Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Gwaith gweddnewid parc yng Nglan-yr-afon wedi'i gwblhau
Mae gweddnewidiad un o barciau'r ddinas gyda nodweddion newydd ac amgylchedd mwy dymunol wedi'i gwblhau.
Dechreuodd y gwaith gwella yng Ngerddi Clare yng Nglan-yr-afon yn ystod yr haf ac yn dilyn cyflwyno gardd gymunedol newydd, ardal ymarfer corff, a gofod cymdeithasol, ynghyd â phlannu planhigion dolydd a nifer o welliannau eraill, ail-agorwyd y parc heddiw (4 Hydref) i'r gymuned leol ei fwynhau unwaith eto.
Mae'r gwaith wedi'i wneud yn rhan o raglen Adnewyddu Cymdogaethau'r Cyngor sy'n cyflwyno projectau adfywio ledled y ddinas.
Mae'r rhaglen yn cyflawni prosiectau adfywio ar raddfa fach gafodd eu hawgrymu gan aelodau lleol. Mae prosiectau wedi'u cynllunio a'u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i'r afael ag angen neu broblem a nodwyd.
Ariannwyd cynllun Gerddi Clare gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Ymunodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke, ag aelodau ward lleol yn y gerddi heddiw i weld y gwelliannau, sy'n cynnwys:
Bwriad y gwelliannau yw ategu'r ardal chwarae a'r cyfleusterau chwaraeon yng Ngerddi Despenser gerllaw.
Lovell a Chyngor Caerdydd yn dathlu Gosod y Garreg Gopa i'r bloc o fflatiau cyntaf mewn cynllun byw yn y gymuned yn Llaneirwg
Mae datblygwr partneriaethau blaenllaw Lovell a Chyngor Caerdydd wedi cynnal seremoni gosod y garreg gopa i ddathlu'r to sy'n cael ei osod ar y bloc o fflatiau cyntaf ym Mhrosiect Byw yn y Gymuned Llaneirwg, a fydd yn darparu llety byw annibynnol o ansawdd uchel i bobl hŷn.
Wedi'i leoli ar Heol Crucywel, ar safle'r hen Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, bydd y datblygiad £17.2m yn darparu cyfanswm o 60 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol, a fydd yn cael eu hadeiladu i safonau cynaliadwyedd uchel, wedi'u pweru gan system wresogi gymunedol ac yn elwa ar baneli solar.
Bydd y safle hefyd yn gartref i ystod eang o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys ystafelloedd gweithgareddau, lolfeydd i breswylwyr, ystafell iechyd, gerddi wedi'u tirlunio, mannau gwefru sgwteri trydan a mannau storio beiciau. Bydd y cynllun yn rhan o Ganolfan Ardal Llaneirwg ac o fewn pellter cerdded i gyfleusterau siopa lleol a Hyb Llaneirwg.
Mae ‘gosod y garreg gopa' yn garreg filltir adeiladu sy'n cael ei dathlu yn y diwydiant pan fydd pwynt uchaf adeilad yn cael ei osod. Mae'r bloc o fflatiau cyntaf bellach wedi cyrraedd y cam hwn, ac mae gwaith ar y gweill ar y blociau sy'n weddill.
Mae'r gwaith adeiladu ar y prosiect cyfan, sy'n cael ei adeiladu gan Lovell fel cynllun dylunio ac adeiladu, i'w gwblhau yn haf 2025. Dros gyfnod y prosiect, bydd 884 o wythnosau prentisiaeth yn cael eu darparu, a bydd Lovell yn rhoi tua £350,000 o werth cymdeithasol i gymuned Llaneirwg.
Ysgol Gynradd Moorland yn nodi agoriad swyddogol datblygiad ysgol newydd
Mae Ysgol Gynradd Moorland yn Sblot wedi dathlu agoriad swyddogol ei datblygiad ysgol newydd gwerth £7 miliwn.
