Back
SuperTed – a cherflun nodedig – i ymddangos mewn arddangosfa newydd yng Nghaerdydd

22.07.24
SuperTed, yr arwr anwes a grëwyd gan dîm animeiddio yng Nghaerdydd, oedd un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd y 1980au ac mae'n parhau i swyno plant heddiw.

Bellach, mae'r cymeriad ar fin serennu mewn cynhyrchiad newydd - arddangosfa yn Amgueddfa Caerdydd yn canolbwyntio ar hanes hamdden yn y ddinas.

Mae curaduron yr amgueddfa, sydd wedi’i lleoli yn yr Ais yng nghanol Caerdydd, wedi dod o hyd i boster gwreiddiol yn hyrwyddo'r cartŵn a chanllaw darlunio diddorol i artistiaid ei ddefnyddio wrth greu'r arth boblogaidd.

Uchafbwynt arall o'r arddangosfa yw atgof byw o gynnal Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad yn y ddinas ym 1958. Bydd model 4 troedfedd o daldra o'r taflwr gwaywffon enfawr a safai ar ben siop adrannol Howell yn ystod y gemau yn cael ei arddangos. Mae wedi ei adfer gan staff cadwraeth a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn barod ar gyfer yr arddangosfa ac fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol fel canllaw i grewyr y cerflun go iawn - dywedir ei fod mor fawr fel y gallai'r person a'i cerfluniodd sefyll y tu mewn i'w ben!

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am Ddiwylliant, ei bod hi wrth ei bodd gydag ansawdd yr arddangosion sy'n cael eu harddangos. "Mae pawb yn cofio SuperTed ac mae'n bwysig dathlu ei gysylltiadau â'r diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd," meddai. "Mae stori cerflun y taflwr gwaywffon yn ddiddorol iawn i mi hefyd - mae lleoliad y cerflun gwreiddiol maint llawn yn ddirgelwch, felly efallai y bydd rhywun sy'n ymweld â'r arddangosfa yn gallu taflu rhywfaint o oleuni ar hynny."

Mae'r arddangosfa, a agorodd heddiw, yn dathlu hamdden yng Nghaerdydd o oes Fictoria hyd heddiw. Mae eitemau eraill yn yr arddangosfa yn cynnwys y llythrennau gwreiddiol o Sinema'r Globe ar Heol Albany, y Rhath, a mwy o gof-bethau o Gemau 1958.

Yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'r Amgueddfa yn cynnal cyfres o weithgareddau crefft teuluol bob dydd Mercher, ac ar ail ddydd Gwener mis Awst bydd yr amgueddfa yn cynnwys Dreigiau Drygionus a bydd yn cael ei thrawsnewid yn ardal plant bach a babanod.

Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o fanylion am yr amgueddfa