Back
Y newyddion gennym ni - 29/07/24

Image

26/07/24 - Beth Nesaf? Rhaglen o ddigwyddiadau a gwybodaeth i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu dyfodol ar ôl arholiadau

Wrth i ddiwrnodau canlyniadau arholiadau Safon Uwch a TGAU agosáu ym mis Awst, bydd pobl ifanc yng Nghaerdydd yn gallu mynd i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i gyrraedd eu camau nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

25/07/24 - Tafarndai hanesyddol Caerdydd i'w cynnig ar gyfer Rhestr Treftadaeth Leol

Mae Cyngor Caerdydd wedi clustnodi 71 o dafarndai, clybiau a lleoliadau cymdeithasol neu ddiwylliannol presennol a blaenorol i'w cynnwys ar Restr Treftadaeth Leol y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/07/24 - Miloedd o blant ysgol gynradd yn elwa o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Mae mwy na 20,900 o ddisgyblion oed cynradd ledled y ddinas bellach yn gallu elwa o brydau ysgol am ddim drwy raglen Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod plant yn bwyta'n dda yn ystod y diwrnod ysgol ac o fudd yn ariannol i deuluoedd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/07/24 - Aelod terfynol Grŵp Troseddau Cyfundrefnol wedi'i ddedfrydu i bedair blynedd o garchar

Mae'r aelod terfynol o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfreithlon tra'n gwyngalchu arian gwerth dros £1.5m wedi'i ddedfrydu i bedair blynedd o garchar ddydd Gwener diwethaf (19 Gorffennaf) yn Llys y Goron Abertawe.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/07/24 - Anrhydedd mawr i ysgol am ei darpariaeth Gymraeg

Mae Ysgol y Court yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr nodedig am hyrwyddo'r Gymraeg ar draws ei chwricwlwm.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/07/24 - SuperTed - a cherflun nodedig - i ymddangos mewn arddangosfa newydd yng Nghaerdydd

SuperTed, yr arwr anwes a grëwyd gan dîm animeiddio yng Nghaerdydd, oedd un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd y 1980au ac mae'n parhau i swyno plant heddiw.

Darllenwch fwy yma