Mae disgwyl i
draffordd yr M4 fod yn brysur oherwydd y
digwyddiad hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac os ydych yn mynd i’r
digwyddiad Speedway, dylch osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r
cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref
Chwaraeon - CF11 0JS.
Gallwch chi
weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy'n
mynd i’r digwyddiad yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw
a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Sylwch ar yr eitemau gwaharddedig
wedi’u rhestru yn https://www.principalitystadium.wales/safety-and-security/, yn arbennig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
·
Stryd y Cei, Plas y Neuadd a’r Gwter
·
Stryd Wood o Arglawdd Fitzhammon drwodd i gyffordd
Heol Eglwys Fair â Lôn y Felin
·
Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road, Gerddi Despenser,
Heol Scott, Stryd Havelock a Stryd y Parc.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig
drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad,
rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio
preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys
Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y
Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu
capasiti lle bo modd i gyrraedd/gadael Caerdydd ar Ddydd Sadwrn 17 Awst, ond
disgwylir i’r trenau fod yn fwy prysur nag arfer felly neilltuwch ddigon o
amser ar gyfer eich taith.
Bydd systemau ciwio ar waith yng Nghaerdydd Canolog ar
gyfer gwirio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad.
Bydd maes parcio Glan-yr-afon ar gau rhwng 20:00 ar 16
Awst i 04:00 ar 18 Awst a bydd maes parcio Heol Penarth ar gau o 06:00 ar 15
Awst i 04:00 ar 18 Awst.
Bydd y safle tacsis ar Heol Saunders ar gau o 06:00 ar
ddiwrnod y digwyddiad.
Ewch i tfw.cymru neu i Ap
newydd Trafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd,
siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges
destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50
40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob
tro.
Bydd Great Western
Railway (GWR) yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu
cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi'r digwyddiad.
Bydd trenau yn rhedeg o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a
Swindon; gyda digon o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur
iawn yn syth ar ôl y digwyddiad a bydd system giwio ar waith y tu allan i'r
orsaf i helpu pobl i ddefnyddio’r trenau'n ddiogel.
Dylai'r rhai sy'n teithio’n bellach wirio
gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref, yn www.gwr.com/check
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd y cyfleuster parcio a theithio ond
ar gael i’r rhai sy'n mynd i’r digwyddiad Speedway sef yn Toy's R Us yn y
Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.
Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y
ddinas yn Sgwâr Callaghan.
Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.30am, a bydd
y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 9.30pm
gyda'r safle yn cau’n fuan wedi hynny.
Y gost yw £15.
Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod
Digwyddiad (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau
cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn
agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm
Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau
cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw
ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd
ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael
rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso
i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn
yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y
digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu, gofynnwn i
bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob
cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau
beicio neu gerdded.Mae
ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km
o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei
feicio’n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd
nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud
beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag
yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio
Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac
NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi
Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol
Eglwys Fair (y tu allan i adeilad House of Fraser) yn cau am 2.30pm ac yn
ailagor am 9.30pm.