Back
Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn cydweithio ar astudiaeth Teithio Llesol arloesol

18/7/2024

Mewn cam sylweddol tuag at hyrwyddo teithio cynaliadwy a gwella iechyd y cyhoedd, mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) wedi cyhoeddi ei fod yn cydweithio ag academyddion blaenllaw ar raglen ymyrraeth teithio llesol arloesol. Nod y fenter yw annog cerdded a beicio, helpu i leihau ôl troed carbon Caerdydd a meithrin ffyrdd iachach o fyw.

Mae'r cydweithrediad yn golygu bod CIC yn gweithio'n agos gyda Dr Hannah Littlecott o Brifysgol Bryste a Dr Kelly Morgan o Brifysgol Caerdydd. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd y bartneriaeth yn cynnal gwerthusiad ar ymyrraeth teithio llesol arloesol sy'n ceisio deall a yw newidiadau i deithio llesol mewn tref yng Nghymru yn cynyddu teithiau drwy gerdded, beicio a defnyddio olwynion.

Bydd yr astudiaeth TRAVELS yn asesu'r 'Dref Teithio Llesol' newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Dref Teithio Llesol yn rhoi llawer o newidiadau ar waith yn yr un dref ar yr un pryd. Bydd y rhain yn cynnwys newidiadau i'r amgylchedd, megis lonydd beicio, lle parcio i feiciau neu oleuadau stryd. Bydd hefyd yn gweithio gydag ysgolion a gweithleoedd i annog pobl i ddefnyddio teithio llesol yn amlach. 

Mae aelodau CIC a'r academyddion wedi canolbwyntio ar fireinio dulliau casglu data i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau'r prosiect ac anghenion y gymuned. Daeth cyfranogiad y cyngor ieuenctid ag amrywiaeth o safbwyntiau a syniadau newydd, gan wella dull cyffredinol y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae'r cydweithio hwn yn garreg filltir bwysig yn nhaith Caerdydd tuag at feithrin cymunedau mwy egnïol, iach a chynaliadwy.

"Mae'r mewnwelediadau a'r egni y mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn eu cyfrannu yn amhrisiadwy ac mae cyfranogiad pobl ifanc yn dangos ein hymroddiad i gynaliadwyedd amgylcheddol a byw'n llesol. Drwy weithio ochr yn ochr â'r llywodraeth a sefydliadau academaidd, mae CIC yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol iachach i Gaerdydd a thu hwnt.

"Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant i wead y ddinas, a sicrhau bod lleisiau ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond eu bod yn allweddol wrth barhau â'n taith i wneud hawliau plant yn realiti yng Nghaerdydd, yn dilyn ennill statws dinas gyntaf y DU i fod yn un sy'n Dda i Blant."

Dywedodd Dr Hannah Littlecott: "Roedd ein sesiwn gyda Chyngor Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys cyfarfod ar-lein gyda saith o bobl ifanc. Roedd y bobl ifanc hyn yn ymgysylltu'n fawr ac yn rhoi ymatebion diddorol a llawn i'n cwestiynau, gan arwain at adborth defnyddiol.

 

"Cafodd yr adborth hwn effaith uniongyrchol ar ddyluniad ein prosiect. Er enghraifft, fe benderfynon ni ddefnyddio grwpiau ffocws yn hytrach na chyfweliadau ar gyfer pobl ifanc ac rydym yn bwriadu defnyddio codau QR a'r cyfryngau cymdeithasol i recriwtio pobl ifanc."

 

Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, bydd CIC yn parhau i fod yn eiriolwr ac yn gyfrannwr allweddol gan barhau â'i ymdrechion i ddatblygu a hyrwyddo teithio cynaliadwy a ffyrdd o fyw egnïol ledled Cymru.

I gael gwybod mwy am Gyngor Ieuenctid Caerdydd, ewch iCardiff Youth Council - Every young person has rights: We, as a representative council for 11-25 year olds, advocate for positive change and children's rights across the city.

#CaerdyddSynDdaIBlant