Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 26 Gorffennaf 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Tafarndai hanesyddol Caerdydd i'w cynnig ar gyfer Rhestr Treftadaeth Leol
  • Miloedd o blant ysgol gynradd yn elwa o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd
  • Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn cydweithio ar astudiaeth Teithio Llesol arloesol
  • Llwyddiant Rhaglen Cenhadon Democratiaeth i ysgolion cynradd Caerdydd

 

Tafarndai hanesyddol Caerdydd i'w cynnig ar gyfer Rhestr Treftadaeth Leol

Mae Cyngor Caerdydd wedi clustnodi 71 o dafarndai, clybiau a lleoliadau cymdeithasol neu ddiwylliannol presennol a blaenorol i'w cynnwys ar Restr Treftadaeth Leol y ddinas.

Mae'r cam hwn yn ceisio cydnabod a gwarchod yr adeiladau hyn am eu cyfraniad cadarnhaol i ddiwylliant a natur weledol y ddinas.

Ymhlith y tafarndai a gyflwynwyd i'w cynnwys mae:

                    Y Butchers Arms yn Rhiwbeina

                    Yr Albany ym Mhlasnewydd

                    Y Cottage yn y Sblot

                    Y Cornwall yn Grangetown

                    Y Pineapplel yn Ystum Taf, a

                    Yr Halfway yn Riverside

Dwedodd Dan De'Ath, Aelod Cabinet y Cyngor sy'n gyfrifol am Gynllunio Strategol, bod y cynnig i ychwanegu'r adeiladau at y Rhestr Treftadaeth Leol yn cyd-fynd â chynllun corfforaethol 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' yr awdurdod lle mae'n ymrwymo i "Defnyddio ein pwerau i warchod a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai, gofodau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth, yn enwedig y rhai sy'n gyfoethog o ran hanes dosbarth gweithiol y ddinas;"

Mae'r Cyngor bellach wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ychwanegiadau i'r rhestr leol arfaethedig sy'n ffurfio cam cyntaf adolygiad llawn o'r Rhestr Treftadaeth Leol. I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad - sy'n cau ar Fedi 18 eleni - ewch i www.cardiffldp.co.uk/local-list  a rhoi eich barn.

Darllenwch fwy yma

 

Miloedd o blant ysgol gynradd yn elwa o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Mae mwy na 20,900 o ddisgyblion oed cynradd ledled y ddinas bellach yn gallu elwa o brydau ysgol am ddim drwy raglen Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod plant yn bwyta'n dda yn ystod y diwrnod ysgol ac o fudd yn ariannol i deuluoedd. 

Mae gwaith helaeth a wnaed gan dimau Arlwyo Addysg Caerdydd wedi gweld ceginau ysgol ledled y ddinas yn cael eu diweddaru a'r capasiti'n cynyddu, er mwyn gallu rhoi darpariaeth yn effeithlon er i blant oed cynradd yn ysgolion cynradd ac arbennig Caerdydd.

Mae pob disgybl cynradd o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 yn gallu cael prydau ysgol am ddim. Er mwyn sicrhau nad yw plant oed cynradd yn colli allan ar eu prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay i archebu ymlaen llaw.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yma  www.parentpay.com

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu heriau yn ymwneud â chostau byw presennol ac mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb sy'n gymwys, mor effeithlon â phosibl i sicrhau nad yw'r wasgfa ariannol yn amharu ar addysg.

"Nid yw hwyluso'r lefel hon o newid wedi bod heb ei heriau, gyda phob ysgol yn wahanol o ran maint a chapasiti, ond er gwaethaf yr anawsterau sylweddol hyn, mae cyflwyno'r cynllun yn llwyddiannus yn ychwanegiad i'w groesawu sydd eisoes o fudd i filoedd o deuluoedd ledled y ddinas.

"Yn ogystal â'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, dylai teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau sydd â phlant mewn ysgolion uwchradd barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.  Mae'n hanfodol bod y rhieni hynny sydd ei angen fwyaf yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.  Rwy'n annog unrhyw un sy'n credu y gallen nhw fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim a chymorth arall, i gysylltu er mwyn gallu cael y cymorth cywir drwy gydol y flwyddyn ysgol."

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn cydweithio ar astudiaeth Teithio Llesol arloesol

Mewn cam sylweddol tuag at hyrwyddo teithio cynaliadwy a gwella iechyd y cyhoedd, mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) wedi cyhoeddi ei fod yn cydweithio ag academyddion blaenllaw ar raglen ymyrraeth teithio llesol arloesol. Nod y fenter yw annog cerdded a beicio, helpu i leihau ôl troed carbon Caerdydd a meithrin ffyrdd iachach o fyw.

