Back
Mae timau’r Cyngor a grwpiau cymunedol wedi cydweithio i gyfyngu’r llifogydd yng Nghaerdydd
 25/11/24

 Fe darodd Storm Bert lannau'r DU ddydd Sadwrn a chafodd De-ddwyrain Cymru ychydig llai na mis o law mewn 24 awr.

Cyn i'r storm gyrraedd, paratôdd swyddogion y Cyngor drwy ddefnyddio adnoddau ychwanegol i glirio draeniau a gylïau mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd yng Nghaerdydd. Mae dros 80,000 o ddraeniau a gylïau yng Nghaerdydd felly roedd ymdrechion yn canolbwyntio ar ardaloedd sy'n fwy agored i berygl llifogydd.

Ymunodd sawl grŵp cymunedol hefyd i helpu i glirio dail o’r draeniau yn eu hardaloedd, a helpodd i leihau'r tebygolrwydd o lifogydd fflach sy'n digwydd pan fydd lefel y glawiad mor uchel nes bod draeniau stormydd yn methu ag ymdopi â maint y dŵr glaw, gan achosi pyllau ar y stryd.

Fel rhan o'r gwaith brys dros y penwythnos bu swyddogion y cyngor yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fonitro lefelau afonydd Elái, Taf a Rhymni sy'n llifo i Gaerdydd. Rhoddwyd cynlluniau wrth gefn ar waith yn barod i'w gweithredu os oedd angen.

Mae gan Gaerdydd amrywiaeth o fesurau atal llifogydd sy'n cael eu gweithredu pan ddisgwylir glawiad uchel. Mae'r rhain yn cynnwys adeileddau o waith dyn fel Morglawdd Bae Caerdydd, sy'n rheoli lefelau dŵr yn y bae, a gorlifdiroedd ar fannau agored gwyrdd sydd wedi'u cynllunio i orlifo pan fydd lefelau'r afonydd yn codi'n uchel iawn.

Fel yr adroddwyd yn eang, achosodd Afon Taf broblemau sylweddol yn Rhondda Cynon Taf, ond ymhellach i lawr yr afon, gweithredodd y gorlifdir yng Nghaeau Pontcanna yn unol â’u bwriad a gorlifo. Roedd lefelau Afon Rhymni yn uchel iawn hefyd ac yn gorlifo ond gweithiodd y gorlifdir ar y caeau chwarae ar waelod Bryn Llanrhymni yn gywir, ac ni wnaeth lefelau Afon Elái godi’n uwch na’r trothwy perygl.

Mae gan y cyngor gyflenwad cyfyngedig o fagiau tywod y gellir eu defnyddio, os bydd galw am adnoddau ac amodau’n caniatáu hynny, os bydd eiddo mewn perygl o lifogydd, ond rydym yn cynghori unrhyw un sy'n credu y gallai eu heiddo fod yn agored i lifogydd i baratoi ymlaen llaw a phrynu bagiau tywod i ddiogelu eu heiddo.

Dros nos, aeth swyddogion y Cyngor i Heol yr Eglwys ym Mhentyrch, yn dilyn adroddiadau bod coed wedi cwympo gan rwystro'r ffordd. Cafodd y ffordd ei chau dros dro tra bod chwe choed yn cael eu clirio.

Nid yw'r Cyngor wedi derbyn unrhyw adroddiadau o lifogydd mewn eiddo yng Nghaerdydd.

Os ydych chi'n poeni am lifogydd yn eich ardal, dyma bwy i’w ffonio:

  • Mewn perygl uniongyrchol: Ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Llifogydd o afon, môr neu ardal ddraenio fewnol: Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu llinell gymorth digwyddiadau – 0300 065 3000 neu ewch i naturalresources.wales/reportit?lang=cy.
  • Llifogydd o ddŵr wyneb, ffyrdd, draeniau wedi'u hatal, neu nant: Ffoniwch Gyngor Caerdydd ar 02920 872087.
  • Llifogydd o brif gyflenwadau dŵr neu garthffosydd: Cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968.
  • Llifogydd o draffyrdd neu gefnffyrdd: Cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213.

Yn dilyn Storm Bert, heblaw am y gwaith glanhau sydd ei angen wrth ymyl Afon Taf ac ym Mharc Bute, Caeau Pontcanna a Bae Caerdydd, mae holl wasanaethau'r cyngor yn rhedeg fel arfer. Mae Parc Bute wedi ail-agor i’r cyhoedd heddiw, fodd bynnag, bydd yr ardal sy'n cynnwys llwybr goleuadau’r Nadolig ym Mharc Bute yn parhau ar gau tra bod y difrod yn cael ei asesu. Bydd trefnwyr y digwyddiad mewn cysylltiad ag unrhyw ddeiliaid tocynnau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.

Am fwy o wybodaeth am lifogydd yng Nghaerdydd, ewch i https://www.evaccardiff.co.uk/cy/barod/