Back
Anrhydedd mawr i ysgol am ei darpariaeth Gymraeg
 22/07/24

 Mae Ysgol y Court yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr nodedig am hyrwyddo'r Gymraeg ar draws ei chwricwlwm.

Mae gan yr ysgol, sydd ar hyn o bryd yn Heol yr Orsaf, Llanisien, 42 o blant oed cynradd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er ei bod yn addysgu'n bennaf trwy gyfrwng y Saesneg, anrhydeddwyd hi gyda gwobr arian Siarter Iaith am ei rhagoriaeth o ran hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob rhan o'r ysgol.

Dywedodd adroddiad yn dilyn arfarniad o'i defnydd o'r iaith: "Mae ethos Cymreig cryf yn amlwg o’r eiliad rydych chi'n cyrraedd yr ysgol... mae gan bob dosbarth arddangosfeydd Cymraeg priodol ac mae gan bob dosbarth enwau Cymraeg," ac aeth ymlaen, "Mae cynnydd tuag at dargedau Campws Siarter Iaith Gymraeg yn cael ei arddangos yn falch mewn ardal gymunedol."

Ychwanegodd yr adroddiad fod pob disgybl ac oedolyn yn defnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg yn gyson tra bod 'Criw Cymraeg' yr ysgol yn dewis 'ymadrodd yr wythnos' cyfrinachol y mae disgyblion, dosbarthiadau ac aelodau staff yn cael eu gwobrwyo am ei ddefnyddio.

"Mae pawb yn yr ysgol yn cael ei ystyried yn siaradwr Cymraeg," meddai'r adroddiad, "ac maen nhw i bob pwrpas yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw, ble bynnag a phryd bynnag y bo modd."

Dywedodd y Pennaeth Jamyn Beesley fod gan y 'Criw Cymraeg' gynrychiolwyr o bob dosbarth a’i fod yn cwrdd yn rheolaidd. "Mae'n cymryd perchnogaeth gynyddol ar y Siarter Iaith," meddai. "Maen nhw'n penderfynu sut i integreiddio'r Gymraeg ym mhob maes o'r cwricwlwm ac mae pawb yn mwynhau dysgu popeth am hanes a threftadaeth Cymru a hefyd dysgu am Gymru gyfoes.

"Wrth ddathlu ac ymfalchïo yn eu cynnydd, mae'r ysgol yn awyddus i barhau â'i llwyddiant a datblygu ymhellach, gan anelu at y wobr aur nesaf."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, fod hyn yn gyfnod cyffrous i'r ysgol. "Mae gwaith wedi dechrau i gynyddu'r capasiti yn yr ysgol trwy fuddsoddiad o £23m a fydd yn golygu ei bod yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle newydd - yn Llanrhymni a'r Tyllgoed - a'i hailenwi'n Ysgol Cynefin.

"Mae'n ein hysbrydoli gweld bod yr ysgol, wrth weithio i baratoi ar gyfer y symud sylweddol hwn, hefyd wedi cryfhau ei darpariaeth Gymraeg ac rwy'n falch iawn o weld ei bod wedi cyflawni tystysgrif arian Siarter Iaith."

Mae disgwyl i'r gwaith i adeiladu'r ddau safle ysgol ddechrau yr haf hwn.

·       Mae Siarter Iaith yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i dylunio i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau. Er mwyn cael ei chydnabod am un o'i gwobrau, anogir ysgol i gynnwys pob aelod o'i chymuned – disgyblion, athrawon, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach – wrth hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.