Back
Cynnydd da wrth greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach, ond mae heriau sylweddol o'n blaenau

06.09.24
Mae rhaglen uchelgeisiol Cyngor Caerdydd i greu prifddinas gryfach, decach a gwyrddach yn cael ei gwerthuso yn Adroddiad Lles diweddaraf yr awdurdod, ac er bod yr asesiad yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud, mae hefyd yn nodi risgiau a meysydd sydd angen eu gwella yn y dyfodol. 

Diben Adroddiad Lles y Cyngor yw asesu’n onest waith yr awdurdod dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n defnyddio adborth gan drigolion, archwilwyr y llywodraeth, a’r swyddogaeth graffu gwleidyddol i sicrhau bod yr adolygiad o berfformiad yn deg ac yn gytbwys. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Ein huchelgais yw gwneud Caerdydd yn brifddinas gryfach, decach a gwyrddach. Dinas o gyfleoedd, lle gwych i fagu teulu gydag ysgolion gwych, swyddi gwych, a bywyd diwylliannol gwych.

"Mae gennym uchelgeisiau uchel ar gyfer Caerdydd, ac er gwaethaf yr argyfwng costau byw a'r pwysau parhaus ar gyllid y sector cyhoeddus, rydym yn benderfynol o wneud ein gorau i sicrhau bod prifddinas Cymru yn parhau i dyfu a ffynnu. 

"Bydd pawb yn gwybod bod cyllid cynghorau ar draws y DU yn parhau’n hynod o anodd. Mae'r adferiad ar ôl y pandemig wedi bod yn hir ac yn anodd, gyda llai a llai o arian ar gael i'r gwasanaethau cyhoeddus mae pobl wedi dod i'w disgwyl. Mae'r galw am ein gwasanaethau - yn enwedig mewn gofal cymdeithasol plant ac oedolion, a chostau darparu ysgolion gwell a chartrefi cyngor newydd – y cyfan sydd ei angen yn wael, yn rhoi straen enfawr ar y cyllid sydd gennym ar gael. 

"Er gwaethaf y pwysau ariannol hyn, rhaid i ni beidio â chael ein dal mewn meddylfryd dim cynnydd.  Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gofalu am yr henoed, yr ifanc a'r rhai mwyaf agored i niwed, tra ar yr un pryd yn ceisio adeiladu dinas a fydd yn tyfu'n economaidd. Dinas a fydd ag ansawdd bywyd uchel, ochr yn ochr â sîn ddiwylliannol wych, un a fydd yn denu buddsoddwyr, a busnes, gan greu cyfleoedd cyflogaeth newydd, darparu swyddi â chyflog gwell, a helpu pawb yma, a phawb sy'n dod yma i fyw, i symud ymlaen." 

Mae'r Adroddiad Lles yn dangos bod llawer o welliannau wedi'u gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:  

  •  Sicrhau bod cyrhaeddiad disgyblion yn parhau’n uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer graddau A* i C Safon Uwch, ac ar gyfer graddau A* i C TGAU 
  • Darparu 1,200 o gartrefi newydd fel rhan o raglen adeiladu cartrefi’r Cyngor 
  • Darparu £68m i economi Caerdydd ers 2012 drwy'r Cyflog Byw Gwirioneddol 
  • Ysgogi £5.4m mewn cyllid allanol i fuddsoddi mewn cymunedau lleol dros y 12 mis diwethaf 
  • Cymryd rôl weithredol i greu a diogelu 2,400 o swyddi yn 2023/24 
  • Sicrhau cyllid ar gyfer cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd yn llwyddiannus 
  • Sicrhau bod mwy o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol ac mewn tai preswyl mewnol 
  • Cynyddu nifer y staff gofal cymdeithasol, gyda’r gyfradd swyddi gwag yn gostwng o 38.7% ym mis Mehefin 2020 i ddim ond 15.8% 
  • Gwella effeithlonrwydd yn y broses i bobl sy'n gadael yr ysbyty, gan sicrhau bod therapyddion galwedigaethol yn gallu presgripsiynu gofal, gan ryddhau amser i staff gofal cymdeithasol 
  • Lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng nghanol y ddinas o 50 ym mis Tachwedd 2023 i 19 ym mis Mawrth 2024 (nodwch fod y ffigur hwn bellach yn 47 ym mis Awst 2024) 
  • Lleihau allyriadau carbon uniongyrchol 11.7% rhwng 2019/20 a 2022/23 ac allyriadau carbon anuniongyrchol mewn caffael 25.5% rhwng 2021/22 a 2022/23 
  • Cyflawni'r anrhydedd o fod y cyngor sy'n perfformio orau yng Nghymru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Mae'r canlyniadau eleni yn galonogol iawn. Rydym yn adeiladu mwy o dai cyngor, y prosiect mwyaf o'i fath yng Nghymru. Rydym yn lleihau ein hallyriadau carbon wrth i ni ymdrechu tuag at y targedau amgylcheddol a nodir yn ein Strategaeth Un Blaned. Ac rydym yn sicrhau cyllid mawr ei angen gan y llywodraeth sydd o fudd i'n cymunedau lleol ac yn cynorthwyo ein system trafnidiaeth gyhoeddus. 

