhiwbeina, yn swatio wrth droed coedwig y Wenallt... ein coedwig law dymherus ein hunain! Mae'n enwog am ei choetiroedd ffawydd a chlychau'r gog hardd, gan edrych dros Fôr Hafren a dinas Caerdydd."

"Bydd y goeden yn sefyll wrth ein hochr ac yn tyfu gyda ni.  Mae'n dysgu gwers i ni, i ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a bod pethau da yn gallu dod o ddrwg," meddai Ffion o Flwyddyn 6.

Mae'r glasbrennau yn cael gofal yng Nghanolfan Gwarchod Planhigion yr elusen ar hyn o bryd, a dylent fod yn ddigon cryf a chadarn yn barod i'w plannu yn ystod gaeaf 2025/26.

Dywedodd Andrew Poad, Rheolwr Cyffredinol eiddo Mur Hadrian yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Bydd pob glasbren yn cario neges o obaith gyda hi wrth iddyn nhw ddechrau pennod newydd, nid yn unig ar gyfer y goeden, ond i bob un o'r 49 o leoliadau a chymunedau fydd yn derbyn glasbrennau y flwyddyn nesaf."

Cafodd y ceisiadau eu beirniadu gan banel o arbenigwyr o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dan arweiniad y barnwr annibynnol a'r arbenigwr ar goedyddiaeth, Catherine Nuttgens.

"Gall colli unrhyw goeden ennyn emosiynau cryf - yn enwedig coeden y Sycamore Gap. Roedd ei dinistr yn teimlo'n hollol ddisynnwyr, yn dinistrio'r llawenydd syml yr oedd hi'n ei roi i gynifer o bobl am gymaint o resymau. Ond mae'r fenter 'Coed Gobaith' wedi cadw'r ymdeimlad hwnnw o lawenydd a gobaith yn fyw, ac mae wedi bod yn wirioneddol gostyngedig darllen trwy gynifer o geisiadau, ond roedd hi'n dasg anodd dewis y 49 derbynnydd terfynol.

"Mae'r straeon wedi dod o bob cornel o'r DU ac o bob cefndir.  Mae eu geiriau'n adlewyrchu'r gobaith a'r caredigrwydd y gall bodau dynol feddu arnynt, sy'n teimlo fel ymateb mor addas i golli'r goeden werthfawr hon."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Rhiwbeina. Gall disgyblion, staff a'r gymuned ehangach deimlo'n falch ac yn gyffrous i ddod yn warcheidwaid ar ddarn pwysig o hanes byd natur Prydain, rhywbeth a fydd yn cael ei fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol."