17/10/24
Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu cynlluniau i ddiogelu prosiect Campws y Tyllgoed, gwerth £108 miliwn, yn sgil ISG Construction Ltd yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd ei gynigion brys yn arbed cannoedd o swyddi, yn lleihau oedi a chostau, ac yn sicrhau bod y prosiect yn parhau i fod ar y trywydd iawn gan darfu cyn lleied â phosib.
Ar ôl i ISG Construction Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar 19 Medi 2024, cymerodd y cyngor gamau ar unwaith i sicrhau'r safle wrth ddatblygu cynlluniau i gael y prosiect ar waith cyn gynted â phosib. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gweinyddwr a'r ymgynghorwyr allanol i gyflawni cynllun brys sy'n sicrhau parhad. Prif nodau'r cyngor yw cael gweithwyr yn ôl ar y safle cyn gynted â phosib, sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu am waith a wneir, lleihau oedi, cadw costau i lawr, diogelu swyddi, a diogelu'r gadwyn gyflenwi wrth warchod y buddsoddiad cyhoeddus sydd eisoes wedi ei wneud yn un o brosiectau addysg mwyaf y DU.
Mae'r cyngor bellach yn gweithio ar frys i roi contractau ar waith, yn lle'r rhai presennol, gydag is-gontractwr a oedd wedi bod yn gweithio ar y prosiect. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu trosglwyddo contractau'r is-gontractwr o ISG Construction Ltd i bartner newydd. Bydd y cwmni adeiladu hwn ar waith dros dro hyd nes y gellir cynnal proses dendro lawn i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â'r safle cyfan a chwblhau'r prosiect. Bydd y broses ail-dendro yn dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd.
Bydd gwneud hyn yn galluogi'r cyngor i gynnal cynnydd ar y prosiect heb gyfnod aros estynedig. Byddai peidio â gwneud hyn yn arwain at waith yn dod i ben ar y safle am gyfnod estynedig wrth i broses gaffael lawn gael ei chynnal. Byddai hefyd yn arwain at ddiddymu'r gadwyn gyflenwi, colli swyddi, oedi hwy, a chynnydd sylweddol tebygol yn y gost.
Er gwaethaf yr heriau, mae'r cyngor yn canolbwyntio ar orffen y prosiect pwysig hwn. Bydd Campws y Tyllgoed newydd yn cynnig cyfleusterau addysgol o ansawdd uchel, a fydd o fudd i'n cymuned. Bydd y campws yn cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank, ac Ysgol Uwchradd Woodlands, gan ddarparu amgylcheddau addysgol modern i fyfyrwyr.
Yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Hydref, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar y camau gweithredu brys i roi contractau ar waith, yn lle'r rhai ISG presennol, ac i ddechrau ymarfer tendro ar gyfer y gwaith sy'n weddill i gwblhau Campws y Tyllgoed gan darfu cyn lleiaf â phosib.
Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein trigolion a'n rhanddeiliaid wrth i ni weithio tuag at ddyfodol gwell i system addysg Caerdydd.
Llinell amser ar gyfer Prosiect Campws y Tyllgoed:
Nod y llinell amser hon yw sicrhau bod y prosiect yn datblygu'n esmwyth ac yn cael ei gwblhau gyda chyn lleied o darfu â phosib, yn diogelu swyddi, ac yn cynnal ansawdd y cyfleusterau addysgol.