Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Ysgol Farchogaeth benigamp Caerdydd yn "newid bywydau"
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd wedi'i henwi fel Canolfan Gymeradwy Cymdeithas Ceffylau Prydain 2024 sydd wedi "gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w chymuned."
Canmolodd y Gymdeithas "ymdrechion parhaus yr ysgol i ysbrydoli a chodi unigolion o bob cefndir, ac ymrwymiad diwyro i gynhwysiant, ymgysylltu â'r gymuned a datblygiad personol," gan ei galw'n "allweddol yn newid llawer o fywydau."
Yn eiddo i Gyngor Caerdydd, Ysgol Farchogaeth Caerdydd yw un o'r ysgolion marchogaeth olaf sy'n eiddo i'r awdurdod lleol ac yn cael ei gweithredu ganddo yn y DU.
Cau dwy siop arall am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon yng Nghaerdydd
Mae dwy siop arall yn gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon wedi cau dros dro ar Stryd Clifton yng Nghaerdydd.
Mae Vape Mini Market a Best One Vape wedi cael eu cau am dri mis gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) ar ôl i Lys Ynadon Caerdydd rhoi Gorchmynion Cau oherwydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ddydd Gwener, 22 Tachwedd a dydd Mawrth, 26 Tachwedd.
Mae'r Gorchmynion yn cau'r siopau ar unwaith ac yn eu hatal rhag masnachu am dri mis. Os cânt eu hagor ar gyfer busnes yn ystod y cyfnod hwn, gallai perchnogion y busnesau dderbyn tri mis yn y carchar, dirwy neu'r ddau.
Angen barn y cyhoedd am bont newydd arfaethedig dros Afon Taf
Gofynnir i'r gymuned leol ac aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar bont newydd arfaethedig ar draws Afon Taf.
Mae'r bont arfaethedig i gerddwyr a beiciwyr rhwng y Marl yn Grangetown a Pharc Hamadryad yn Butetown yn cefnogi cynllun adfywio ehangach y Cyngor i ailddatblygu ystâd Trem y Môr.
Byddai'r bont yn cynnig cysylltiad pwysig i gymunedau naill ochr i'r afon, i ysgolion, parciau a chyfleusterau hamdden gan gysylltu â'r rhwydwaith ehangach o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio, gan gynnwys Llwybr y Bae a Llwybr Elái.