Back
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yng Nghaerdydd 2024

 

15/8/2024

Mae disgyblion ledled Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a Safon UG heddiw ac mae'r canlyniadau unwaith eto'n uwch na chyfartaledd Cymru.

Haf 2024 yw cam olaf y trosglwyddo yn ôl i'r trefniadau oedd ar waith yn system cymwysterau Cymru cyn y pandemig.  Nod y polisi oedd dychwelyd yn fras i'r sefyllfa fel yr oedd cyn y pandemig o ran cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Gwneud i Gymru.  Ni chafodd dysgwyr hysbysiad canlyniadau o flaen llaw ac ni wnaed unrhyw addasiadau i asesiadau.

Mae cymwysterau CBAC a chymwysterau galwedigaethol Gwneud i Gymru wedi'u dyfarnu yn unol â threfniadau cyn y pandemig.

Yng Nghaerdydd, yn seiliedig ar ddarpar ganlyniadau TAG CBAC a gyhoeddwyd heddiw, mae 37% o ganlyniadau Safon Uwch ar gyfer 2024 yn raddau A* i A, o'i gymharu â ffigur Cymru, sef 29.9%. 

Mae canran y cofrestriadau Safon Uwch yng Nghaerdydd a arweiniodd at raddau A* - E yn 98.6%, o'i gymharu â ffigwr o 97.4% ar gyfer Cymru gyfan. Mae 83.1% o arholiadau Safon Uwch yn raddau A*-C, o'i gymharu â 76.5% ledled Cymru.

Mae'r canlyniadau yn uwch nag yn 2019 ond yn is nag yn 2023 pan roddwyd mesurau ychwanegol ar waith. Mae hyn yr un fath ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Ar ran yr Awdurdod Lleol, hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Caerdydd sydd  heddiw wedi derbyn canlyniadau ar gyfer cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau cyfatebol.

"Mae eu cyflawniadau yn dyst i'r gwaith caled, y penderfyniad a'r gwytnwch y maent wedi'i ddangos trwy gydol eu taith addysg hyd yma, a hoffwn ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt ddechrau pennod newydd o'u bywydau, boed yn symud i'r brifysgol, cyflogaeth neu hyfforddiant.

"Rwy'n falch o weld bod y perfformiad ledled y ddinas eleni wedi parhau i godi a bod ycanlyniadau yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2024.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Hoffwn ddiolch hefyd i ysgolion, athrawon a staff y ddinas am eu hymroddiad a'u cefnogaeth wrth helpu disgyblion i gyflawni eu potensial a'u paratoi ar gyfer eu dyfodol.

"I unrhyw ddisgyblion sy'n ansicr am eu camau nesaf, mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael ar lwyfan Beth Nesafwww.whatsnextcardiff.co.uk/cy/"

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.

Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd yn ybydgwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg, y brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:www.whatsnextcardiff.co.uk/cy/ 

 

*Mae'r ystadegau'n amodol ac yn seiliedig arganlyniadau TAG, Safon Uwch ac UG CBAC yn unig.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw CBAC yn rhyddhau ffigurau Cymru gyfan ar gyfer canlyniadau CBAC yn unig.  Fodd bynnag, mae ffigurau Cymru gyfan ar gyfer pob bwrdd ar gael. Gan nad yw CBAC yn rhyddhau ffigyrau'r holl fyrddau fesul ALl neu ysgol, nid yw'n bosibl gwneud unrhyw gymariaethau dilys o ffigurau'r ALl yn erbyn tueddiadau cenedlaethol.