Back
Ysgol Pen y Pîl; yn ymrwymedig at ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned meddai Estyn

17/9/2024

Mae Ysgol Pen y Pîl, ysgol gynradd Gymraeg yn Trowbridge, wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac am feithrin ymdeimlad cryf o gymuned, yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 

Roedd yr arolygiad yn canmol pennaeth a thîm arwain yr ysgol am eu cyfeiriad clir a'u cydweithrediad effeithiol, yn enwedig o fewn Ffederasiwn y Ddraig, a ffurfiwyd yn 2019.  Mae'r bartneriaeth hon gydag Ysgol Gymraeg Bro Eirwg wedi creu cymuned ddysgu ffyniannus sy'n dathlu diwylliant Cymru ac yn darparu profiadau gwerthfawr i ddisgyblion.

Canodd yr arolygwyr glodydd yr ysgol am ei hymroddiad i ofal a lles disgyblion, sy'n dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad ac agweddau myfyrwyr ac amgylchedd cefnogol yr ysgol sy'n sicrhau bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Cydnabuwyd athrawon yn yr ysgol am gynllunio cyfleoedd pwrpasol sy'n helpu disgyblion i ddatblygu ymdeimlad cryf o berthyn i'w cymuned leol ac i Gymru a nodwyd ystod o weithgareddau difyr y tu mewn a'r tu hwnt i'r ystafell ddosbarth am ehangu gorwelion disgyblion a gwella eu profiad addysgol.

Er bod gan bron pob disgybl sy'n dod i mewn i'r ysgol sgiliau Cymraeg is na'r disgwyl, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfathrebu Cymraeg a Saesneg, mathemateg a sgiliau digidol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Disgrifiwyd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fel rhai hynod effeithiol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da dros amser.

Yn adroddiad cyffredinol gadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud un argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael ag ef yn ei chynllun gweithredu; Cynorthwyo disgyblion ymhellach i wella eu dealltwriaeth o destunau ar draws pob maes dysgu.

Dywedodd y Pennaeth Iwan Ellis:  "Rwyf wrth fy modd gyda'n hadroddiad Estyn, sy'n cadarnhau bod Ysgol Pen y Pîl yn gymuned gynnes, ofalgar a hapus.  Mae'r adroddiad yn cydnabod y berthynas gadarnhaol rhwng staff a disgyblion, bod gan staff uchelgeisiau ar gyfer ein disgyblion, ac yn eu trin â charedigrwydd a pharch sy'n arwain at amgylchedd dysgu cynhwysol a gofalgar. 

Dwedodd:  "Mae Ysgol Pen y Pîl yn rhan o Ffederasiwn y Ddraig, ac rwy'n hynod falch bod adroddiad Estyn yn tynnu sylw at lwyddiant ein Ffederasiwn, bod y ddwy ysgol, Ysgol Pen y Pîl ac Ysgol Bro Eirwg, yn cydweithio'n effeithiol i ‘greu cymuned ddysgu lwyddiannus sy'n dathlu Cymreictod, yn darparu gofal a pharch ac yn cynnig profiadau gwerthfawr i ddisgyblion. Gellir teimlo balchder disgyblion yn eu hysgol, eu hardal leol a Chymru yn glir o fewn yr amgylchedd dysgu.'  Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymroddiad yr holl staff i sicrhau'r addysg orau bosibl i'n holl ddisgyblion."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae Estyn wedi nodi'r gwaith gwych sy'n digwydd yn Ysgol Pen y Pîl ac mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i'r ymrwymiad i gynnal perthynas gref gyda theuluoedd a'r gymuned leol, gan dîm arwain a staff yr ysgol.

"Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am adroddiad cadarnhaol, dylai staff fod yn falch o'r ffordd mae'r ysgol yn parhau i ddarparu amgylchedd addysgol rhagorol lle gall pob disgybl ffynnu."

Adeg yr arolwg, roedd 195 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Pen y Pîl, gyda 38.4% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan 3.6% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae 12.2% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.