Back
Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth Cartrefi Plant Newydd 2024 i Wella Gofal i Blant sy'n Derbyn Gofal

 

8/11/2024

Mae adroddiad newydd yn amlinellu ymrwymiad Caerdydd i ddarparu amgylcheddau diogel a meithringar i Blant sy'n Derbyn Gofal yn y ddinas wedi cael ei ddatgelu.

Bydd Strategaeth gynhwysfawr Cartrefi Plant 2024 yn cael ei chyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd i'w chymeradwyo ac yn argymell cymeradwyo'r Strategaeth Darparu Cartrefi i Blant, dirprwyo awdurdod ar gyfer prosesau caffael, a chydweithio ag awdurdodau lleol eraill.

Mae'r strategaeth yn rhan o ymateb y Cyngor i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy'n gorfodi defnyddio endidau nid-er-elw ar gyfer darparu gwasanaethau cartrefi gofal.

Pwyntiau Allweddol y Strategaeth:

  • Adeiladu ar Lwyddiant: Mae'r strategaeth yn adeiladu ar Strategaeth Gwasanaethau Plant Caerdydd 2023-26, sy'n canolbwyntio ar ddarparu'r cymorth iawn i blant ar yr adeg a'r lle iawn. Dros y 18 mis diwethaf, mae Caerdydd wedi canfod, adnewyddu a chofrestru pedwar cartref preswyl newydd yn llwyddiannus, gyda phedwar cartref arall yn cael eu hadnewyddu. Ar hyn o bryd, mae'r cartrefi hyn yn darparu lleoedd i 20 o blant sydd angen gofal. Yn ogystal, mae eiddo mwy gyda phum fflat hunangynhwysol wedi'i brynu ac mae'n cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl ifanc.
  • Cynlluniau'r Dyfodol:Nod y strategaeth yw cynyddu nifer y cartrefi plant yng Nghaerdydd yn sylweddol, lleihau dibyniaeth ar y farchnad, a chreu trefniadau contractio newydd gyda darparwyr. Y nod yw darparu tua 20 o gartrefi newydd o fewn model comisiynu, gan ddarparu lleoedd ychwanegol ar gyfer 60 o blant.
  • Ymgysylltu a chydweithio:Cafodd digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 adborth cadarnhaol gan dros 70 o gynrychiolwyr o sefydliadau gwahanol. Pwysleisiodd y prif adborth bwysigrwydd contractau hirdymor, contractau bloc i leihau effaith gwelyau gwag, a mwy o gydweithio ar draws darparwyr ac asiantaethau cyhoeddus. Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys cydweithio ag awdurdodau lleol eraill i ddiwallu anghenion arbenigol, fel uned asesu rhieni a babanod.
  • Fframwaith Ariannol a Chyfreithiol: Mae'r strategaeth yn mynd i'r afael â phwysau ariannol oherwydd mwy o ddibyniaeth ar leoliadau preswyl allanol. Mae cyllideb gyffredinol y comisiwn ar gyfer lleoliadau preswyl wedi gweld cynnydd sylweddol, gyda chyllideb sylfaenol y Gwasanaethau Plant wedi cynyddu 60% ers 2019/20 a'r gyllideb lleoliadau allanol wedi cynyddu 85%. Mae'r prif ysgogwyr ar gyfer y cynnydd hwn yn cynnwys codiadau ffioedd mewn ymateb i'r cyflog byw gwirioneddol a'r argyfwng costau byw, yn ogystal â'r costau uwch sy'n gysylltiedig â lleoliadau mwy cymhleth ac arbenigol.
  • Cydweithredu gydag Awdurdodau Lleol Eraill:Mae'r strategaeth yn cynnwys cynlluniau i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill i ddiwallu anghenion arbenigol na all Caerdydd eu cynnal ar ei phen ei hun. Er enghraifft, mae Caerdydd mewn trafodaethau cyfnod cynnar gydag awdurdodau lleol eraill ynglŷn â sefydlu uned asesu rhieni a babanod. Nod y cydweithrediad hwn yw cyfuno adnoddau ac arbenigedd i ddarparu gwasanaethau arbenigol sydd o fudd i blant ar draws sawl rhanbarth.

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r strategaeth hon yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a meithringar i blant yng Nghaerdydd. Rydym yn cydnabod bod hyn yn cael ei gyflawni orau drwy weithio gyda'n partneriaid i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc."

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Iau, 21 Tachwedd i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnodAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 21ain Tachwedd, 2024, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod o 4.30pm ddydd Mawrth, 12 Tachwedd. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w gwylio yma.Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 12fed Tachwedd, 2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd