Back
Aelod terfynol Grŵp Troseddau Cyfundrefnol wedi'i ddedfrydu i bedair blynedd o garchar
 23/07/24

 Mae’r aelod terfynol o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfreithlon tra’n gwyngalchu arian gwerth dros £1.5m wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd o garchar ddydd Gwener diwethaf (19 Gorffennaf) yn Llys y Goron Abertawe.

 

Cafodd Serhang Ahmadi, 35 oed, o Gaerdydd ei ddedfrydu ar ôl y deg aelod arall o'r gang, oherwydd cyhuddiad ychwanegol o fygwth tystion yn ymwneud â'r achos a arweiniodd at achos tri diwrnod, ond fe’i cafwyd yn ddieuog o'r cyhuddiad hwn oherwydd tystiolaeth ail law.

 

Gyda'r ddedfryd olaf hon yn cael ei rhoi gan y llys, dedfrydwyd y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol i gyfanswm o 29 mlynedd o garchar gyda 9 mlynedd arall wedi'u rhoi mewn dedfrydau gohiriedig, am gynnal 'busnes at ddiben twyllodrus' gwerth £1.8 miliwn rhwng 6 Medi 2013 tan 5 Chwefror 2022.

 

Yn yr achos twyll gwreiddiol, plediodd Mr Ahmadi yn euog i'r drosedd ar 15 Tachwedd 2023, saith diwrnod ar ôl i'r achos ddechrau. Am y rheswm hwnnw, yn ystod y ddedfryd ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd y barnwr ostyngiad o 5% i'w ddedfryd a chyda'r amser y mae eisoes wedi'i dreulio yn y ddalfa, bydd Mr Ahmadi yn treulio dwy flynedd a hanner arall yn y carchar.

 

Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelodd swyddogion o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) Cynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro werth £600,000 o dybaco anghyfreithlon, yn seiliedig ar gost y farchnad, ynghyd â gwerth £12,500 o gynwysyddion Ocsid Nitraidd.

 

Dechreuodd y gwaith yn erbyn y gang ym mis Chwefror 2020, yn dilyn gwybodaeth bod nifer o siopau yn ardal De Cymru yn gwerthu tybaco anghyfreithlon ac ocsid nitraidd. Cafodd symiau sylweddol o sigaréts a thybaco eu hatafaelu i ddechrau, ond roedd yn ymddangos bod y siopau yn ailstocio ar unwaith, ac yn parhau i werthu'r nwyddau anghyfreithlon i'r gymuned leol, gan gynnwys plant.

 

Roedd y grŵp troseddol yn gweithredu eu busnes mewn o leiaf saith siop yn Ne Cymru, roedd y rhan fwyaf yng Nghaerdydd ond roedd siopau yn Y Barri a Phen-y-bont hefyd yn cael eu defnyddio gan gynnwys:

 

  • Best European Food Ltd, Clifton Street, Caerdydd
  • Laz Mini Market. Clifton Street, Caerdydd
  • Barry Stores, Tynewydd Road, Y Barri
  • European Shop, Heol Holltwn, Y Barri
  • World and Food Ltd, Heol Holltwn, Y Barri
  • Apna Bazaar Bridgend Ltd, Dunraven Place, Pen-y-bont
  • European Mini Market, Stryd Tudor, Caerdydd.

 

Defnyddiodd y gang y siopau fel wyneb, gan ymddangos eu bod yn gwerthu cynhyrchion dilys a chynnyrch cyfreithlon arall, ond mewn gwirionedd, roedd ystryw cymhleth yn cael ei gynnal gyda fflatiau uwchben y siopau a mannau cudd eraill yn cael eu defnyddio i guddio llawer iawn o dybaco anghyfreithlon a oedd yn cael ei werthu i gwsmeriaid.

 

Clywodd y llys fod pob siop, ar amcangyfrifiad ceidwadol, yn gwneud tua £1000 y dydd o werthu tybaco anghyfreithlon ac Ocsid Nitraidd, gyda chyfanswm gwerthiant anghyfreithlon o £3.8m.

 

Cafodd peth o'r tybaco anghyfreithlon ei storio mewn unedau Safestore neu yng nghartrefi'r diffynnydd, gyda'r tybaco a'r sigaréts yn cael eu symud mewn ceir gyda ffenestri wedi’u duo i'r siopau a'r fflatiau uwchben yn hwyr yn y nos neu yn oriau mân y bore.

 

Yn aml, roedd y tybaco anghyfreithlon yn cael ei storio mewn mannau mawr wedi'u cuddio yn y siopau neu'r fflatiau. Defnyddiwyd magnetau trydanol pwerus, a reolir o bell i ddatgloi'r gofodau hyn a oedd yn anweledig i'r llygad dynol a dim ond trwy ddefnyddio cŵn snwyro a thrwy dorri trwy waliau oedd modd eu canfod.

 

Ymhlith y technegau eraill a ddefnyddiwyd gan y gang i gyflenwi eu cynnyrch roedd winshis trydan a thiwbiau plastig yn cysylltu'r siop â'r fflat uwchben, gyda thybaco yn cael ei basio i lawr tiwb pan wnaeth cwsmer brynu.

 

Dywedodd Helen Picton, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:"Arweiniodd chwiliadau a phrofion prynu ym mhob un o'r saith siop at £600,000 o dybaco anghyfreithlon wedi'i dynnu oddi ar strydoedd De Cymru. Rhan fach o faint y drosedd a wnaed yn yr achos hwn oedd hyn, gan nad yw'n ystyried unrhyw sigaréts neu dybaco a werthwyd gan y gang troseddol.

 

"Er eu bod yn credu eu bod yn gweithredu'n ddi-ganlyniad, yr hyn nad oeddent yn ei wybod yw eu bod yn cael eu monitro ar hyd y daith, ac fel y dangosodd y ddau achos, roedd tystiolaeth enfawr i reithgor eu cael yn euog o'r troseddau hyn. Roedd eu hymddygiad yn ystod yr achosion yn warthus. Roedden nhw'n credu bod ganddyn nhw'r hawl i gynnal eu busnes twyllodrus ac nid oedden nhw'n dangos llawer o edifeirwch.

 

"Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned.  Mae’r ffaith ei fod yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno’n arbennig o ddeniadol i bobl ifanc ac eraill ar incwm is, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr presennol roi'r gorau i'r arfer. Rwy'n falch iawn o weld canlyniad llwyddiannus yr ymchwiliad hir ac estynedig hwn. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu canlyniadau os byddant yn dewis delio yn y cynhyrchion anghyfreithlon hyn."

 

Dywedodd Sarsiant Jake Rollnick o Heddlu De Cymru: “Mae timau heddlu lleol caerdydd a’r fro wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ag asiantau eraill I ddod a’r troseddwydd yma o flaen eu gwell dros gynod o 18 mis.Mae’r Gwaith, sy’n cynnwys gweithredu warrantiaid yn dangos yn glir beth ellid ei gyflawnu drwy weithio gyda’n gilydd mewn partneriaieth”.