Mae Vape Mini Market a Best One Vape wedi cael eu
cau am dri mis gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) ar ôl i Lys Ynadon
Caerdydd rhoi Gorchmynion Cau oherwydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ddydd
Gwener, 22 Tachwedd a dydd Mawrth, 26 Tachwedd.
Mae'r Gorchmynion yn cau'r siopau ar unwaith ac yn eu
hatal rhag masnachu am dri mis. Os cânt eu hagor ar gyfer busnes yn ystod y
cyfnod hwn, gallai perchnogion y busnesau dderbyn tri mis yn y carchar, dirwy
neu'r ddau.
Cafodd ymchwiliad ei lansio yn dilyn cwynion gan y
cyhoedd bod y siopau yn gwerthu cynnyrch tybaco anghyfreithlon ac e-sigaréts
anghyfreithlon.
Dangosodd nifer o bryniannau prawf fod tybaco ffug,
e-sigaréts anghyfreithlon a sigaréts di-doll wedi eu smyglo i'r DU, yn cael eu
gwerthu o'r safle. Roedd 50g o dybaco Amber Leaf ffug yn cael ei werthu am gyn
lleied â £5 pan fyddai’r pris manwerthu arferol yn £40.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned. Mae’r
ffaith ei fod yn rhad ac yn hawdd i’w gyflenwi yn arbennig o ddeniadol i bobl
ifanc ac eraill ar incwm is, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr
presennol roi'r gorau i'r arfer. Mae gwerthu
tybaco anghyfreithlon yn aml yn cael ei gysylltu â throseddau eraill hefyd,
gyda grwpiau troseddol cyfundrefnol
yn rheoli'r farchnad, ac elw o'r gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ariannu
gweithgareddau troseddol eraill.Rwy'n falch
iawn o weld y camau hyn yn cael eu gweithredu. Mae angen i droseddwyr wybod y
byddant yn wynebu canlyniadau os byddant yn dewis delio yn y cynnyrch
anghyfreithlon hyn.
Cafodd ymchwiliad y GRhR i'r
ddwy siop yma gefnogaeth Heddlu De Cymru,
Ash Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Tollau Tramor a Chartref EF a Chynghorwyr Lleol.
Anogir
unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â gwerthu tybaco anghyfreithlon i roi
gwybod amdano, yn ddienw, yn https://noifs-nobutts.co.uk/report-illegal-tobacco-in-wales