Mae'r cydweithrediad yn golygu bod CIC yn gweithio'n agos gyda Dr Hannah Littlecott o Brifysgol Bryste a Dr Kelly Morgan o Brifysgol Caerdydd. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd y bartneriaeth yn cynnal gwerthusiad ar ymyrraeth teithio llesol arloesol sy'n ceisio deall a yw newidiadau i deithio llesol mewn tref yng Nghymru yn cynyddu teithiau drwy gerdded, beicio a defnyddio olwynion.

Bydd yr astudiaeth TRAVELS yn asesu'r 'Dref Teithio Llesol' newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Dref Teithio Llesol yn rhoi llawer o newidiadau ar waith yn yr un dref ar yr un pryd. Bydd y rhain yn cynnwys newidiadau i'r amgylchedd, megis lonydd beicio, lle parcio i feiciau neu oleuadau stryd. Bydd hefyd yn gweithio gydag ysgolion a gweithleoedd i annog pobl i ddefnyddio teithio llesol yn amlach.

Mae aelodau CIC a'r academyddion wedi canolbwyntio ar fireinio dulliau casglu data i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau'r prosiect ac anghenion y gymuned. Daeth cyfranogiad y cyngor ieuenctid ag amrywiaeth o safbwyntiau a syniadau newydd, gan wella dull cyffredinol y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae'r cydweithio hwn yn garreg filltir bwysig yn nhaith Caerdydd tuag at feithrin cymunedau mwy egnïol, iach a chynaliadwy.

"Mae'r mewnwelediadau a'r egni y mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn eu cyfrannu yn amhrisiadwy ac mae cyfranogiad pobl ifanc yn dangos ein hymroddiad i gynaliadwyedd amgylcheddol a byw'n llesol. Drwy weithio ochr yn ochr â'r llywodraeth a sefydliadau academaidd, mae CIC yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol iachach i Gaerdydd a thu hwnt.

"Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant i wead y ddinas, a sicrhau bod lleisiau ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond eu bod yn allweddol wrth barhau â'n taith i wneud hawliau plant yn realiti yng Nghaerdydd, yn dilyn ennill statws dinas gyntaf y DU i fod yn un sy'n Dda i Blant."

Darllenwch fwy yma

 

Llwyddiant Rhaglen Cenhadon Democratiaeth i ysgolion cynradd Caerdydd

Mae dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr o £100 yr un am gymryd rhan yn Rhaglen Cenhadon Democratiaeth Cyngor Caerdydd.

Mae Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Pentwyn wedi bod yn llwyddiannus yn y rhaglen sydd wedi'i threfnu gan y tîm Gwasanaethau Etholiadol i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yn y ddinas i ddysgu mwy am ddemocratiaeth leol.

Gwahoddwyd athrawon ledled y ddinas i gofrestru fel Cenhadon Democratiaeth, i gael mynediad at ystod eang o adnoddau a syniadau i ennyn diddordeb disgyblion a myfyrwyr, hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chefnogaeth barhaus gan dîm y Gwasanaethau Etholiadol.

Roedd Ysgolion Cynradd Melin Gruffydd a Dewi Sant ymhlith 19 ysgol - 17 ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd, a gymerodd ran yn y rhaglen dros y flwyddyn ysgol ddiwethaf.

Mae'r rhaglen wedi cynnwys ymweliadau â Neuadd y Sir lle mae disgyblion wedi dysgu am bleidleisio ac etholiadau, sut mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau ac wedi cwrdd â'r Arglwydd Faer tra bod cynghorwyr lleol wedi ymweld ag ysgolion sy'n cymryd rhan i egluro eu rôl ac ateb cwestiynau'r plant.

Mae'r fenter hefyd wedi cynnwys gwersi, gwasanaethau ysgol a gweithdai ar y thema democratiaeth leol a sut y gall pawb gymryd rhan yn y broses.

Enillodd Ysgolion Cynradd Melin Gruffydd a Dewi Sant y raffl yr oedd ysgolion yn cofrestru ar ei chyfer drwy ymuno â'r rhaglen cyn mis Hydref diwethaf. Gellir gwario'r wobr o £100 ar adnoddau i helpu addysgu am etholiadau a democratiaeth, teithiau ysgol i'r Senedd neu offer i alluogi ysgolion i gynnal eu hetholiadau eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Bablin Molik, a oedd yn Arglwydd Faer Caerdydd adeg ymweliadau'r ysgolion â Neuadd y Sir: "Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gynradd Dewi Sant ar eu buddugoliaeth! Rydym wedi bod yn falch iawn o ymgysylltiad ysgolion â'r rhaglen eleni. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am bwnc pwysig iawn.

"Mae athrawon wedi dweud wrthym fod y rhaglen wedi bod yn werth chweil, ac y bydd y wybodaeth a gafwyd a'r profiadau y mae eu disgyblion wedi'u cael drwy'r rhaglen nid yn unig yn gwella llais y disgybl yn eu hysgolion, ond hefyd yn cefnogi'r plant i ddod yn ddinasyddion mwy ym gysylltiedig wrth iddynt dyfu."

Darllenwch fwy yma