Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 04 Hydref 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Ysgol Gynradd Kitchener yn cael ei chanmol gan arolygwyr ysgolion
  • Datgelu gwelliannau i ardal chwarae Parc Maitland
  • Gweithiwr sector cyhoeddus Caerdydd yn gwario dim ar betrol ac yn cael ei dalu gan ei gwmni ynni

 

Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Kitchener gan Estyn am ethos cynhwysol a chymuned dysgu gref

Mae Ysgol Gynradd Kitchener yng Nglan Yr Afon wedi cael ei chanmol gan Estyn am ei hamgylchedd cynhwysol a chroesawgar, sy'n meithrin diwylliant o barch, cyfrifoldeb ac empathi ymhlith ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.

Yn ystod ymweliad gan yr arolygiad gan yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, canmolodd yr adroddiad ethos cynhwysol yr ysgol, gan nodi bod disgyblion, staff a rhieni yn rhannu perthnasoedd cryf, cadarnhaol wedi'u hadeiladu ar gyd-ymddiriedaeth. Mae'r amgylchedd cefnogol hwn yn galluogi disgyblion i deimlo'n ddiogel ac yn meithrin eu cymhelliant i ddysgu.

Nododd arolygwyr fod yr ysgol yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o brofiadau dysgu ysgogol sy'n ennyn diddordeb ac yn cymell disgyblion ac sydd wedi bod yn effeithiol wrth gefnogi disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn dangos hunanddibyniaeth a dyfalbarhad cryf.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i ddathlu amrywiaeth ac ehangu dealltwriaeth disgyblion o ddigwyddiadau byd-eang. Anogir disgyblion i ystyried materion cymhleth yn feddylgar ac i ddeall sut y gallant gyfrannu at newid cadarnhaol. Mae hyn wedi bod yn rhan allweddol o'u datblygiad fel unigolion sydd â parch ac sy'n ymwybodol o'r byd o'u cwmpas.

Dywedodd y Pennaeth Reena Patel: "Rwy'n falch o arwain ysgol sy'n gwerthfawrogi ei chymuned, sy'n adlewyrchu anghenion amrywiol ei phlant yn y cwricwlwm, ac yn sicrhau bod gan bawb lais ac yn cael ei werthfawrogi."

Mae adroddiad cadarnhaol, Estyn wedi argymell dau faes allweddol ar gyfer gwella pellach y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu;

Gwella'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau rhifedd a mathemategol disgyblion yn systematig.

Sicrhau bod pob athro yn cynnal disgwyliadau cyson uchel ar gyfer gwaith ysgrifenedig disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Ysgol Gynradd Kitchener yn adnabyddus am ei chymuned fywiog ac amrywiol ac mae Estyn wedi cydnabod y gwaith da sy'n digwydd yn yr ysgol sy'n rhoi cyfleoedd sy'n helpu plant i dyfu, nid yn unig yn ddinasyddion academaidd, ond hefyd fel dinasyddion tosturiol ac ymgysylltiedig â'r byd.

Darllenwch fwy yma

 

Gwella ardal chwarae Parc Maitland

Mae gwelliannau i'w gwneud i'r ardal chwarae ym Mharc Maitland yn Gabalfa.

Bydd y gwaith gwella, a fydd yn cymryd tua 6 wythnos i'w gwblhau, yn cynnwys:

 

  • Gosod offer chwarae newydd.
  • Gosod arwyneb diogelwch newydd.
  • Seddi newydd.
  • Biniau sbwriel newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'n bwysig iawn bod cyfleusterau chwarae awyr agored lleol o ansawdd da ar gael ac rwy'n siŵr bydd teuluoedd sy'n byw'n lleol yn croesawu'r cyfleusterau hyn wedi'u huwchraddio.

Darllenwch fwy yma

 

Gweithiwr sector cyhoeddus Caerdydd yn gwario dim ar betrol ac yn cael ei dalu gan ei gwmni ynni

Fel Therapydd Galwedigaethol, mae Reuben Morris yn treulio ei ddyddiau'n gyrru ar strydoedd Caerdydd i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi. Ef yw'r cyntaf i gyfaddef y byddai'n "anodd iawn" gwneud ei waith heb gar - ond chwe blynedd yn ôl, fe wnaeth y dewis gwyrdd a newid i gerbyd trydan a nawr, er gwaethaf y milltiroedd y mae'n eu gwneud bob dydd, dyw e byth yn gwario ceiniog ar betrol.

"Ges i Nissan Leaf rhad ar Gumtree a hynny," eglura Reuben, "oedd fy llwybr i mewn i dechnoleg werdd. Ers hynny, mae wedi dod yn dipyn o ddibyniaeth. Sylweddolais y gallwn ei wefru o baneli solar, ac aeth popeth o'r fan honno. Nawr mae gennym fatris storio a phwmp gwres hefyd ac mae ein cyflenwr ynni'n ein talu ni!"

Trafnidiaeth yw achos mwyaf allyriadau carbon yng Nghaerdydd - yn rhoi cyfrif am 35% o'r 1.78 miliwn o dunelli o CO2e sy'n cael ei gynhyrchu yn y ddinas bob blwyddyn, felly mae pob dewis gwyrdd sy'n cael ei wneud gan bobl fel Reuben heddiw - boed hynny'n cerdded neu'n beicio ychydig yn fwy neu'n newid i gerbyd trydan - yn ychwanegu at ddyfodol mwy disglair yfory.

Gyda rhwydwaith cynyddol o ryw 200 o  wefrwyr cerbydau trydan sydd ar gael i'r cyhoedd   bellach ar gael yng Nghaerdydd, a disgwylir i fwy gael eu cyflwyno fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd yn ogystal â chan y sector preifat, mae'r seilwaith i gefnogi cerbydau trydan yn gwella, ond mae Reuben yn cyfaddef iddo fod yn bryderus am bellter batri'r car i ddechrau.

Darllenwch fwy yma