Back
Estyn yn cymeradwyo Ffederasiwn yr Enfys am arweinyddiaeth gref a chydweithio effeithiol

 

19/0/2024

Mae Ysgolion Cynradd Glan-yr-Afon a Bryn Hafod yn Llanrhymni wedi cael eu canmol gan Estyn am eu harweinyddiaeth gref, eu cydweithio effeithiol, a'u heffaith gadarnhaol ar les a dysgu disgyblion drwy bartneriaeth Ffederasiwn yr Enfys.

Canmolwyd y cwricwlwm a ddarperir yn y ddwy ysgol gynradd am ddarparu ystod eang ac ysgogol o brofiadau dysgu, gan alluogi disgyblion i ymgysylltu'n frwdfrydig a gwneud cynnydd sylweddol.  Mae dull cydweithredol y ffederasiwn yn sicrhau tegwch y ddarpariaeth i bob disgybl, gyda staff o'r ddwy ysgol yn elwa o gyfleoedd dysgu proffesiynol a rennir.  Mae hyn wedi cyfrannu at gynnydd cyson mewn meysydd fel gwella sgiliau darllen disgyblion a chefnogi'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Ymhlith y cryfderau allweddol a nodwyd yn yr adroddiad mae'r berthynas gref rhwng staff, disgyblion a'u teuluoedd, a'r ffocws ar greu amgylchedd diogel, cefnogol. Nodwyd ymddygiad cadarnhaol disgyblion a'u hymgysylltiad â'r dysgu a chanmolwyd athrawon am eu nodau clir a'u defnydd effeithiol o gwestiynu i wella'r dysgu.

Mewn adroddiad cadarnhaol, mae Estyn yn argymell gwelliannau o ran darparu cyfleoedd i ddisgyblion iau ddatblygu eu sgiliau trwy archwilio a chwarae annibynnol, yn ogystal â defnydd mwy penodol o sgiliau rhifedd ar draws y dysgu ehangach.

Mewn ymateb i'r arolwg, bydd y ffederasiwn yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn. Mae Estyn hefyd wedi gwahodd Ffederasiwn yr Enfys i baratoi astudiaeth achos ar ei waith yn arwain cydweithredu ar draws y ddwy ysgol, i'w rhannu ar wefan Estyn fel enghraifft o arfer gorau.

Dywedodd Pennaeth Gweithredol Ffederasiwn yr Enfys, Rhian Lundrigan:  "Rydym yn falch iawn o'r ddau adroddiad. Rydym wedi gweithio'n galed i greu cymuned lwyddiannus lle mae dysgwyr yn cael yr un cyfleoedd a phrofiadau ar draws yr ysgolion.  Mae staff wedi cydweithio a rhannu arbenigedd ac adnoddau, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau a lles.  Mae adroddiadau Estyn yn dyst i waith caled yr holl staff, disgyblion, rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr, sydd i gyd wedi gwneud Ffederasiwn yr Enfys yn lle gwych i ddysgu."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Dylai Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon a Bryn Hafod deimlo'n hynod falch o'r adborth cadarnhaol gan Estyn a'r gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad staff, disgyblion a theuluoedd.

"Dangoswyd bod y cydweithio drwy Ffederasiwn yr Enfys yn allweddol wrth ddarparu addysg o ansawdd uchel a sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arno i ffynnu."

Ar adeg yr arolwg, roedd gan Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon 150 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 73.3% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nodwyd bod gan 8.5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol a bod gan 17.1% o ddisgyblion Saesneg fel iaith ychwanegol.

Roedd gan Ysgol Gynradd Bryn Hafod 425 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 50.7% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nodwyd bod gan 15.7% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol a bod gan 11.5% o ddisgyblion Saesneg fel iaith ychwanegol.