Byddai'r cynnig - i symud tuag at ddull newydd yn
seiliedig ar ardal o reoli parcio ar draws y ddinas - yn rhoi cyfle gwell i
breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos yn agos at eu cartref -
tra'n lleihau'r cyfleoedd i barcio ar gyfer cymudwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros
Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r cynllun parcio
newydd ar gyfer Caerdydd yn bwriadu rhoi mynediad gwell i breswylwyr, deiliaid
bathodynnau glas, clybiau beiciau a cheir a busnesau lleol i barcio trwyddedau
ar y stryd.
"Mae'r arolwg ar-lein wedi'i rannu'n bum adran sy'n
cwmpasu'r pum maes arfaethedig, gan roi cyfle i'r cyhoedd ateb cwestiynau
penodol i'r ardal y maent yn byw neu'n gweithio ynddi, neu os yw'n well
ganddynt, gallant ateb yr holiadur cyfan.
"Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 1 Rhagfyr 2024
felly rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr arolwg, fel y
gallwn ddeall blaenoriaethau pobl a chyflawni cynllun sy'n addas ar gyfer ein
prifddinas.
I roi eich barn, ewch i www.caerdydd.gov.uk/ymgynghoriadparcio a llenwi'r arolwg."
O dan y cynllun newydd bydd pob lle parcio ar y stryd
sydd o fewn ffiniau yr ardaloedd i'r de o'r A48, i'r gorllewin o Afon Rhymni,
i'r gogledd o Fae Caerdydd ac i'r dwyrain o Afon Elái a’r wardiau allanol yn
cael eu rhannu'n bedair ardal rheoli parcio penodol gyda chyfyngiadau gwahanol
ar waith ar gyfer pob un.
Y rhain yw Ardaloedd Rheoli Parcio Canol y Ddinas,
Mewnol, Bae Caerdydd ac Allanol. Bydd pob ardal yn cynnwys nifer o barthau
parcio.
Byddai'r cynigion yn dod â Chaerdydd yn unol â'r rhan
fwyaf o ddinasoedd mawr y DU, ac yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad bydd
yn cymryd sawl blwyddyn i'w gweithredu, gan y bydd angen Gorchmynion Rheoli
Traffig ar wahân ar gyfer pob parth parcio.
Mae'r Ardaloedd Rheoli Parcio newydd arfaethedig fel a
ganlyn:
Ardal Rheoli Parcio Canol y Ddinas, fydd yn cynnwys Canol y Ddinas gan gynnwys canol
Caerdydd a'r Ganolfan Ddinesig. Bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael
eu reoli 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn ac ni
chaniateir unrhyw aros o gwbl. Dim ond yn ystod oriau penodol y caniateir
llwytho er mwyn sicrhau y gall busnesau ailstocio. Ni all unrhyw un wneud cais am drwydded yn yr
Ardal Rheoli Parcio hon. Nid effeithir ar safleoedd tacsis, mannau llwytho na
mannau parcio i bobl anabl.
Mae’r Ardal Rheoli Parcio
Fewnol yn cynnwys
rhannau o Adamsdown, Butetown, Cathays,
Grangetown a Phlasnewydd sydd wrth ymyl Canol y Ddinas. Bydd pob lle parcio ar
y stryd yn cael ei reoli rhwng 8am a 10pm a dim ond trwyddedau preswylwyr,
ymwelwyr, cymunedol a gofalwyr y gellir gwneud cais amdanynt. Y tu allan i
safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael
eu rheoli drwy gyfyngiadau a thalu ac arddangos rhwng 8am a 10pm.
Mae Ardal Rheoli Parcio Bae
Caerdydd yn cynnwys
Butetown i gyd i'r de o Sgwâr Callaghan. Bydd pob lle parcio ar y stryd yn
Ardal Rheoli Parcio Bae Caerdydd yn cael ei reoli rhwng 8am ac 8pm a dim ond
trwyddedau preswylwyr, ymwelwyr, cymunedol a gofalwyr y gellir gwneud cais
amdanynt. Heblaw am safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio
ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau talu a thalu ac arddangos rhwng
8am ac 8pm.
Mae’r Ardal Rheoli Parcio
Allanol yn cynnwys
Treganna, Gabalfa, Pen-y-lan a Sblot, a'r rhannau o Adamsdown, Cathays,
Grangetown a Phlasnewydd nad ydynt wrth ymyl canol y ddinas. Bydd yr holl
barcio ar y stryd yn cael ei reoli rhwng 8am a 6pm a dim ond trwyddedau
preswylwyr, ymwelwyr, busnes, gofalwyr ac ysgolion y gellir gwneud cais
amdanynt. Heblaw am safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio
ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau a thalu ac arddangos rhwng 8am a
6pm.
Aeth y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros
Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth ymlaen: "Mae parcio ar
draws y ddinas wedi dod yn broblem gynyddol i lawer o breswylwyr sy'n ei chael
hi'n anoddach ac anoddach parcio y tu allan neu'n agos i’w cartrefi eu hunain
oherwydd niferoedd cynyddol y traffig cymudo.
"Mae'r gallu i gymudwyr ddod i barcio yn y ddinas am
ddim yn arwain at lygredd aer a thagfeydd, gyda’n preswylwyr ni yn dioddef.
