Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Diwrnod Canlyniadau TGAU yng Nghaerdydd 2024
Mae miloedd o ddisgyblion Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, gyda chanlyniadau graddau A* - C, yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Yng Nghaerdydd, yn seiliedig ar ddarpar ganlyniadau TGAU CBAC a gyhoeddwyd heddiw, mae 26% o ganlyniadau TGAU 2024 yn raddau A* i A, o'i gymharu â ffigur Cymru, sef 19.2%.
Mae canran y cofrestriadau TGAU yng Nghaerdydd a arweiniodd at raddau A* - C yn 67.4%, o'i gymharu â ffigwr o 62.2% ar gyfer Cymru gyfan. Mae 96.1% o arholiadau TGAU yn raddau A*-G, o'i gymharu â 96.6% ledled Cymru.
Yn debyg i weddill Cymru, mae canlyniadau yn uwch nag yn 2019 ond yn is nag yn 2023 pan roddwyd mesurau ychwanegol ar waith.
Haf 2024 yw cam olaf y trosglwyddo yn ôl i'r trefniadau oedd ar waith yn system cymwysterau Cymru cyn y pandemig. Nod y polisi oedd dychwelyd yn fras i'r sefyllfa fel yr oedd cyn y pandemig o ran cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Gwneud i Gymru.
Ni chafodd dysgwyr hysbysiad canlyniadau o flaen llaw ac ni wnaed unrhyw addasiadau i asesiadau.
Mae cymwysterau CBAC a chymwysterau galwedigaethol Gwneud i Gymru wedi'u dyfarnu yn unol â threfniadau cyn y pandemig.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Ar ran yr Awdurdod Lleol, hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Caerdydd sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw.
"Mae'n anhygoel meddwl bod y disgyblion hyn ar ddechrau eu haddysg ysgol uwchradd pan ddechreuodd y pandemig ac wedi parhau i ddangos penderfyniad a gwytnwch drwyddi draw. Mae eu cyflawniadau yn dyst i'w gwaith caled, a hoffwn ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt ddechrau pennod newydd o'u bywydau, boed yn symud i'r brifysgol, cyflogaeth neu hyfforddiant.
"Mae'n braf gweld bod perfformiad ar draws y ddinas wedi parhau i godi eto ac yn benodol, bod canlyniadau Caerdydd yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd Cymreig ar gyfer graddau A* - A.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Hoffwn ddiolch hefyd i ysgolion, athrawon a staff y ddinas am eu hymroddiad a'u cefnogaeth wrth helpu disgyblion i gyflawni eu potensial a'u paratoi ar gyfer eu dyfodol.
"I unrhyw ddisgyblion sy'n ansicr am eu camau nesaf, mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael ar lwyfan Beth Nesaf www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/."
Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: Cyhoeddi rhestr o artistiaid a digwyddiadau newydd
Dychmygwch ddinas yn morio â cherddoriaeth am dair wythnos ogoneddus. Dinas lle mae llinellau bas yn treiddio'n ddwfn i'r nos, syntheseiswyr yn sïo o amgylch arenâu, neuaddau cyngerdd a lleoliadau llawr gwlad annibynnol, ac alawon yn canu allan o gorneli stryd. Dinas sy'n llawn digwyddiadau annisgwyl, gigs cyffrous a chelf sonig. Dinas lle mae hyd yn oed yr adeiladau'n curo'n drwm mewn pryd i'r curiad.
Caerdydd yw'r ddinas, a'r ŵyl yw Gŵyl Gerdd Dinas newydd Caerdydd.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod yr ŵyl yw denu 20,000 o bobl i'r ddinas yn ei blwyddyn gyntaf.
Gydag ychydig dros bedair wythnos nes i'r ŵyl ddechrau ddydd Gwener, 27 Medi, mae ton newydd o artistiaid eiconig ac sy'n dod i'r amlwg, digwyddiadau cyffrous, sgyrsiau'r diwydiant cerddoriaeth, a gosodiadau trawiadol wedi'u trefnu mewn lleoliadau sefydledig ac anghonfensiynol ledled y ddinas.
Nod Gŵyl Gerdd Dinas Caerdydd yw dathlu artistiaid sydd wedi gwthio ffiniau cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth ac sy'n parhau i wneud hynny, gan greu gofod ar gyfer perfformwyr newydd a sefydledig i ysbrydoli cynulleidfaoedd, rhoi cynnig ar bethau newydd a chyflwyno profiadau cyfranogi unigryw.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Cerddoriaeth yw calon Caerdydd ac mae Gŵyl Gerdd gyntaf Caerdydd yn rhan allweddol o'n strategaeth gerddoriaeth i gefnogi pob rhan o ecosystem gerddorol y ddinas - o gerddorion i gynhyrchwyr, hyrwyddwyr, lleoliadau a'r tu hwnt.
"Bydd y ddinas gyfan yn fyw gyda cherddoriaeth drwy gydol yr ŵyl. Mae'n addo bod yn wythnosau arbennig iawn. Mae cerddoriaeth yn ffordd mor bwerus o ddod â phobl at ei gilydd ac efallai nawr yn fwy nag erioed, mae'r ymdeimlad hwnnw o gydlyniant cymdeithasol yn bwysig iawn."
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae'r ŵyl gerddoriaeth newydd sbon hon yn wych i Gaerdydd ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r ŵyl ac elfennau o sîn gerddoriaeth y ddinas dros y blynyddoedd.
"Mae'n rhestr anhygoel sy'n cynnwys pob math o genres cerddorol a fydd wir yn arddangos ystod amrywiol o leoliadau cerddoriaeth y ddinas."
Cau ffyrdd yn ystod 10K Caerdydd ar 1 Medi
Bydd strydoedd y brifddinas dan eu sang gyda miloedd o redwyr ddydd Sul 1 Medi yn cystadlu yn 10K Caerdydd. Bydd ffyrdd yn cau yn eu tro'n rhan o'r digwyddiad.
Cau ffyrdd
I gynnal y digwyddiad, bydd y Ganolfan Ddinesig yn cau o 7am ddydd Sadwrn 31 Awst tan 6pm ddydd Sul 1 Medi.
Bydd hynny'n cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Heol Corbett, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Ddydd Sul 1 Medi, bydd cyfres o ffyrdd yn cau yn eu tro ar hyd llwybr y ras o 9am tan 1pm. Bydd y rhain yn cynnwys:
Heol y Gogledd, o'r gyffordd â Heol Colum hyd at y gyffordd â Boulevard De Nantes - mynediad at y Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett a bydd mynediad at Sgwâr y Frenhines Ann yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett gyda ffordd allan drwy Heol Corbett a thrwy Heol Colum)
Heol y Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A4161
Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin
Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug
Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan
Boulevard De Nantes o'r gyffordd â Phlas y Parc/Stuttgarter Strasse i'r gyffordd â Heol y Gogledd
Y Brodordy a Gerddi'r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, a Heol y Parc
Heol Eglwys Fair o'r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
Y Stryd Fawr o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Phlas y Neuadd
Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare
Fitzhamon Embankment , Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street a Teras Coldsteam
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
Stryd Neville o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
Stryd Wellington o'r gyffordd â heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Brenin
Heol y Gadeirlan o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Heol Penhill
Pob ffordd ochr sy'n dod allan ar Heol y Gadeirlan
Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, Ffordd Feingefn yng Ngerddi Sophia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler
Heol Penhill o'r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
Bydd Rhodfa'r Gorllewin ar gau o'r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.
SYLWER: Bydd y troi i'r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.