Back
Saith deg o gyfeirbyst newydd i gael eu gosod ar draws y ddinas a Bae Caerdydd
 15/10/24

 Bydd dau fath newydd o gyfeirbost dwyieithog i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch y ddinas yn cael eu gosod ym Mae Caerdydd ar 16 a 17 Hydref i brofi eu gwydnwch a'u dyluniad, cyn cael eu cyflwyno ar draws canol y ddinas a Bae Caerdydd ym mis Ionawr 2025.

 

Bydd y totemau newydd, sy'n dod mewn dau faint, a mynegbyst newydd, yn disodli arwyddion twristiaeth presennol, a osodwyd mor bell yn ôl â'r 1980au. Bydd cant a saith o hen arwyddion yn cael eu gwaredu, a bydd 70 o arwyddion newydd yn cael eu gosod gan ddangos mapiau a gwybodaeth gyfoes.

 

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn £380,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn cynnwys cael gwared ar yr hen arwyddion yn ogystal â dylunio, cynhyrchu a gosod cyfeirbyst newydd.

 

Bydd y ddau brototeip newydd, totem a mynegbost, yn cael eu gosod y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ac Adeilad y Pierhead i brofi'r dyluniadau cyn i'r arwyddion newydd gael eu cynhyrchu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Trafnidiaeth a Chynllunio Cynaliadwy: "Mae Caerdydd wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r holl gyfeirbyst presennol yng nghanol y ddinas wedi dyddio, gyda dyluniadau gwahanol. Maen nhw'n barod am newid ac mae sicrhau bod arian ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU yn ein galluogi i wneud y gwelliant hwn".

 

"Rydym eisiau sicrhau y gall ymwelwyr sy'n dod i Gaerdydd ddod o hyd i’r ffordd o amgylch canol y ddinas a Bae Caerdydd yn hawdd. Mae'r arwyddion newydd yn cynnwys eiconau o atyniadau ymwelwyr Caerdydd i'w gwneud mor syml â phosib ac yn cynnwys Cod QR, fel bod pobl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ar eu ffôn clyfar."