Roedd Mr Nazir Ahmed, 67, o Heol Albany, Caerdydd, yn
Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (11 Hydref). Wedi'i gynrychioli gan
ei ferch, gofynnodd am ohirio casglu tystiolaeth gan Heddlu De Cymru i gefnogi
ei honiad nad oedd yn gallu gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol oherwydd
ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig a sgwatwyr yn yr adeilad.
Fodd bynnag, canfu'r llys nad oedd yr esgus
hwn yn ddigonol a gwrthododd ohirio'r achos.
Daeth y materion i'r amlwg ym mis Ebrill
2023 pan gysylltodd Heddlu De Cymru â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oherwydd
pryderon am yr eiddo. Yn fuan wedyn, fe wnaeth swyddogion y cyngor a'r
gwasanaeth tân archwilio'r eiddo a chanfod rhestr hir o amodau annerbyniol ar
gyfer eiddo rhent.
Roedd yr eiddo Fictoraidd deulawr ar
Broadway wedi ei rannu'n bedwar fflat heb ganiatâd cynllunio nac unrhyw drafod
gydag adran rheoli adeiladu'r cyngor, na chwmni rheoli adeiladau preifat.
Roedd y canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
Cyflwynwyd Gorchmynion Gwahardd Brys mewn cysylltiad â'r
pedwar fflat a'r ardaloedd cyffredin, sy'n golygu na allai'r tenantiaid fyw yno
mwyach ac y bu’n rhaid symud allan. Cafodd Mr Ahmed restr o atgyweiriadau i
sicrhau bod modd byw yn yr eiddo.
Cafodd Mr Ahmed ei erlyn am naw trosedd o dan reoliadau
yn ymwneud â thai amlfeddiannaeth.
Daethpwyd â'r achos i'r llys ar 29 Chwefror
2024. Cafodd Mr Ahmed orchymyn i dalu £37,000 o ddirwyon, a £2,00 o Dâl
Dioddefwyr, a chostau cyfreithiol o £461.84.
Nawr bod yr apêl gyfreithiol wedi methu,
rhaid i Mr Ahmed dalu £42,521.84, cynnydd o £3,060 i dalu costau cyfreithiol
ychwanegol y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr
Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: “Mae tai rhent
preifat yng Nghaerdydd yn chwarae rhan amhrisiadwy fel rhan o stoc dai'r
ddinas, ac rydym yn gweithio'n agos gyda landlordiaid da i ddarparu'r llety
gorau posibl i'w tenantiaid. Yn anffodus, mae rhai landlordiaid yn dewis torri
corneli a rhoi eu tenantiaid mewn perygl, ac yn anffodus, mae'r achos hwn yn
dangos hynny. Roedd y ddirwy fawr a osodwyd ar y landlord am reswm; doedd yr
eiddo ddim yn ddiogel i fyw ynddo.”