Back
Rhaglen ddigwyddiadau DYDDiau Da o Haf i bobl ifanc Caerdydd


 
18/7/2024

Ar ôl i gannoedd o bobl ifanc fwynhau chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau ledled y ddinas y llynedd, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd unwaith eto yn trefnu 'DYDDiau Da o Haf', rhaglen sydd â'r nod o ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc 11-25 oed, dros gyfnod y gwyliau.

Bydd y rhaglen ddigwyddiadau'n rhedeg o ganol mis Gorffennaf tan ddiwedd mis Awst ac yn cynnig profiadau cynhwysol, llawn hwyl i bob gallu gan gynnwys gweithgareddau awyr agored, teithiau dydd, teithiau cyfnewid ieuenctid, digwyddiadau cymunedol, twrnament pêl-droed, gweithdai syrcas a meddiannu'r Parc Dŵr a'r Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol.

Bydd clybiau ieuenctid rheolaidd hefyd yn cael eu cynnal ar draws y ddinas i gynnig gweithgareddau fel coginio, celf a chrefft, gemau a chwaraeon, i gyd mewn mannau diogel i bobl ifanc gysylltu â'i gilydd, gwneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Mae Crëwyr Cynnwys Caerdydd, grŵp o bobl ifanc a ymunodd â chreawdwyr ifanc a darlledwr o California i ddysgu sgiliau darlledu a chreu fideos yn ystod rhaglen DYDDiau Da o Haf 2023, yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc 11-17 oed gymryd rhan mewn gwersyll haf digidol. Bydd Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms yn Aberhonddu hefyd yn darparu cyfres o brofiadau awyr agored. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc; "Mae DYDDiau Da o Haf yn cynnig ystod wych o weithgareddau i bobl ifanc o bob gallu a chefndir, gan roi cyfleoedd iddynt ddarganfod angerdd newydd, cysylltu â chyfoedion, a chreu atgofion parhaol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddent fel arall yn gallu manteisio arnynt.

"Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn system gymorth hanfodol i lawer o unigolion ifanc, gan gynnig lle diogel a chlust i wrando drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n effeithio'n gadarnhaol ar fywydau di-rif. Rwy'n annog cynifer o bobl ifanc â phosibl i gymryd rhan yn y rhaglen ddigwyddiadau gyffrous hon fel rhan o'n darpariaeth dros yr haf."

 

Gellir dod o hyd i'r rhaglen ddigwyddiadau ledled y ddinas, fydd yn cael ei diweddaru trwy gydol gwyliau'r haf, yma:https://www.cardiffyouthservices.wales/index.php/cy/digwyddiadau