Back
Y newyddion gennym ni - 21/10/24

Image

17/10/24 - Cyngor Caerdydd yn bwriadu gweithredu'n gyflym i gadw prosiect Campws y Tyllgoed ar y trywydd iawn

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu cynlluniau i ddiogelu prosiect Campws y Tyllgoed, gwerth £108 miliwn, yn sgil ISG Construction Ltd yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/10/24 - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yng nghanol heriau parhaus

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yng nghanol heriau parhaus

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/10/24 - Landlord Caerdydd yn Colli Apêl Ar Ôl Cael Dirwy o £37,000

Mae landlord o Gaerdydd a gafodd ddirwy o £37,000 am droseddau diogelwch difrifol yn ei eiddo rhent yn Broadway, Adamsdown, wedi cael apêl yn erbyn y ddirwy ei wrthod, ac mae bellach yn wynebu bil o ychydig dros £42,521, i'w dalu o fewn chwe mis.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Caerdydd Yn Ennill Gwobr O Fri - 'gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy'

Mae dinas Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan gydnabod llwyddiant ei dull cydgysylltiedig o ddatblygu system fwyd gynaliadwy ac iach.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Hybiau a Llyfrgelloedd yn cefnogi gwasanaeth profi STI cymunedol

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn cefnogi'r gwaith o gynnal gwasanaeth Profi a Phostio GIG Cymru, gan roi mynediad cyflym a hawdd i becynnau hunansamplu ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Cyngor Caerdydd yn datgelu'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer darparu swyddfeydd craidd mwy cost-effeithiol

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i newid yr hen Neuadd y Sir am adeilad swyddfeydd modern llai o faint.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Swyddfeydd Craidd - Holi ac Ateb

Pam mae adeilad Neuadd y Sir newydd yn cael ei ystyried? Beth am adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir yn hytrach nag adeiladu adeilad newydd? Os yw'r adeilad presennol yn fwy na'r angen, beth am ddefnyddio rhan o Neuadd y Sir bresennol a rhentu'r gweddill? Ac fwy

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Cymorth i drigolion hŷn hawlio Credyd Pensiwn

Mae tîm Cyngor ar Arian Cyngor Caerdydd yn annog pobl hŷn yn y ddinas, i wirio a ydyn nhw'n gymwys i hawlio Credyd Pensiwn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Ymgynghoriad yn dechrau ar gynllun parcio preswyl newydd ar gyfer Caerdydd

Mae ymgynghoriad chwe wythnos ar gynllun parcio newydd ar gyfer y ddinas yn dechrau heddiw ac mae preswylwyr, busnesau a'r rhai sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i roi eu barn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/10/24 - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yng nghanol heriau parhaus

Mae Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd ar gyfer 2023/24 wedi amlinellu cynnydd sylweddol ar draws meysydd allweddol er gwaethaf y galw mawr am wasanaethau a heriau cymhleth drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/10/24 - Hybiau a llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes unwaith eto

Mae mannau Croeso Cynnes ar y ffordd yn ôl yn hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd eto eleni i helpu cwsmeriaid sy'n poeni am gostau gwresogi eu cartrefi eu hunain.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/10/24 - Saith deg o gyfeirbyst newydd i gael eu gosod ar draws y ddinas a Bae Caerdydd

Bydd dau fath newydd o gyfeirbost dwyieithog i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'w ffordd o amgylch y ddinas yn cael eu gosod ym Mae Caerdydd ar 16 a 17 Hydref i brofi eu gwydnwch a'u dyluniad

Darllenwch fwy yma