"Rydym bob amser wedi bod yn glir, er mwyn glanhau
aer y ddinas a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni leihau ein dibyniaeth
ar y car preifat ac annog pobl i ystyried trafnidiaeth gyhoeddus.
"Credwn y bydd newid y ffordd rydym yn galluogi pobl
i barcio ar draws y ddinas, gan wneud y system yn haws ei deall fel bod gyrwyr
yn gwybod ble y gallant barcio neu beidio, yn helpu i leddfu'r problemau hyn a
bydd yn annog mwy o bobl i ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n well
i'r amgylchedd.
"Wrth i ni barhau i wella llwybrau beicio a
cherdded, mae'r gystadleuaeth am le ar rwydwaith ffyrdd Caerdydd wedi cynyddu a
chan ei bod yn amhosib creu mwy o lefydd parcio ar y stryd oherwydd cyfyngiadau
ffisegol, mae angen gwneud newidiadau. Felly, yr hyn rydym yn ei gynnig yma yw
ailwampio'r polisi parcio ar y stryd yn gyfan gwbl trwy greu 'dull parthau' o
fewn Ardaloedd Rheoli Parcio fel y gallwn reoli a gorfodi'r mannau parcio sydd
ar gael yn well fel na chaiff y system ei chamddefnyddio.”
Er
nad yw meddu ar unrhyw drwydded parcio yn gwarantu lle parcio, mae cynigion yn
cael eu cyflwyno i ddiwygio telerau ac amodau'r trwyddedau i ryddhau mwy o le,
er enghraifft trwy godi mwy ar SUVs i annog pobl i berchen ar geir llai a gosod
cyfyngiadau newydd ar drwyddedau ar gyfer eiddo i fyfyrwyr yn unig, ac i
sicrhau na ellir camddefnyddio’r system.
Mae'r cynllun parthau parcio newydd yn cynnig newid y
telerau ac amodau a’r mathau o drwyddedau parcio sydd ar gael ar hyn o bryd.
Fel rhan o'r gwaith gweithredu, bydd y cyngor yn egluro'n
glir sut y gall pobl wneud cais am y trwyddedau newydd fel bod cyfnod pontio
di-dor rhwng yr hen system a'r un newydd. Bydd y trwyddedau canlynol yn cael eu
cyflwyno bryd hynny.
Ni fyddai preswylwyr sy'n byw mewn ardal barcio bresennol
yn gymwys i gael trwydded parcio i breswylwyr pe bai eu heiddo naill ai wedi ei
adeiladu, neu ei addasu, ar ôl 1 Medi 2011.
Ni fyddai preswylwyr sy'n byw mewn ardal barcio newydd
(arfaethedig) yn gymwys i gael trwydded parcio i breswylwyr pe bai eu heiddo
naill ai wedi ei adeiladu, neu ei addasu, ar ôl 1 Medi 2024.
Y trwyddedau fyddai ar gael o dan y cynllun newydd yw:
Trwydded breswyl: Byddai'n rhaid i bob preswylydd sydd â thrwydded ar hyn
o bryd ailymgeisio am drwydded newydd ar gyfer parthau sy'n benodol i'r
heol/ardal lle maen nhw’n byw. Bydd hyn yn rhoi cyfle gwell i breswylwyr barcio
ar eu stryd, neu ar heol arall sy'n rhan o'u hardal preswylwyr. Bydd yn rhaid i
bawb sydd am barcio beic modur ar y stryd hefyd wneud cais am drwydded o dan y
system newydd.
Trwydded ymwelwyr: O ran parcio i ymwelwyr, bydd hawl gan bob cartref wneud
cais am 240 yn unig o ddiwrnodau parcio i ymwelwyr bob blwyddyn. Trwy roi'r
cyfyngiad hwn ar waith, mae'r system yn llai agored i gael ei chamddefnyddio,
gan sicrhau bod y broses o ddyrannu parcio i ymwelwyr yn cael ei rannu rhwng
cartrefi mewn ardal breswyl benodol.
Trwydded gymunedol: Gellir gwneud cais am drwyddedau parcio ar y stryd
cymunedol gan rai addoldai neu grwpiau mynediad i bobl anabl sydd wedi'u
heithrio dan ddeddfwriaeth benodol.
Trwydded fusnes: Dim ond busnesau sydd ag eiddo yn yr Ardal Rheoli Parcio
Allanol all wneud cais am drwydded parcio ar y stryd, a fydd ond yn caniatáu i
berchennog busnes barcio cerbydau sydd eu hangen ar gyfer rhedeg y busnes o
ddydd i ddydd. Felly, nid yw’r drwydded
hon ar gyfer cymudwyr na staff.
Trwydded gofalwr: Mae dau fath o drwydded gofalwr yn cael eu cynnig ar
gyfer parcio ar y stryd, un ar gyfer iechyd proffesiynol ac un ar gyfer gofal
personol i'r rhai sy'n gymwys.
Trwydded ysgol: Gall ysgolion presennol sydd yn yr Ardal Rheoli Parcio
Allanol wneud cais am drwydded ar y stryd i barcio cerbyd sydd ei angen ar
gyfer rhedeg yr ysgol. Unwaith eto, nid yw’r drwydded hon ar gyfer cymudwyr na
staff.