Back
Digwyddiadau Nadolig Cymunedol a noddir gan Urban Centric
 21/10/24

 Bydd y digwyddiadau cymunedol i droi goleuadau Nadolig ymlaen yn Rhiwbeina, Y Tyllgoed, Llandaf a Radur a Llanisien yn digwydd eleni - gyda diolch i nawdd Urban Centric, cwmni sy'n arbenigo mewn prosiectau adeiladu preswyl mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas.

 

Ers blynyddoedd lawer, mae'r cyngor wedi bod mewn sefyllfa i dalu am gau'r ffyrdd a staff i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiadau hyn yn ddiogel, ond yn anffodus oherwydd toriadau i gyllidebau'r cyngor, nid ydym bellach yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn am ddim.

 

Esboniwyd y sefyllfa ariannol i drefnwyr digwyddiadau y llynedd, er mwyn rhoi amser iddynt edrych ar drefniadau ariannu amgen.

 

Oherwydd yr argyfwng costau byw, nid yw hon wedi bod yn dasg hawdd, felly mae'r cyngor wedi camu i mewn a dod o hyd i noddwr, sydd wedi cytuno i dalu tâl y cyngor i sicrhau y gall y digwyddiadau hyn fynd yn eu blaen.

Mae Urban Centric, noddwr y digwyddiadau hyn yn gwmni datblygu sy'n arbenigo mewn prosiectau adfywio preswyl mewn lleoliadau yng nghanol dinasoedd, gan gynnwys Caerdydd, Birmingham a Chaerwysg.

 

Dywedodd Andrew Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr Urban Centric: "Pan gysylltodd y cyngor am noddwr, roeddem yn hapus i helpu, gan fod y Nadolig yn amser o ewyllys da a llawenydd. Rydym yn gobeithio y bydd pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn mwynhau'r digwyddiadau, ac mae'n ffordd i ni ddweud Nadolig Llawen wrth Gaerdydd."

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r cyngor yn hapus i gynorthwyo grwpiau cymunedol ac elusennau gyda'u digwyddiadau cymunedol, ond os yw'r digwyddiad yn gofyn am gau'r briffordd, lle ar y briffordd neu staff i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel, yna mae'n rhaid i drefnydd y digwyddiad dalu'r costau hyn.

 

"Mewn byd perffaith, hoffem ddarparu'r cymorth a'r staff am ddim, ond nid yw hyn yn bosibl oherwydd y costau cynyddol ar y cyngor, yn enwedig ym maes addysg a gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i Urban Centric am eu haelioni, gwn y bydd yn cael ei werthfawrogi gan breswylwyr ym mhob un o'r cymunedau hyn."