Back
Y Diweddariad: 25 Hydref 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Gwaith adeiladu'n dechrau yn swyddogol ar Ysgol Uwchradd newydd Willows
  • Coed afalau 'Gabalva' prin a fu'n tyfu ar Ystâd Bute ar un adeg i gael eu hailgyflwyno i Gaerdydd
  • Buddugoliaeth 'Mynwent y Flwyddyn' sy'n torri record i Fynwent Draenen Pen-y-graig
  • Camlas Gyflenwi'r Dociau a Chynllun Dwyrain Canol y Ddinas yn ennill gwobr fawreddog

 

Gwaith adeiladu'n dechrau yn swyddogol ar Ysgol Uwchradd newydd Willows

Mae seremoni arbennig wedi nodi dechreuad adeiladu'r cartref newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows.

Y prosiect gwerth £60m yw'r enghraifft ddiweddaraf o waith o dan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Yn rhan ohono, bydd Ysgol Uwchradd Willows bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu er mwyn darparu  ar gyfer 900 o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 oed gyda 30 lle mewn Canolfan Adnoddau Arbennig ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth.  

Bydd yr ysgol newydd yn darparu amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu gyda chyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau glaswellt a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.    Bydd y cynllun yn darparu cyfleusterau gwell i gerddwyr i wella trefniadau teithio llesol ar safle'r ysgol newydd.

Cafodd y tir ei dorri ar y safle gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry, a Phennaeth Ysgol Uwchradd Willows, Chris Norman.

Ymunodd y ddau â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, llywodraethwyr ysgolion, cynghorwyr lleol a disgyblion Blwyddyn 7 o'r ysgol.

Darllenwch fwy yma

 

Coed afalau 'Gabalva' prin a fu'n tyfu ar Ystâd Bute ar un adeg i gael eu hailgyflwyno i Gaerdydd

Mae rhywogaeth brin o afal a dyfai ar dir ystâd deuluol Bute yng Nghaerdydd ar un adeg i gael ei hailgyflwyno i'r ddinas am yr hyn y credir yw'r tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.

Bydd 50 o goed afalau Gabalfa, a gofnodir yn hanesyddol fel afalau 'Gabalva', yn cael eu plannu ym Mharc Gabalfa, Parc Maitland, fel rhan o Berllan Gymunedol Parc Bute, ac ar dir ysgolion, fel rhan o Brosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd' Cyngor Caerdydd. Gyda chymorth gwirfoddolwyr cymunedol, nod y prosiect yw plannu o leiaf 30,000 o goed newydd ar draws 185 o safleoedd gwahanol yng Nghaerdydd yn ystod tymor plannu coed 2024/25.

Mae'r cofnod olaf o afalau Gabalva ym mannau gwyrdd Caerdydd yn dyddio'n ôl i gyfnod y garddwr enwog Andrew Pettigrew, a oedd yn Brif Arddwr i'r 3ydd Ardalydd Bute o 1873 i 1901, a ddisgrifiodd dair coeden o'r amrywiaeth hon yn tyfu ar y tiroedd "yma yn Gabalva" fel rhai "tua 35 troedfedd o daldra, gyda boncyffion mwy trwchus na chorff dyn."

Ailddarganfuwyd yr amrywiaeth goll o afal yn Sir Gaerfyrddin yn 2004 ac ers hynny mae wedi'i gynnwys yn y Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol, sy'n rhan o raglen ryngwladol i ddiogelu adnoddau genetig planhigion ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl rhifyn o'r Gardener's Chronicle a gyhoeddwyd yn oes Pettigrew, roedd yr amrywiaeth hwn o afal yn "ddigon da i fod yn afal pwdin hwyr" ac yn "un gwerthfawr iawn at ddibenion coginio ym misoedd cynnar y flwyddyn" ond hyd yn oed yn oes Fictoria, ymddengys eu bod yn brin, gyda Pettigrew yn sôn am sut yr oedd wedi "dangos sbesimenau o'r ffrwyth i feirniaid da ar wahanol adegau, ond doedd neb yn gwybod hynny."

Darllenwch fwy yma

 

Buddugoliaeth 'Mynwent y Flwyddyn' sy'n torri record i Fynwent Draenen Pen-y-graig

Mae Mynwent Draenen Pen-y-graig wedi cael ei henwi'n 'Fynwent y Flwyddyn' am y pedwerydd tro sy'n torri'r record.

Yn flaenorol, enillodd y fynwent y 'Wobr Aur' yng nghategori mynwent fawr y gystadleuaeth genedlaethol fawreddog hon, a gynhaliwyd gan y Bwrdd Ymwybyddiaeth Goffa, yn 2016, 2020 a 2021.

Mae'r gwobrau, a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn yng ‘Nghonfensiwn ac Arddangosfa Dysgu y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd', yn adlewyrchu'r safonau cynnal a chadw uchel ar y safle ac ansawdd a dewis y gwasanaethau a gynigir i'r rhai sydd mewn profedigaeth.

Cefnogir a chymeradwyir Gwobr Mynwent y Flwyddyn gan Gymdeithasau blaenllaw y diwydiant, gan gynnwys Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM), y Ffederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA), Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC), a Chofrestr Prydain o Seiri Coffa Achrededig (BRAMM).

Darllenwch fwy yma

 

Camlas Gyflenwi'r Dociau a Chynllun Dwyrain Canol y Ddinas yn ennill gwobr fawreddog

Mae Cynllun Camlas Dwyrain Canol y Ddinas a Ffordd Churchill wedi derbyn gwobr peirianneg sifil o bwys.

Yn gynharach y mis hwn, dyfarnwyd Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward i'r Cyngor, Atkins Realis a Knights Brown yng Ngwobrau Peirianneg Sifil Ice Cymru 2024.

Mae'r Gwobrau Peirianneg Sifil yn cydnabod unigolion a sefydliadau am arloesi, peirianneg glyfar, a chynaliadwyedd yn y diwydiant yng Nghymru.

Mae dadorchuddio Camlas Gyflenwi'r Dociau sydd dan Ffordd Churchill dros y 70 mlynedd diwethaf yn gam cyntaf mewn prosiect adfywio ehangach, gyda chynlluniau i ymestyn y gamlas ar hyd Ffordd Churchill i gysylltu â'r gamlas i'r de o Stryd Tyndall.

Gallai'r datblygiad newydd hwn agor y potensial i ddarparu ardal drefol newydd gan gynnwys adfywio Stryd y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford, a Lôn y Barics.

Prif bwrpas Camlas Gyflenwi'r Dociau yw rheoli dŵr wyneb, gan ganiatáu i ddŵr glaw basio drwy erddi glaw pwrpasol, fel y gellir glanhau'r dŵr cyn mynd i mewn i'r gamlas yn y pen draw.

Mae'r dyluniad yn sicrhau bod modd dargyfeirio'r 3,500m2 o ddŵr o'r garthffos gan leihau'r gost a'r ynni o drin y dŵr hwn drwy'r orsaf pwmpio carthion ym Mae Caerdydd

Mae ailymddangosiad Camlas Gyflenwi'r Dociau hefyd yn darparu cynefin dŵr newydd yng nghanol y ddinas, gan greu man cyhoeddus newydd, seddi awyr agored, ardal berfformio ar ffurf amffitheatr a dwy bont droed i groesi'r dŵr. Mae cynefinoedd dŵr arnofiol hefyd wedi'u gosod, gyda dyfrgwn wedi'u gweld yn ddiweddar yn gorffwys ar y platfform cyn parhau â'u diwrnod.

Darllenwch fwy yma