Back
Disgybl o Ysgol Y Wern yn ennill cystadleuaeth gelf Cymru Gyfan

 

9/72024

Mae artist ifanc o Ysgol y Wern yn Llanisien, wedi ennill cystadleuaeth gelf ledled Cymru, gan ddod â balchder i'r ysgol a'i chymuned.

Gwnaeth y gystadleuaeth, a lansiwyd gan Gastell Howell, cyflenwr arlwyo ysgolion enwebedig Caerdydd, wahodd disgyblion ysgolion cynradd o bob cwr o'r wlad i greu gwaith celf yn darlunio eu gwyliau haf delfrydol yng Nghymru a chafwyd ymateb anhygoel gan dros 3000 o artistiaid ifanc.

Roedd y gystadleuaeth yn annog myfyrwyr i greu darluniau yn darlunio gweithgareddau y byddent yn eu mwynhau yn ystod eu gwyliau haf yng Nghymru. O anturiaethau arfordirol i archwilio tirnodau trefol a gwledig, roedd y darnau i gyd yn dathlu atyniadau amrywiol y wlad.

Cipiodd Seth, sy'n ddisgybl 9 oed yn Ysgol y Wern, hanfod twristiaeth Cymru gyda darlun bywiog a dychmygus sydd bellach i'w weld yn amlwg ar lori Castell Howell 16 tunnell ynghyd ag enw Seth a'i ysgol, gan sicrhau bod y gwaith celf yn cael ei weld yn eang iawn.

Mae Seth hefyd wedi derbyn iPad a buddsoddiad hael o £2,500 i'r ysgol.

Dywedodd y Pennaeth, Moira Kellaway:  "Fe wnaeth y gystadleuaeth ein galluogi i ddathlu talent ryfeddol Seth fel artist ifanc ac yn sicr daeth ei ddyluniad buddugol â gwên i wynebau ei gyd-ddisgyblion yma yn Ysgol y Wern. 

 

"Roedd yn bleser llwyr gweld ymateb Seth pan ddaeth y lori i mewn i iard yr ysgol a gwnaeth y ddelwedd ddynamig hoelio'n sylw ni i gyd yn syth."

 

Mae gan Gystadleuaeth Gelf Lori Ysgol Castell Howell hanes o ennyn diddordeb plant mewn gweithgareddau creadigol gyda chystadlaethau blaenorol wedi arwain at £10,000 yn cael ei roi i bedair ysgol gynradd fuddugol, gan gael effaith sylweddol ar gymunedau lleol.

Dywedodd MattLewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Howell: "Doedd dewis enillydd o'r miloedd o geisiadau ddim yn hawdd, ond roedd dyluniad Seth wir yn sefyll allan i ni.  Roedden ni wrth ein bodd â'r darlun lliwgar, bywiog a hardd a oedd wir yn cyfleu'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig."

"Mae'r gystadleuaeth Dylunio Lori i Ysgolion bob amser yn bleser i'w gynnal, ac mae safon y ceisiadau yn gwella bob blwyddyn. Mae'n wych gweld cynifer o blant o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae gwaith celf Seth yn sefyll allan am ei greadigrwydd a'i gynrychiolaeth o harddwch ac amrywiaeth Cymru ac mae'n dyst i ddychymyg bywiog a thalent artistig plant a phobl ifanc ein dinas.

"Rydyn ni wedi gweithio gyda Chastell Howell ers dros wyth mlynedd ac rydyn ni'n ddiolchgar am y cyfle gwych hwn sy'n cynnwys plant ac yn eu hannog i feithrin ymdeimlad o falchder a chysylltiad â'u treftadaeth. Mae'r wobr o fudd i Seth yn bersonol, ond mae hefyd yn cefnogi Ysgol Y Wern i wella eu cyfleusterau y gall disgyblion a staff yr ysgol eu mwynhau.

"Llongyfarchiadau i Seth, edrychwn ymlaen at weld ei waith celf wrth iddo deithio ar hyd a lled y wlad."