Ar ddydd Mercher 2Hydref bydd y
ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn y Ganolfan Ddinesig i osod a datgymalu
pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.
O 5am ar ddydd
Mercher, 2 Hydref tan hanner nos ddydd Llun 7 Hydref bydd Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â
Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (bydd mynediad i
gerbydau ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9am dydd Sadwrn, 5 Hydref).
O 5am ddydd Iau 3 Hydref tan ychydig cyn hanner nos ar ddydd Llun 7 Hydref
- bydd Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac
i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.
O 5am ymlaen
ar ddydd Gwener 4 Hydref tan hanner nos ar ddydd Sadwrn 5 Hydref bydd y ffyrdd
canlynol ar gau:
· Rhodfa’r
Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y
Ddinas, ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
· Rhodfa'r
Amgueddfa o'r pen caeedig â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd
· Heol Gerddi’r
Orsedd o’r gyffordd â Phlas y Parc i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa
· Heol Neuadd y
Ddinas o’r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i’r gyffordd â Heol y Gogledd.
Caniateir mynediad ar gyfer
parcio preifat a danfoniadau tan 9.00am Dydd Sadwrn 5 Hydref - Bydd mynediad ar
gyfer gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu o Heol y Gogledd pan fydd y
digwyddiad yn cael ei gynnal.
Rhwng
6.00am a 10.45am ddydd Sul 6 Hydref bydd y
ffordd ganlynol ar gau: Ffordd y Gogledd o’r gyffordd â Colum Road i’r gyffordd
â Boulevard de Nantes (ceir mynediad i Blackweir drwy Blas-y-Parc/Heol Corbett,
tua’r gogledd ar Heol y Gogledd).
Rhwng 4am a 12
hanner dydd ar ddydd Sul, 6 Hydref bydd
y ffyrdd canlynol ar gau:
· Heol y
Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A4161
· Yr A4161
o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin,
· Ffordd y
Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug
· Heol y
Dug a Stryd y Castell
· Heol
Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y
Gadeirlan.
Rhwng 10am a
3.10pm ddydd Sul 6 Hydref bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
· Heol Colum
· Plas y Parc
o’r gyffordd â Maes St Andrew i’r gyffordd â Heol Colum.
Trefniadau
mynediad tra bo'r mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y
digwyddiad.
Ceir mynediad i Beatty Avenue
o’r gyffordd â Heol Ogleddol y Llyn yn unig (gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keyes
Avenue a Tyrwhitt Crescent)
Bydd mynediad i ac o Sgwâr y
Frenhines Ann yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd / Heol Corbett.
Lady Mary Road o’r gyffordd â
Maryport Road at y gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn.
Ar ddydd Sul,
6 Hydref, bydd ffordd ar gau rhwng 8.30am a 3.10pm i hwyluso'r llwybr ar y
ffyrdd canlynol:
· Heol
Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Stryd
Neville
· Stryd
Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
· Heol
Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa'r Harbwr a Roald Dahl Plas
· Cei
Britannia, Stryd Pen y Lanfa, Plas Bute, Rhodfa Lloyd George
· Stryd
Herbert, Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor
· Stryd
Adam, Plas Fitzalan yn mynd ar draws Heol Casnewydd
· Llwyn y
Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
· Heol
Marlborough, Heol Blenheim, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
· Heol y
Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn – bydd mynediad i
fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y
Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy'r brif fynedfa.
· Heol y
Dderwen Deg, Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa'r Amgueddfa.
Sylwer - Yn ystod amseroedd cau ffyrdd rhwng 8:30am a 3:10pm ar 6 Hydref, bydd mynediad yn cael ei gynnal ar gyfer preswylwyr a busnesau sy'n byw neu'n gweithio ar Rhodfa Lloyd George a Ffordd y Sgwner.
Bydd angen i drigolion a busnesau ar hyd Ffordd y Sgwner a Rhodfa Lloyd George ddilyn y cynllun gwyro a theithio drwy Rhodfa Celerity a Rhodfe Craiglee.
Yn ystod amseroedd cau ffyrdd, bydd staff ar y safle yn hwyluso’r traffig i symud, gyda cherbydau'n cael mynediad o Letton Way, Rhodfa Lloyd George i Heol Hemingway i'r gwrthwyneb.
Y tu
allan i'r amseroedd cau ar gyfer y marathon, gall gyrwyr ddefnyddio llwybrau ar
hyd Stryd Tyndall a Rhodfa Lloyd George.
Os caiff y
llwybr ei gwblhau'n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.
Bydd y giât bysiau ar Heol y
Porth yn cael ei atal dros dro drwy gydol y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm
ar Ddydd Sul 6 Hydref.