Mae digwyddiad arbennig wedi'i gynnal i agor Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd 20 lle yr ysgol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth a disodli'r Uned Blynyddoedd Cynnar a oedd wir angen ei huwchraddio.
Mae darpariaeth Dechrau'n Deg newydd, Twinkle Star, wedi'i sefydlu, gan gynyddu nifer y lleoedd o 36 i 48 y sesiwn, gan alluogi mwy o deuluoedd lleol i elwa o'r ddarpariaeth. Mae'r ehangu hwn hefyd yn agor y potensial ar gyfer lleoedd gofal i blant 3 a 4 oed yn y dyfodol agos. Mae'r newid wedi hwyluso trosglwyddo plant o safle Dechrau'n Deg presennol Ysgol Uwchradd Willows, y bwriedir iddo gael ei adleoli a'i ailadeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis erbyn 2026.
Mynychwyd y digwyddiad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, Trechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Ash Lister.
Ymunodd y Pennaeth Emma Laing, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr o Knox a Wells, y contractwr a ddewiswyd i wneud y gwaith.
Rhoddodd y plant ysgol berfformiadau drymio a chanu Affricanaidd a mwynhaodd y gwesteion daith o amgylch y cyfleusterau newydd.
Bydd y cyfleuster campws cymunedol newydd yn cynnig gwasanaethau addysgol a chymorth i deuluoedd, gan fod o fudd i deuluoedd cyn genedigaeth, hyd at blant oed cynradd. Yn ogystal, mae'r cynllun yn cynnwys Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd newydd, mannau awyr agored gwell, nodweddion draenio cynaliadwy, ac ystafell gymunedol newydd ar gyfer rhianta a gweithgareddau cymunedol. Mae hen dŷ'r gofalwr wedi cael ei ddymchwel, ac mae Clwb Bocsio Amatur Antur Splott wedi cael ei adleoli i Barc Ocean.
Cyngor Caerdydd i gefnogi gosod hyd at 100 o wefrwyr cerbydau trydan newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf
Gallai hyd at 100 o fannau gwefru cerbydau trydan newydd gael eu gosod gyda chymorth Cyngor Caerdydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae'r cynlluniau yn rhan o ‘Fap Ffyrdd Seilwaith Cerbydau Trydan' newydd ei gyhoeddi i gynorthwyo'r broses o drosglwyddo i gerbydau trydan, sydd hefyd yn nodi cynllun yr awdurdod lleol i ganolbwyntio'n gyntaf ar gefnogi mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn ardaloedd sydd â lefelau isel o leoedd parcio oddi ar y stryd gan gynnwys y Mynydd Bychan, Gabalfa, Cathays, y Rhath, Penylan, Adamsdown, Glan-yr-afon, Treganna, Grangetown a Butetown.
Mae'r map yn rhan o ymateb Un Blaned Caerdydd y Cyngor i newid hinsawdd, sydd â'r nod o leihau'r 1.6 miliwn tunnell o allyriadau carbon sy'n cael eu creu yn y ddinas bob blwyddyn, y mae 41% ohonynt yn dod o drafnidiaeth ar hyn o bryd.
Gwefrwyr safonol (7kW) a rhai gwefrwyr cyflym (hyd at 50kW) fydd y gwefrwyr newydd gan mwyaf. Byddant yn cael eu darparu, eu gweithredu a'u cynnal heb unrhyw gost net i'r Cyngor, mewn partneriaeth â'r sector preifat drwy broses dendro gystadleuol. Y bwriad yw gosod y rhain 'ar strydoedd' neu mewn meysydd parcio lleol.
Ar y cyd â gwaith y Cyngor, disgwylir y bydd nifer y safleoedd cyhoeddus masnachol yn parhau i dyfu'n sylweddol ar draws y ddinas, gan arwain at oddeutu 600-700 o fannau gwefru yn 2025/2026 - i fyny o'r ffigur presennol o tua 200 o fannau gwefru cerbydau trydan hygyrch i'r cyhoedd heddiw.