"Rwy'n falch iawn o weld bod ein rhaglen datblygu tai ar y trywydd iawn, er gwaethaf rhai amodau heriol iawn yn y farchnad gyda chyfradd chwyddiant a chyfraddau llog. Mae hefyd yn galonogol gweld y gwaith rydym yn ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod gennym fwy o staff i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn, er bod y maes hwn o fusnes y Cyngor yn wynebu heriau digynsail a rhagwelir y bydd yn profi cynnydd o ran galw yn y blynyddoedd i ddod. 

"Mae creu swyddi mewn unrhyw brifddinas yn rhan hanfodol o economi leol sy'n tyfu, felly unwaith eto, mae'n galonogol gweld bod 2.400 o swyddi naill ai wedi cael eu creu neu eu diogelu drwy waith y Cyngor yn 2023/24.  

"Wedi dweud hynny oll, rydym yn cydnabod y meysydd sydd angen eu gwella ac mae rhai heriau mawr o'n blaenau a ddaw yn sgil yr adferiad parhaus ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw sydd wedi effeithio’n fawr ar gyllideb y Cyngor.  

"Mae'r Cyngor yn rheoli risgiau a materion newydd wrth iddynt godi a bydd yn parhau i wneud hynny, gan ddarparu trawswasanaeth, gweithio’n lleol, a chydweithredu â'n partneriaid yn y sector preifat, a'r trydydd sector i gyflawni pethau. 

“Rwy'n glir bod system berfformiad dda yn un sy'n ein galluogi i gydnabod lle mae cynnydd yn cael ei wneud ac i nodi meysydd lle mae angen ymyrraeth i fynd i'r afael â meysydd heriol. Dyna'n union y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud drwy gynnig asesiad teg a chytbwys y gellir seilio cynllunio’r dyfodol arno." 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyfres o risgiau sy'n wynebu'r Cyngor wrth symud ymlaen, gan gynnwys: 

  •  Cynnydd mewn galw am wasanaethau plant a phobl ifanc 
  • Lefelau presenoldeb mewn ysgolion ac oedi mewn datblygiad disgyblion oherwydd y pandemig 
  • Pwysau ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol i blant ac oedolion fel ei gilydd 
  • Y galw am lety brys a dros dro yn cynyddu'n sylweddol oherwydd yr Argyfwng Tai  
  • Diffyg o £49.726m yn y gyllideb ar gyfer 2025/26. 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â blwyddyn ariannol 2023/24 ac yn dangos yr heriau parhaus y mae'r Cyngor yn eu hwynebu oherwydd yr adferiad ar ôl y pandemig, a'r cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chyfraddau llog sy'n effeithio ar ystod o wasanaethau'r Cyngor. Drwy'r newidiadau cyllidol hyn i economi'r DU, mae awdurdodau lleol wedi dioddef, gyda chostau cynyddol i ddarparu gwasanaethau cyngor. 

"Gyda hyn i gyd mewn golwg, ym mis Mai 2024, cychwynnodd y Cabinet gam cyntaf adolygiad a dyluniad o wasanaethau'r Cyngor, gyda tharged arbedion o £100m wedi'i osod dros y 4 blynedd nesaf. Mae cyfres o egwyddorion wedi'u nodi gan fy Nghabinet, gyda dinasyddion Caerdydd ar flaen y gad, fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bawb sydd eu hangen. Rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ers i'r pandemig ddod i ben ac mae'r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd hwnnw a'r heriau sydd o'n blaenau." 

Ystyrir asesiad y Cyngor o'i berfformiad gan Banel Perfformiad yr awdurdod, sy'n dwyn ynghyd holl Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu, y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a'r Cyngor Llawn. Defnyddir arolygon trigolion i sicrhau bod asesiad cytbwys o berfformiad yn cael ei gyflawni. 

Bydd yr Adroddiad Lles Blynyddol yn cael ei drafod yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad y Cyngor ddydd Mercher 11 Medi am 4.30pm. I weld yr adroddiad llawn, agenda'r cyfarfod, a gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar y diwrnod, dilynwch y ddolen hon – Agenda ar gyfer Cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad ddyddMercher 11 Medi 2024, 4.30pm: Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)  

Yna bydd yr adroddiad yn mynd i'r Cabinet i'w gymeradwyo o 2pm ddydd Iau 19 Medi. Bydd modd gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw yma: Agenda ar gyfer cyfarfod y Cabinet ddydd Iau 19 Medi 2024, 2.00pm: CyngorCaerdydd (moderngov.co.uk)  

Yna bydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ddydd Iau 26 Medi, am 4.30pm:
Agenda Cyngor ar DyddIau, 26ain Medi, 2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)